Egluro Ein Daliadau Ynglŷn â 1914
Mae’r Beibl yn ein hannog i fod “yn barod bob amser i roi ateb” ynglŷn â’n daliadau, gan ddangos “addfwynder a pharchedig ofn.” (1 Pedr 3:15) Weithiau, gall fod yn anodd egluro dysgeidiaethau dwfn y Beibl, fel ein rhesymau dros gredu bod Teyrnas Dduw wedi dechrau rheoli ym 1914. Er mwyn ein helpu ni, mae cyfres ddwy-ran wedi ei pharatoi gyda’r teitl “A Conversation With a Neighbor—When Did God’s Kingdom Begin Ruling?” Bydd yr erthyglau hyn yn ymddangos yn rhifyn cyhoeddus Watchtower mis Hydref a mis Tachwedd. Wrth ichi ddarllen yr erthyglau, ystyriwch y cwestiynau canlynol a’r ffordd y gwnaeth y cyhoeddwr, Cameron, fynd ati i gynnal y sgwrs.
Sut y gwnaeth ef . . .
ganmol y deiliad a sefydlu tir cyffredin?—Act. 17:22.
dangos gostyngeiddrwydd wrth egluro ei ddaliadau?—Act. 14:15.
Pam roedd hi’n dda bod y cyhoeddwr wedi . . .
adolygu’r wybodaeth cyn dechrau trafod pwyntiau eraill?
seibio bob hyn a hyn a gofyn a oedd y deiliad wedi deall y pethau roedd wedi eu trafod?
osgoi cynnwys gormod o wybodaeth mewn un sgwrs?—Ioan 16:12.
Mor ddiolchgar rydyn ni i Jehofa, yr Addysgwr Mawr, am y ffordd y mae ef yn ein dysgu ac yn ein helpu i egluro dysgeidiaethau dwfn y Beibl i’r rhai sy’n awyddus i’w deall!—Job 36:22.