LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 5/15 tt. 2-3
  • Helpu Pobl Ddall i Ddysgu am Jehofa

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Helpu Pobl Ddall i Ddysgu am Jehofa
  • Ein Gweinidogaeth—2015
  • Erthyglau Tebyg
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Pregethu i Bobl Ddall
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2020
  • Dotiau Sy’n Newid Bywydau
    Sut Mae Eich Cyfraniadau yn Cael eu Defnyddio
  • Gweddïau Dynes Ddall yn Cael eu Hateb
    Profiadau Tystion Jehofa
Ein Gweinidogaeth—2015
km 5/15 tt. 2-3

Helpu Pobl Ddall i Ddysgu am Jehofa

1. Sut dangosodd Iesu drugaredd tuag at bobl ddall?

1 Dim ond ychydig o ddyddiau cyn i Iesu farw, aeth i Jericho. Ar ei ffordd allan o’r ddinas, clywodd Iesu ddau ddyn dall yn gweiddi: “Syr, trugarha wrthym.” Er bod y treialon o flaen Iesu yn pwyso’n drwm ar ei feddwl, fe stopiodd a galw’r dynion ato, a’u hiacháu. (Math. 20:29-34) Sut medrwn ni efelychu trugaredd Iesu tuag at bobl ddall?

2. Sut gallwn dystiolaethu i rywun dall rydyn ni’n ei gyfarfod mewn man cyhoeddus?

2 Byddwch yn Barod i Helpu: Os ydych yn cyfarfod rhywun dall, efallai mewn man cyhoeddus, cyflwynwch eich hunan a gofyn a oes angen help arno. Gan fod rhai yn cymryd mantais ar y deillion, gallen nhw deimlo’n amheus. Ond, os ydyn ni’n gyfeillgar ac yn dangos gwir ddiddordeb ynddyn nhw, bydden nhw’n ymlacio. Cofiwch fod rhai yn gallu gweld yn well nag eraill, felly bydd hyn yn effeithio ar faint o help sydd ei angen arnyn nhw. Ar ôl helpu’r unigolyn, efallai bydd cyfle i ddweud eich bod chi’n dysgu eraill am y Beibl. Cynigiwch ddarllen adnod iddo, er enghraifft Salm 146:8 neu Eseia 35:5, 6. Mae rhai yn darllen Braille, felly gofynnwch a oes ganddo ddiddordeb mewn derbyn llenyddiaeth Braille er mwyn iddo ddysgu mwy am y Beibl. Gallwch hefyd ei helpu i lawrlwytho ffeiliau sain o jw.org. Mae’n bosibl bod rhaglen darllenydd sgrin ar ei gyfrifiadur sy’n darllen ysgrifen sydd ar y sgrin yn uchel. Efallai bydd yn mwynhau’r erthyglau ar jw.org ynghyd ag unrhyw lenyddiaeth a all eu lawrlwytho yn RTF (Fformat Testun Cyfoethog).​—Gweler y blwch “Wrth Helpu Rhywun Dall . . .”

3. Sut medrwn ni chwilio am bobl ddall yn ein tiriogaeth?

3 Chwiliwch am Bobl Ddall: Anaml y bydden ni’n cwrdd â phobl ddall wrth fynd o ddrws i ddrws gan fod nifer ohonyn nhw yn teimlo’n anghyfforddus yn siarad â phobl ddiarth. Felly, mae’n cymryd ymdrech i chwilio am y deillion er mwyn tystiolaethu iddyn nhw. (Math. 10:11) Oes gennych gyd-weithiwr neu ffrind ysgol sy’n ddall? Cymerwch y cyfle i siarad â nhw. Os oes ysgol ar gyfer y deillion yn eich tiriogaeth, cynigiwch roi llenyddiaeth Braille i lyfrgell yr ysgol. A ydych chi’n adnabod rhywun â pherthnasau dall? Oes unrhyw elusennau neu gymdeithasau yn eich tiriogaeth sy’n cynnig gwasanaethau i’r deillion, neu oes unrhyw leoliadau sy’n rhoi cymorth byw i’r rhai sy’n ddall? Esboniwch i aelod y teulu, y derbynnydd, neu’r rheolwr fod Tystion Jehofa yn ceisio helpu’r rhai dall, a chynigiwch ddod â llenyddiaeth Braille neu sain iddo. Dangoswch addewid Duw ynglŷn â sut y byddai’n adfer golwg y rhai dall am byth. Efallai byddwch eisiau dangos y fideo “Without It, I Would Feel Lost,” sydd ar jw.org. Mae’n sôn am hanes dyn dall a elwodd o gael Beibl mewn Braille. Gall esbonio pwrpas eich ymweliad agor y drws i chi gysylltu â mwy o bobl ddall.

4. Beth mae profiad Janet yn ein dysgu ni?

4 Ymwelodd chwaer ddall o’r enw Janet â chartref gyda phreswylwyr dall. Yno, dechreuodd sgwrs â dynes ifanc. Dywedodd Janet wrthi, “Iachaodd Iesu bobl ddall er mwyn dangos yr hyn a fydd yn ei wneud ar gyfer pob un o’r deillion yn y dyfodol.” Wrth drafod Datguddiad 21:3, 4 gyda’i gilydd, esboniodd Janet sut bydd yr addewid yma yn cael ei gyflawni o dan Deyrnas Dduw. Aeth y ddynes ifanc yn ddistaw, ac yna fe ddywedodd: “Dw i erioed wedi clywed hyn o safbwynt person dall. Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n medru gweld yn credu bod pobl yn ddall oherwydd rhywbeth y gwnaethon nhw, neu rywbeth y gwnaeth eu cyndadau.” Anfonodd Janet e-bost i’r ddynes gyda dolen i’r llyfr Beibl Ddysgu, ac maen nhw nawr yn astudio’r Beibl ddwywaith yr wythnos.

5. Er nad ydyn ni’n gallu iacháu’r deillion fel y gwnaeth Iesu, pa fendithion a ddaw o ddangos diddordeb ym mhobl ddall?

5 Wrth gwrs, ni allwn iacháu’r deillion fel y gwnaeth Iesu. Ond, gallwn helpu’r rhai sydd wedi cael eu dallu yn feddyliol gan dduw’r oes bresennol, gan gynnwys y deillion, i ddeall gwirionedd Gair Duw. (2 Cor. 4:4) Iachaodd Iesu y ddau ddyn dall yn ymyl Jericho oherwydd iddo ‘dosturio wrthyn nhw.’ (Math. 20:34) Os ydyn ninnau hefyd yn dangos diddordeb yn y rhai dall, gallwn fwynhau’r fraint o’u helpu nhw i ddysgu am Jehofa, yr un a fydd yn adfer golwg y deillion am byth.

Wrth Helpu Rhywun Dall . . .

  • Edrychwch arnyn nhw wrth siarad, ond peidiwch â chodi eich llais. Er nad yw’r deillion yn gallu gweld, fel arfer maen nhw’n gallu clywed yn iawn.

  • Os ydych yn ei dywys, plygwch eich braich a gadael iddo afael arnoch uwchben eich penelin. Bydd ef yn medru dilyn wrth i chi gerdded hanner cam o’i flaen. Wrth i chi weld ochr palmant, step, polyn, neu unrhyw rwystr arall, mae’n bwysig i’w rybuddio.

  • Mae’n iawn ichi ddefnyddio geiriau sy’n sôn am olwg, er enghraifft “gwelwch” neu “edrychwch,” oherwydd mae’r deillion hefyd yn eu defnyddio nhw. Maen nhw’n “gweld” gyda’u synhwyrau eraill, gan hyd yn oed creu darluniau yn eu dychymyg o’r hyn sy’n cael ei ddisgrifio.

  • Sgwrsiwch mewn man distaw. Yn aml, mae’r deillion yn teimlo’n anghyfforddus mewn lleoliadau swnllyd oherwydd mae’n anodd iddyn nhw wybod beth sy’n digwydd o’u cwmpas.

  • Dywedwch wrtho pan ydych yn ei adael. Bydd hyn yn osgoi creu sefyllfa annifyr lle mae ef yn siarad â’i hun heb iddo wybod.

  • Os yw’r person dall yn dangos diddordeb ond yn byw tu allan i’ch tiriogaeth, cynorthwywch ef i lenwi’r ffurflen Gofynnwch am Astudiaeth Feiblaidd ar jw.org.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu