LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb20 Mawrth t. 7
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Pregethu i Bobl Ddall

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Pregethu i Bobl Ddall
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2020
  • Erthyglau Tebyg
  • Helpu Pobl Ddall i Ddysgu am Jehofa
    Ein Gweinidogaeth—2015
  • Dotiau Sy’n Newid Bywydau
    Sut Mae Eich Cyfraniadau yn Cael eu Defnyddio
  • Profon Nhw Gariad y Gynulleidfa
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
  • Gweddïau Dynes Ddall yn Cael eu Hateb
    Profiadau Tystion Jehofa
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2020
mwb20 Mawrth t. 7
Chwaer ddall yn darllen cyhoeddiad braille gyda’i bysedd.

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Hogi Ein Sgiliau Yn Y Weinidogaeth—Pregethu i Bobl Ddall

PAM MAE’N BWYSIG? Mae llawer o bobl ddall yn teimlo’n anghyfforddus yn siarad â phobl ddiarth. Felly, mae’n gofyn am sgìl arbennig er mwyn tystiolaethu iddyn nhw. Mae Jehofa yn dangos ei ofal dros y dall. (Le 19:14) Gallwn ninnau efelychu ei esiampl drwy gymryd y cam cyntaf i helpu pobl ddall i ddod yn ffrindiau i Jehofa.

SUT I FYND ATI:

  • Chwilia am bobl ddall. (Mth 10:11) Wyt ti’n adnabod rhywun sydd ag aelod o’r teulu sy’n ddall? Oes ’na ysgolion, cartrefi nyrsio, neu wasanaethau yn dy ardal di a fyddai’n hoffi cael cyhoeddiadau ar gyfer pobl ddall?

  • Dangosa ddiddordeb personol. Bydd bod yn gyfeillgar a dangos diddordeb diffuant yn helpu’r person dall i deimlo’n gyfforddus. Ceisia gychwyn sgwrs ar sail rhywbeth lleol sydd o ddiddordeb

  • Rho gymorth ysbrydol. Er mwyn helpu’r rhai sydd â nam ar eu golwg i ddysgu am y Beibl, mae’r gyfundrefn wedi cyhoeddi llenyddiaeth mewn gwahanol fformatiau. Gofynna i’r unigolyn pa fformat sy’n well ganddo. Dylai’r arolygwr gwasanaeth sicrhau bod y gwas llenyddiaeth yn archebu llenyddiaeth yn y fformat cywir

Mae llenyddiaeth i’r rhai sydd â nam ar eu golwg ar gael mewn sawl iaith yn y fformatiau canlynol:

  • Ffeiliau sain oddi ar ein ap a’n gwefan

  • Print bras

  • Braille

  • Ffeiliau electronig ar gyfer dyfais cymryd nodiadau (dyfeisiau electronig cludadwy sydd â syntheseisydd llais a sgrin braille sy’n ailosod)

  • Ffeiliau electronig ar gyfer darllenwyr sgrin (meddalwedd sy’n darllen yn uchel beth sydd ar y sgrin)

Collage: 1. Chwaer yn darllen cyhoeddiad braille. 2. Chwaer yn defnyddio dyfais cymryd nodiadau braille.

Defnyddio cyhoeddiad braille a dyfais cymryd nodiadau braille

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu