Ein Hadnoddau Dysgu
1. Sut mae cyhoeddwyr Cristnogol yn debyg i grefftwyr?
1 Mae crefftwyr yn defnyddio amrywiaeth o offer. Efallai fod rhai o’r offer yn cael eu defnyddio i gyflawni tasg arbennig, ond mae eraill yn cael eu defnyddio’n amlach. Mae crefftwyr profiadol wastad yn cadw’r offer hyn gerllaw, ac maen nhw’n dysgu sut i’w defnyddio mewn ffordd fedrus. Mae’r Beibl yn annog pob Cristion i wneud ei orau yn y weinidogaeth ac i fod yn ‘weithiwr heb achos i gywilyddio.’ (2 Tim. 2:15) Beth yw’r adnodd pwysicaf sydd gennyn ni? Y prif adnodd sydd gennyn ni i ‘wneud disgyblion’ yw Gair Duw. (Math. 28:19, 20) Felly, dylen ni ymdrechu i hogi ein sgìl o “gyflwyno gair y gwirionedd.” Ond hefyd, mae yna offer eraill sy’n cael eu defnyddio’n aml, ac mae’n bwysig i Gristnogion ddysgu sut i ddefnyddio’r rhain mewn ffordd fedrus er mwyn dysgu eraill am y gwir.—Diar. 22:29.
2. Beth yw ein prif adnoddau dysgu?
2 Ein Prif Adnoddau Dysgu: Yn ogystal â’r Beibl, pa adnoddau eraill sydd ar gael inni eu defnyddio? Ein prif adnodd i ddysgu eraill am neges y Beibl yw’r llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? Ar ôl cwblhau astudio’r llyfr hwn gyda myfyrwyr, rydyn ni’n defnyddio’r llyfr “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw” i’w dysgu nhw sut i roi egwyddorion y Beibl ar waith yn eu bywydau bob dydd. Felly, dylen ni ddod yn fedrus wrth ddefnyddio’r ddau lyfr hwnnw. Hefyd, dylen ni ddefnyddio llyfrynnau penodol. Er enghraifft, un o’n prif adnoddau i ddechrau astudiaethau Beiblaidd yw’r llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw! Os oes yna rai yn ein tiriogaeth sy’n ei chael hi’n anodd darllen, neu’n siarad iaith sydd heb lawer o lenyddiaeth ynddi, gallwn ddefnyddio’r llyfryn Gwrando ar Dduw a Byw am Byth. Mae yna adnodd i ddysgu pobl am y gyfundrefn, sef Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw? Hefyd, y mae fideos ar gael sy’n ein helpu ni i wneud disgyblion, gan gynnwys Pam Astudio’r Beibl?, Beth Sy’n Digwydd yn Neuadd y Deyrnas?, ac Oes Gan Dduw Enw? Felly mae’n bwysig inni ddysgu sut i’w defnyddio mewn ffordd fedrus.
3. Yn y dyfodol, beth bydd erthyglau Ein Gweinidogaeth yn ein helpu ni i’w wneud?
3 Yn y dyfodol bydd erthyglau yn Ein Gweinidogaeth yn ein helpu i ddod yn fedrus wrth ddefnyddio’r prif adnoddau dysgu sydd ar gael inni. Wrth inni ymdrechu i ddefnyddio’r adnoddau hyn mewn ffordd alluog, byddwn ni’n dilyn y cyngor ysbrydoledig hwn: “Cadw lygad arnat ti dy hun ac ar yr hyfforddiant a roddi, a dal ati yn y pethau hyn. Os gwnei di felly, yna fe fyddi’n dy achub dy hun a’r rhai sy’n gwrando arnat.”—1 Tim. 4:16.