Pregethwch i “Bawb”
1. Ym mha ffordd y mae efengylwyr yn debyg i grefftwyr medrus?
1 Mae gan grefftwr medrus lawer o dŵls, ac mae’n gwybod pryd a sut i ddefnyddio pob un. Yn yr un modd, mae gennyn ni ddewis o dŵls i’n helpu ni yn ein gwaith o efengylu. Er enghraifft, mae gennyn ni lyfrynnau ar amrywiaeth o bynciau i’n helpu ni i bregethu i “bawb.” (1 Cor. 9:22) Rhestrir rhai ohonyn nhw yn yr atodiad i Ein Gweinidogaeth y mis hwn. Mae’n esbonio ar gyfer pwy y mae’r llyfrynnau wedi eu hysgrifennu, ac yn awgrymu sut y gellir eu cynnig.
2. Pryd medrwn ni ddefnyddio llyfrynnau yn y weinidogaeth?
2 Pryd i Ddefnyddio Llyfrynnau: Bydd crefftwr yn dewis pa un o’i dŵls i’w ddefnyddio yn ôl yr angen. Yn yr un modd, gallwn ni gynnig un o’n llyfrynnau pryd bynnag y byddai’n helpu rhywun, hyd yn oed os nad yw’r llyfryn hwnnw yn gynnig y mis. Er enghraifft, os y llyfr Beibl Ddysgu yw cynnig y mis, a ninnau’n pregethu mewn ardal lle nad oes llawer o ddiddordeb yn y Beibl, efallai y byddai’n well cynnig llyfryn, ac yna gyflwyno’r llyfr Beibl Ddysgu ar ôl inni ennyn diddordeb y person.
3. Pam dylen ni ddysgu sut i ddefnyddio ein tŵls pregethu yn fedrus?
3 Mae’r Ysgrythurau yn canmol y rhai sy’n fedrus yn eu gwaith. (Diar. 22:29) Yn bendant, y gwaith pwysicaf oll yw “gweini fel offeiriad ar Efengyl Duw.” (Rhuf. 15:16) Ymdrechwn, felly, i ddefnyddio ein tŵls yn fedrus er mwyn bod “fel gweithiwr heb achos i gywilyddio am ei waith.”—2 Tim. 2:15.