Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Hyfforddi’r Rhai Newydd
Pam Mae’n Bwysig? Mae’n rhaid i ddisgyblion newydd Iesu ddysgu sut i “gadw’r holl orchmynion” a roddodd inni, gan gynnwys dysgu’r gwirionedd i eraill. (Math. 28:19, 20) Mae llawer o’r rhai newydd eisoes wedi cofrestru ar Ysgol y Weinidogaeth ac efallai wedi dechrau tystiolaethu’n anffurfiol i’w ffrindiau ac i’w perthnasau. Ond, wrth iddyn nhw ddod i werthfawrogi’r hyn y maen nhw’n ei ddysgu, a dod i ddeall bod Jehofa yn dymuno i bawb glywed y newyddion da, efallai byddan nhw’n mynegi eu dymuniad i gymryd rhan yn y gwaith pregethu. (Rhuf. 10:13, 14) Unwaith i’r rhai newydd gael eu cymeradwyo fel cyhoeddwyr difedydd, bydd hyfforddiant da yn eu helpu nhw i fod yn hyderus wrth gymryd y cam hanfodol hwn yn eu cynnydd ysbrydol.—Luc 6:40.
Rhowch Gynnig ar Hyn yn Ystod y Mis:
Cydweithiwch o dŷ i dŷ gyda’ch myfyriwr, ac ewch ag ef ar alwad neu astudiaeth Feiblaidd. Os nad oes gennych chi fyfyriwr, gofynnwch i gyhoeddwr llai profiadol weithio gyda chi.