Dysgu Oddi Wrth Gyhoeddwyr Profiadol
Mae’r cyhoeddwyr profiadol yn ein cynulleidfaoedd yn werthfawr iawn inni. Mae rhai wedi gwasanaethu Jehofa yn ffyddlon am flynyddoedd maith, ac mae eraill wedi datblygu sgiliau da yn y weinidogaeth yn fwy diweddar. Mae’r cyhoeddwyr hyn wedi gweld sut mae Iesu wedi arwain y gynulleidfa Gristnogol yn y dyddiau diwethaf drwy ehangu’r gwaith o bregethu a gwneud disgyblion. (Math. 28:19, 20) Drwy gael rhan yn y weinidogaeth, maen nhw wedi derbyn y “gallu tra rhagorol” wrth wynebu trafferthion a threialon personol. (2 Cor. 4:7) Mae yna lawer i’w ddysgu o’r cyhoeddwyr profiadol hyn. Pan fydd yn bosibl, maen nhw’n dal ar y cyfle i ddefnyddio’u profiad i ddysgu eraill. (Salm 71:18) Felly, dylen ninnau greu cyfleoedd i ddysgu oddi wrthyn nhw. Sut medrwn ni wneud hyn?
Yn y Weinidogaeth. Er mwyn bod yn effeithiol yn y weinidogaeth, mae angen hyfforddiant ar gyhoeddwyr newydd a’r rhai llai profiadol. Gallwn ddysgu llawer drwy wylio sut mae cyhoeddwyr aeddfed yn gwneud y gwaith pregethu. (Gweler yr erthygl “Maintain Your Zeal for the Ministry” yn Watchtower 15 Chwefror, 2015, paragraff tri o dan yr is-deitl “Help Less Experienced Ones.”) Sut rydych chi wedi cael budd o weithio gyda’r rhai profiadol yn y weinidogaeth?
Beth am wahodd cyhoeddwr cymwys i weithio gyda chi ar y weinidogaeth? Os yw’r cyhoeddwr yn anabl, efallai gallwch gynnal un o’ch astudiaethau Beiblaidd yn ei dŷ ef. Ar ddiwedd yr astudiaeth, gofynnwch i’r cyhoeddwr am unrhyw sylwadau neu awgrymiadau.
Treulio Amser Gyda Nhw: Dewch i adnabod cyhoeddwyr profiadol drwy dreulio amser gyda nhw. Gwahoddwch un o’r cyhoeddwyr i’ch addoliad teuluol er mwyn ei gyfweld. Os yw’r cyhoeddwr yn anabl, a allwch drefnu addoliad teuluol yn ei gartref ef? Gofynnwch sut y daeth i mewn i’r gwir. Pa fendithion y mae wedi eu mwynhau? Pa gynnydd y mae wedi ei weld yn lleol? Pa lawenydd y mae wedi ei brofi?
Byddwch yn rhesymol drwy beidio â disgwyl gormod ganddyn nhw. Fel pob un ohonon ni, mae cyhoeddwyr profiadol yn alluog mewn agweddau gwahanol o’r weinidogaeth. (Rhuf. 12:6-8) Mae rhai yn hŷn, ac yn methu treulio llawer o amser gyda ni. Er hynny, mae yna lwyth o bethau i’w dysgu oddi wrthyn nhw oherwydd eu profiad o wasanaethu Jehofa yn ffyddlon.