LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 9/15 t. 2
  • Y Llyfr Imitate Their Faith

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Y Llyfr Imitate Their Faith
  • Ein Gweinidogaeth—2015
  • Erthyglau Tebyg
  • Sut i Gael Nerth o’r Ysgrythurau
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
  • Adolygu Rhan 2
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofah Heddiw?
    Ein Gweinidogaeth—2013
  • Y Llyfr: “God’s Word for Us Through Jeremiah”
    Ein Gweinidogaeth—2012
Gweld Mwy
Ein Gweinidogaeth—2015
km 9/15 t. 2

Y Llyfr Imitate Their Faith

1. Beth mae’r llyfr Imitate Their Faith yn ei drafod?

1 Mae’r llyfr Imitate Their Faith yn edrych yn fanwl ar hanesion 14 o ddynion a merched ffyddlon yn y Beibl. Mae’n gwneud hyn mewn modd sy’n dod â chymeriadau ffyddlon yn fyw yn ein meddyliau, ac mae hyn yn ein helpu ni i’w gweld fel pobl go iawn a wynebodd anawsterau wrth addoli Jehofa. Mae’r llyfr hefyd yn dysgu gwersi y gallwn ni i gyd eu rhoi ar waith yn ein bywydau heddiw.​—Heb. 6:12.

2. Esboniwch rai o nodweddion y llyfr Imitate Their Faith.

2 Nodweddion: Mae’r llyfr yn cynnwys llinell amser a mapiau i’n helpu ni i weld pa bryd a yn lle roedd pob cymeriad yn byw. Hefyd, mae pob pennod yn cynnwys y rhan “To Think About. . . ,” sy’n ein helpu ni i fyfyrio ar yr hanesion, a rhoi’r gwersi ymarferol rydyn ni’n eu dysgu ar waith. Mae’r llyfr yn llawn lluniau lliwgar sydd wedi eu hymchwilio’n fanwl ac sy’n helpu dod â’r hanesion yn fyw.

3. Beth y gallwn ni ei wneud i elwa ar astudio’r llyfr hwn?

3 Sut Gallwch Chi Elwa? Mae llythyr agoriadol y Corff Llywodraethol yn ein hannog ni i wneud hyn: “Defnyddiwch eich dychymyg a’ch synhwyrau. Ceisiwch deimlo’r hyn yr oedd y cymeriadau’r Beibl yn ei deimlo, a gweld yr hyn a welon nhw. Cymharwch eu hymateb nhw â’r ffordd y buasech chi wedi ymateb i’r un sefyllfa.” Wrth gwrs, nid oes angen mynd dros ben llestri ond dylen ni ddychmygu’r hyn y mae’r hanes ysbrydoledig yn ei ddweud a cheisio cydymdeimlo â’r cymeriadau. Bydd hi’n cymryd amser i fyfyrio ar yr hanesion hyn.—Neh. 8:8.

4. Pam mae angen inni astudio’r llyfr Imitate Their Faith?

4 Rydyn ni’n byw mewn byd sy’n ceisio erydu neu wanhau ein ffydd a hynny bob dydd. Mae’r llyfr hwn, ynghyd â’r gyfres o erthyglau yn y Watchtower sy’n sail iddo, yn anrheg werthfawr oddi wrth Jehofa sy’n ein helpu ni i gryfhau ein ffydd. (Iago 1:17) Felly, beth am inni fanteisio’n llawn ar y llyfr hwn drwy ei astudio yn ein Haddoliad Teuluol?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu