EIN BYWYD CRISTNOGOL
Y Bywyd Gorau Oll
Mae llawer o ddrysau ar agor i bobl ifanc yng nghyfundrefn Jehofa. Gwyliwch y fideo The Best Life Ever i weld sut defnyddiodd Cameron ei hamser yn gall pan oedd hi’n ifanc. Yna, atebwch y cwestiynau isod. (Ewch i adran Saesneg jw.org, ac edrychwch o dan BIBLE TEACHINGS > TEENAGERS.)
Beth sydd wastad wedi bod yn rhan bwysig o fywyd Cameron?
Pryd a sut penderfynodd hi wneud mwy yn y weinidogaeth?
Beth a wnaeth er mwyn paratoi ar gyfer gwasanaethu mewn gwlad lle’r oedd mwy o angen?
Pa bethau oedd yn her i Cameron yn y wlad newydd?
Sut mae gwasanaethu Jehofa mewn lle newydd yn gallu bod o les inni?
Pa fendithion gafodd Cameron?
Pam mae gwasanaethu Jehofa yn arwain i’r bywyd gorau oll?
Pa ddrysau eraill sydd ar agor i bobl ifanc yng nghyfundrefn Jehofa?