LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb17 Mehefin t. 8
  • Cael Llawenydd Wrth Bregethu’r Newyddion Da

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Cael Llawenydd Wrth Bregethu’r Newyddion Da
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
  • Erthyglau Tebyg
  • Cyhoeddwn yr Efengyl Hon am y Deyrnas
    Canwch Fawl i Jehofah Geiriau yn Unig
  • “Ewch, . . . a Gwnewch Ddisgyblion o’r Holl Genhedloedd”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
  • Sut Mae’r Newyddion Da yn Cael ei Gyhoeddi?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Llawenydd—Rhinwedd Rydyn Ni’n ei Chael Gan Dduw
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
Gweld Mwy
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
mwb17 Mehefin t. 8

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cael Llawenydd Wrth Bregethu’r Newyddion Da

Wyt ti erioed wedi’i chael hi’n anodd i bregethu? Wel, do, fyddai ateb sawl un i’r cwestiwn hwnnw. Pam? Efallai fod difaterwch neu gasineb yn codi’n aml yn ein tiriogaeth neu fod gennyn ni ofn siarad â phobl ddiarth. Yn ddi-os, gall y pethau hyn daflu dŵr oer dros ein llawenydd. Eto, rydyn ni’n addoli’r Duw hapus sydd eisiau inni ei wasanaethu gyda llawenydd. (Sal 100:2) Beth yw tri rheswm da dros gael llawenydd wrth bregethu?

Yn gyntaf, rydyn ni’n cyhoeddi neges o obaith. Er bod gobaith yn lleihau yn ein cymunedau heddiw, gallwn lenwi calonnau pobl gyda “newyddion da.” (Esei 52:7) Ond gall newyddion da Teyrnas Dduw roi llawenydd i ninnau hefyd. Cyn mynd allan i bregethu, myfyria ar y bendithion a ddaw ar y ddaear o dan Deyrnas Dduw.

Yn ail, mae’r newyddion da a bregethwn yn dod â manteision ysbrydol a chorfforol i’r bobl sy’n gwrando. Maen nhw’n dysgu rhoi’r gorau i arferion niweidiol a chael y gobaith o fywyd tragwyddol. (Esei 48:17, 18; Rhu 1:16) Gallwn ddychmygu ein hunain mewn gwaith chwilio ac achub. Er nad yw pawb eisiau cael eu hachub, daliwn ati i chwilio am y rhai a fydd yn ymateb.—Mth 10:11-14.

Yn drydydd, a phwysicaf oll, mae ein pregethu yn anrhydeddu Jehofa, sy’n gwerthfawrogi ein gwaith yn fawr iawn. (Esei 43:10; Heb 6:10) Ar ben hynny, mae yn hael wrth roi ei ysbryd glân inni er mwyn cyflawni’r gwaith. Felly, ymbilia ar Jehofa am lawenydd, sy’n dod o’r ysbryd glân. (Ga 5:22) Gyda’i gymorth, gallwn drechu ein pryderon a phregethu yn gwbl ddi-ofn. (Act 4:31) Yna, beth bynnag yw’r ymateb yn ein tiriogaeth, cawn lawenydd yn ein haseiniad i bregethu.—Esec 3:3.

Agweddau gwahanol wrth bregethu—anhapus a llawen

Pa agwedd hoffet ei chael yn y weinidogaeth? Sut gelli di ddangos dy fod yn hapus?

GWYLIA’R FIDEO REGAIN JOY THROUGH STUDY AND MEDITATION, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pam dylen ni roi’r flaenoriaeth i fwydo’n hunain yn ysbrydol, hyd yn oed os treuliwn lawer o oriau yn pregethu bob mis?

  • Ym mha ffordd dylen ni efelychu Mair?

  • Pryd wyt ti’n gwneud amser i fyfyrio ar Air Duw?

  • Beth sy’n dod â llawenydd i ti wrth bregethu’r newyddion da?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu