LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb17 Mehefin t. 7
  • Cadw Safonau Moesol Jehofa

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Cadw Safonau Moesol Jehofa
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
  • Erthyglau Tebyg
  • Pam Mae Ein Gwisg a Thrwsiad yn Bwysig?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Ydy’r Hyn Rwyt Ti’n ei Wisgo yn Anrhydeddu Duw?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
  • A Oes Gen Ti Galon Dyner?
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
  • Da a Drwg: Y Dewis Sydd o’ch Blaen Chi
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2024
Gweld Mwy
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
mwb17 Mehefin t. 7

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cadw Safonau Moesol Jehofa

Mae Jehofa Dduw yn gosod safonau moesol ar gyfer dynol-ryw. Er enghraifft, mae’n datgan bod priodas yn bartneriaeth barhaol rhwng dyn a dynes. (Mth 19:4-6, 9) Mae Duw yn condemnio pob math o anfoesoldeb rhywiol. (1Co 6:9, 10) Ganddo ef hefyd y cawn egwyddorion ynglŷn â’n gwisg a thrwsiad sy’n gosod ei bobl ar wahân.—De 22:5; 1Ti 2:9, 10.

Yn y byd sydd ohoni heddiw, mae llawer yn gwrthod safonau Jehofa. (Rhu 1:18-32) Maen nhw’n caniatáu i ffasiwn gael dylanwad ar eu gwisg a thrwsiad, a’u hymddygiad hefyd. Mae llawer yn fflawntio eu hymddygiad drwg ac yn beirniadu eraill sy’n byw yn ôl safon wahanol.—1Pe 4:3, 4.

Mae’n rhaid i Dystion Jehofa fod yn ddewr wrth gadw safonau moesol Duw. (Rhu 12:9) Sut? Dylen ni ddefnyddio tact i esbonio yr hyn sy’n dderbyniol ganddo. Ond mae angen inni hefyd gadw safon uchel yn ein bywydau ein hunain. Er enghraifft, wrth ddewis steil o wisg a thrwsiad, gallwn ofyn i ni’n hunain: ‘Ydy fy newisiadau yn adlewyrchu safonau Jehofa neu safonau’r byd? Ydy fy ngwisg a thrwsiad yn gwneud imi sefyll allan fel Cristion sy’n parchu Duw?’ Neu wrth ddewis rhaglen neu ffilm i’w wylio, cawn ofyn i ni’n hunain: ‘A fyddai Jehofa’n cymeradwyo’r rhaglen? Safonau moesol pwy sy’n cael eu hyrwyddo? A fydd fy newis o adloniant yn debygol o danseilio fy moesau? (Sal 101:3) A allai fy newis fod yn faen tramgwydd i fy nheulu neu eraill?’—1Co 10:31-33.

Pam mae hi’n bwysig i gadw safonau moesol Jehofa? Yn fuan bydd Crist Iesu yn dinistrio’r cenhedloedd a phob drygioni. (Esec 9:4-7) Dim ond y rhai sy’n gwneud ewyllys Duw fydd ar ôl. (1In 2:15-17) Gad inni, felly, hybu safonau moesol Jehofa fel bod y rhai sy’n gweld ein hymddygiad da yn clodfori Duw.—1Pe 2:11, 12.

Dynes yn dewis dillad

Beth mae fy newis o wisg a thrwsiad yn dweud am fy safonau moesol i?

GWYLIA’R FIDEO DOD YN FFRIND I JEHOFA—UN DYN, UN DDYNES AC YNA YSTYRIA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pam mae hi’n ddoeth i fyw yn ôl safonau Jehofa?

  • Pam dylai rhieni ddechrau dysgu safonau moesol Jehofa i’w plant pan yn ifanc iawn?

  • Sut gall yr hen a’r ifanc helpu pobl i elwa ar ddaioni Duw?

BETH BYDDET TI’N EI DDWEUD PETAI RHYWUN YN DWEUD . . .

  • “Beth yw dy farn di ar fod yn hoyw?”

  • “Mae agwedd y Beibl tuag at fod yn hoyw yn gul!”

  • “Dydy pobl hoyw ddim yn gallu newid y ffordd y maen nhw; fel ’na maen nhw wedi cael eu geni.”

(yp1-E pen. 23; yp2-E pen. 28)

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu