LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp24 Rhif 1 tt. 14-15
  • Da a Drwg: Y Dewis Sydd o’ch Blaen Chi

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Da a Drwg: Y Dewis Sydd o’ch Blaen Chi
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2024
  • Erthyglau Tebyg
  • Ydy Safonau Moesol y Beibl yn Berthnasol Heddiw?
    Pynciau Eraill
  • Mae Pobl Jehofa yn Caru Cyfiawnder
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Da a Drwg: Y Beibl​—⁠Arweiniad Dibynadwy
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2024
  • Cadw Safonau Moesol Jehofa
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2024
wp24 Rhif 1 tt. 14-15
Y dyn ifanc o’r erthyglau cynt yn edrych yn hapus wrth iddo sbio i’r pellter ar ôl cyrraedd brig y mynydd.

Da a Drwg: Y Dewis Sydd o’ch Blaen Chi

Bydd y safonau moesol rydyn ni’n dewis eu dilyn yn effeithio’n fawr ar ein bywydau. Mae Jehofa Dduw yn gwybod hynny, a dyna pam mae eisiau inni fyw yn ôl ei safonau.

Mae Jehofa eisiau inni fwynhau bywyd llawn heddwch a hapusrwydd.

“Fi ydy’r ARGLWYDD dy Dduw, sy’n dy ddysgu di er dy les, ac yn dy arwain di ar hyd y ffordd y dylet ti fynd. O na fyddet ti wedi gwrando ar fy ngorchmynion! Byddai dy heddwch yn llifo fel afon, a dy gyfiawnder fel tonnau’r môr.”—Eseia 48:​17, 18.

Fel ein Creawdwr, mae Duw yn gwybod y ffordd orau dylen ni fyw. Mae eisiau inni ddilyn ei arweiniad oherwydd mae’n dda inni. Pan ydyn ni’n dilyn gorchmynion Duw, does dim rhaid inni ddyfalu a ydy ein dewis yn un da neu beidio. Byddwn ni’n gwneud y penderfyniad cywir bob tro, ac yn cael ein harwain at heddwch a hapusrwydd.

Dydy Jehofa ddim yn gofyn inni wneud rhywbeth sydd y tu hwnt i’n cyrraedd.

“Dydy beth dw i’n ei orchymyn i chi heddiw ddim yn anodd i’w ddeall, nac yn amhosib i’w gyrraedd.”—Deuteronomium 30:11.

Efallai bydd byw yn ôl safonau Duw yn gofyn am inni wneud newidiadau yn y ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn ymddwyn. Ond, dydy Jehofa ddim yn gofyn gormod gynnon ni. Wedi’r cwbl, mae ein Creawdwr yn gwybod ein galluoedd. Wrth inni ddod i adnabod Jehofa yn well, byddwn ni’n dysgu “dydy ei orchmynion ddim yn feichus.”—1 Ioan 5:3.

Dau o Dystion Jehofa yn defnyddio’r llyfr “Mwynhewch Fywyd am Byth!” i astudio’r Beibl gyda dynes.

Mae Jehofa yn addo helpu’r rhai sy’n dilyn ei safonau.

“Fi, yr ARGLWYDD, ydy dy Dduw di, yn rhoi cryfder i dy law dde di, ac yn dweud wrthot ti: ‘Paid bod ag ofn. Bydda i’n dy helpu di.’”—Eseia 41:13.

Gall Duw ein helpu ni i gwrdd â’i ofynion moesol. Mae’n ein helpu ni drwy ei Air y Beibl, sy’n rhoi anogaeth a gobaith inni.

Mae miliynau o bobl ar draws y byd wedi gweld bod byw yn ôl safonau’r Beibl wedi gwella eu bywydau. Beth am ddysgu mwy am y cyngor da sydd yn y Beibl? Lle da i gychwyn fyddai’r llyfryn Mwynhewch Fywyd Am Byth! sydd ar gael am ddim ar jw.org. Mae’n cynnwys y gwersi canlynol:

  • Sut Gall y Beibl Eich Helpu?

  • Mae’r Beibl yn Rhoi Gobaith Inni

  • Allwch Chi Ymddiried yn y Beibl?

Wrth ichi archwilio Gair Duw, byddwch chi’n gweld nad ydy’r Beibl yn hen ffasiwn. Mae’n gwbl ddibynadwy ac “yn sefyll am byth.” (Salm 111:8) Dilyn safonau moesol y Beibl ydy’r ffordd orau inni fyw. Ond, dydy Duw ddim yn ein gorfodi ni i wneud hynny. (Deuteronomium 30:​19, 20; Josua 24:15) Dyna’r dewis sydd o flaen pob un ohonon ni.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu