EIN BYWYD CRISTNOGOL
Cyfreithloni’r Gwaith yn Nhalaith Cwebéc
Pan gafodd Paul ei ddwyn i brawf, apeliodd at Gesar. Drwy ddefnyddio ei hawliau fel dinesydd Rhufeinig, rhoddodd esiampl inni ei dilyn heddiw. Gwylia’r fideo The Legalization of the Work in Quebec, a dysga sut defnyddiodd y brodyr eu hawliau cyfreithiol i amddiffyn y newyddion da yn Cwebéc. Yna ateba’r cwestiynau canlynol:
Pa heriau a wynebodd ein brodyr yn Cwebéc?
Pa daflen arbennig gwnaethon nhw ei dosbarthu, a beth oedd y canlyniad?
Beth ddigwyddodd i’r Brawd Aimé Boucher?
Beth a benderfynodd Goruchaf Lys Canada yn achos y Brawd Boucher?
Pa hawl cyfreithiol prin ei ddefnydd y manteisiodd y brodyr arno, a beth oedd y canlyniad?
Beth ddigwyddodd ar ôl i offeiriaid berswadio’r heddlu i ymyrryd mewn cyfarfod Cristnogol?