LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb19 Chwefror t. 3
  • A Wyt Ti’n Dirnad Priodoleddau Anweledig Duw?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • A Wyt Ti’n Dirnad Priodoleddau Anweledig Duw?
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2019
  • Erthyglau Tebyg
  • Rhyfeddodau’r Greadigaeth yn Datgelu Gogoniant Duw
    Ein Gweinidogaeth—2012
  • Dysga Fwy am Jehofa o’i Greadigaeth
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
  • Defnyddiwch y Greadigaeth i Ddysgu Eich Plant am Jehofa
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
  • Y Greadigaeth yn Datgelu Cariad Duw
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2021
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2019
mwb19 Chwefror t. 3

EIN BYWYD CRISTNOGOL

A Wyt Ti’n Dirnad Priodoleddau Anweledig Duw?

Pan wyt ti’n edrych ar flodyn lliwgar, ac ysblander sêr y nen, neu ar raeadr yn rhuo, a wyt ti’n gweld gwaith llaw’r Creawdwr? Mae’r greadigaeth o’n cwmpas yn datgelu rhinweddau anweledig Duw a’u gwneud yn amlwg. (Rhu 1:20) Drwy gymryd amser i fyfyrio ar yr hyn a welwn â’n llygaid, gallwn ddirnad nerth, cariad, doethineb, a chyfiawnder Duw, ynghyd â’i haelioni.—Sal 104:24.

Pa elfennau o waith creadigol Jehofa wyt ti’n sylwi arnyn nhw bob dydd? Hyd yn oed os wyt ti’n byw mewn dinas, mae’n debyg dy fod yn gweld coed neu adar. Bydd cymryd amser i sylwi ar greadigaeth Jehofa yn gallu ein helpu i leihau pryder, i ganolbwyntio ar y pethau pwysicaf yn hytrach na’n problemau, ac i gryfhau ein ffydd yng ngallu Jehofa i ofalu amdanon ni am byth. (Mth 6:25-32) Os oes gen ti blant, helpa nhw i ddirnad rhinweddau rhagorol Jehofa. Wrth i’n gwerthfawrogiad o’r greadigaeth o’n cwmpas dyfu, byddwn ni’n agosáu at ein Creawdwr.—Sal 8:3, 4.

GWYLIA’R FIDEO THE WONDERS OF CREATION REVEAL GOD’S GLORY—LIGHT AND COLOR, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Sut mae pigmentau yn ein galluogi i weld lliwiau?

  • Beth sy’n achosi i symudliw ddisgleirio?

  • Pam gallwn weld gwahanol liwiau yn yr awyr?

  • Pa liwiau trawiadol wyt ti wedi eu gweld yn y greadigaeth yn dy ardal di?

  • Pam dylen ni gymryd amser i sylwi ar fyd natur?

Rhosyn pinc, glöyn byw glas, ffrwythau lliwgar, a machlud haul

Beth mae golau a lliw yn ei ddatgelu inni am briodoleddau Jehofa?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu