Rhyfeddodau’r Greadigaeth yn Datgelu Gogoniant Duw
Mae llawer o bobl yn hoffi edrych ar y greadigaeth. Ond eto, nid pawb sy’n sylweddoli bod hyn yn rhoi cipolwg iddyn nhw ar feddwl a theimladau ein Creawdwr. (Rhuf. 1:20) Amser maith yn ôl, dysgodd Dafydd am Jehofah drwy ddarllen Ei Air ysbrydoledig. Ond hefyd, fe ddaeth i adnabod Duw drwy edrych ar y greadigaeth. (Salm 8:3, 4) Mae’r DVD The Wonders of Creation Reveal God’s Glory yn ein helpu ni, ein plant, a’r rhai sy’n astudio’r Beibl i edrych yn fanylach ar y greadigaeth, ac i weld priodoleddau a natur ein Creawdwr, ac i fynd yn agosach ato. Ar ôl ichi wylio’r DVD, a fedrwch chi ateb y cwestiynau canlynol?
(1) Sut mae maint a threfn y bydysawd yn eich gwneud chi’n fwy ymwybodol o fawredd Jehofah? (Ese. 40:26) (2) O ystyried dŵr yn fanwl, beth gallwn ni ei ddysgu am Dduw? (Dat. 14:7) (3) Sut mae maint y ddaear a’i phellter o’r haul yn dangos doethineb Jehofah? (4) Beth yw pwrpas y lleuad? (Salm 89:37) (5) Sut mae Jehofah wedi creu bodau dynol er mwyn iddyn nhw fedru mwynhau bywyd? (6) Beth yw DNA? (Salm 139:16) (7) Sut mae bodau dynol yn wahanol i bob peth arall y mae Jehofah wedi ei greu ar y ddaear? (Gen. 1:26) (8) Beth rydych chi’n edrych ymlaen ato yn y byd newydd?
Adnoddau Ychwanegol: (9) O le mae lliwiau yn dod? (10) Sut mae dŵr yn symud yn erbyn disgyrchiant i gyrraedd brigau uchaf y coed? (11) Pa waith mae dŵr yn ei wneud yn y corff? (12) Rhowch enghreifftiau sy’n dangos sut mae pethau byw yn cydweithio â’i gilydd. (13) Sut mae creaduriaid yn gwybod y dylen nhw ffurfio partneriaethau â chreaduriaid eraill? (14) Beth yw’r “ongl aur,”ac yn lle y gwelir esiamplau ohoni?
“Edrychwch” ar Greadigaeth Jehofah: Fe wnaeth Iesu ein hannog ni i ‘edrych ar adar yr awyr’ ac i ‘ystyried lili’r maes.’ (Math. 6:26, 28) Wrth wneud hynny, fe fyddwn yn cryfhau ein ffydd a chynyddu ein hyder yn y Creawdwr. Byddwn ni’n dod yn fwy ymwybodol o’i ddoethineb, ei gariad, a’i allu i achub ei bobl. Yn hytrach na gadael i bethau’r byd ddwyn eich sylw, rhowch amser o’r neilltu i edrych ar ryfeddodau creadigaeth Jehofah, gan fyfyrio ar yr hyn y mae’n ei ddatgelu am ogoniant Duw.—Salm 19:1.