LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb19 Chwefror t. 7
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Stopio Astudiaethau Anffrwythlon

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Stopio Astudiaethau Anffrwythlon
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2019
  • Erthyglau Tebyg
  • Dewrder
    Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
  • Sut i Helpu Myfyriwr y Beibl i Gyrraedd Bedydd—Rhan Dau
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Fel Cynulleidfa, Helpwch Fyfyrwyr y Beibl i Gyrraedd Bedydd
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
  • Sut i Helpu Myfyriwr y Beibl i Gyrraedd Bedydd—Rhan Un
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
Gweld Mwy
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2019
mwb19 Chwefror t. 7
Brawd yn siarad â myfyriwr y Beibl

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Stopio Astudiaethau Anffrwythlon

PAM MAE’N BWYSIG: Mae’n rhaid i bobl alw ar enw Jehofa i gael eu hachub. (Rhu 10:13, 14) Eto, nid yw pawb sy’n cytuno astudio’r Beibl eisiau byw yn ôl safonau Jehofa. Manteisiwn yn llawn ar ein hamser gwerthfawr yn y weinidogaeth drwy helpu’r rhai sydd wir eisiau gwneud newidiadau i blesio Jehofa. Os nad yw myfyriwr y Beibl yn gwneud digon o gynnydd ar ôl cyfnod rhesymol, peth doeth fyddai ailgyfeirio ein hymdrechion at y rhai y mae Jehofa yn eu denu ato’i hun a’i gyfundrefn. (In 6:44) Wrth gwrs, os bydd y person yn newid ac yn dangos agwedd gywir tuag at fywyd tragwyddol, yna byddwn ni’n falch o ailddechrau’r astudiaeth Feiblaidd.

SUT I FYND ATI:

  • Rho ganmoliaeth i’r myfyriwr am ddymuno gwybodaeth gywir.—1Ti 2:4

  • Pwysleisia bwysigrwydd rhoi’r hyn a ddysgwyd ar waith.—Lc 6:46-49

  • Mewn ffordd garedig, trafoda ddameg Iesu am yr heuwr, a gofyn iddo ystyried beth sy’n ei ddal yn ôl.—Mth 13:18-23

  • Gan ddefnyddio tact esbonia pam rwyt ti’n dod â’r astudiaeth i ben

  • Gad iddo wybod y byddi di’n galw arno o bryd i’w gilydd i’w annog, ac y gall yr astudiaeth ailddechrau os bydd yn gwneud cynnydd

GWYLIA’R FIDEO, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Beth ddysgaist ti o’r sgwrs a oedd yn awgrymu nad oedd y myfyriwr yn gwneud cynnydd ysbrydol?

  • Sut gwnaeth y cyhoeddwr helpu’r myfyriwr i ddeall bod angen iddo wneud newidiadau?

  • Sut dangosodd y cyhoeddwr ei fod yn fodlon ailddechrau’r astudiaeth yn y dyfodol pan fo’r myfyriwr yn barod?

Cyn iti ddod ag astudiaeth Feiblaidd i ben, ceisia arweiniad Jehofa mewn gweddi. Wrth iti ystyried oedran y myfyriwr neu gyfyngiadau eraill, edrycha am arwyddion ei fod yn gwneud cynnydd rhesymol. Ydy’r person yn . . .

  • cadw ei drefniant i astudio?

  • paratoi ar gyfer yr astudiaeth?

  • mynychu’r cyfarfodydd?

  • newid ei fywyd yn unol ag egwyddorion y Beibl?

  • rhannu’r hyn y mae’n ei ddysgu ag eraill?

  • ymbellhau oddi wrth gau grefydd?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu