EIN BYWYD CRISTNOGOL
Wyt Ti Wedi Paratoi?
Pe bai trychineb naturiol yn taro dy ardal, a fyddet ti’n barod? Gall daeargrynfeydd, corwyntoedd, tanau gwyllt, a llifogydd fod yn sydyn ac yn ddinistriol iawn. Hefyd, gall ymosodiadau terfysgol, protestiadau, ac epidemigau ddigwydd yn unrhyw le yn ddirybudd. (Pre 9:11) Ddylen ni ddim meddwl na fydd y pethau hyn yn digwydd yn ein hardal ni.
Mae’n rhaid i bob un ohonon ni gymryd camau priodol i baratoi ar gyfer trychineb. (Dia 22:3) Er bod cyfundrefn Jehofa yn rhoi cymorth pan fydd trychineb yn taro, mae gynnon ni i gyd y cyfrifoldeb o fod yn barod.—Ga 6:5.
GWYLIA’R FIDEO ARE YOU PREPARED FOR A NATURAL DISASTER? AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Sut gallwn ni baratoi’n ysbrydol ar gyfer trychineb?
Pam mae’n bwysig i . . .
• gyfathrebu’n dda â’r henuriaid cyn, yn ystod, ac ar ôl trychineb?
• paratoi bag argyfwng?—g17.5-E 6
• adolygu’r gwahanol fathau o drychinebau a allai ddigwydd a beth dylen ni ei wneud ym mhob sefyllfa?
Pa dri pheth gallen ni eu gwneud i helpu rhai sy’n dioddef ar ôl trychineb?