EIN BYWYD CRISTNOGOL
Ceisia Weld y Darlun Llawn
Wrth ddarllen hanesion y Beibl, ceisia weld y darlun llawn. Dysga am y cyd-destun, y bobl, a’r rhesymau y tu ôl i’w gweithredoedd. Dychmyga dy hun yn y sefyllfa. Beth sydd i’w weld, ei glywed, a’i arogli, a sut roedd y cymeriadau yn teimlo?
GWYLIA’R FIDEO ENHANCE YOUR BIBLE READING—EXCERPT, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Pam efallai nad oedd Joseff a’i frodyr wastad yn cyd-dynnu’n dda?
Pam efallai roedd brodyr Joseff yn ymateb yn benboeth ar adegau?
Beth gallwn ni ei ddysgu o’r Ysgrythurau am Jacob, tad Joseff?
Pa wers hyfryd roddodd Jacob i’w feibion ynglŷn â sut i dorri dadleuon?
Sut rwyt ti wedi elwa ar wylio’r fideo hwn?