TRYSORAU O AIR DUW | EXODUS 6-7
“Cei Weld Beth Fydda i’n ei Wneud i’r Pharo”
Cyn iddo ddod â’r plâu ar yr Aifft ac achub yr Israeliaid o gaethiwed, gwnaeth Jehofa roi gwybod i’r Israeliaid am ei gynllun. Byddai Jehofa yn dangos ei nerth mewn ffyrdd doedden nhw erioed wedi eu gweld o’r blaen, a byddai’r Eifftiaid yn bendant yn gwybod pwy ydy Jehofa. Roedd gweld addewidion Duw yn dod yn wir yn cryfhau ffydd yr Israeliaid a lleihau’r effaith cafodd gau grefydd yr Aifft arnyn nhw.
Sut mae’r hanes hwn o’r Beibl yn cryfhau dy ffydd?