EIN BYWYD CRISTNOGOL
Dangoswn Gariad Drwy Gefnogi Disgyblaeth Jehofa
Mae diarddel yn amddiffyn y gynulleidfa ac yn disgyblu pechaduriaid diedifar. (1Co 5:6, 11) Pan ydyn ni’n cefnogi disgyblaeth o’r fath gan Jehofa, dangoswn gariad. Sut gall hyn fod yn wir pan fydd diarddel rhywun yn achosi poen emosiynol i bawb mae’n effeithio, gan gynnwys y teulu agos a’r pwyllgor barnwrol?
Yn bwysicaf oll, dangoswn ein bod ni’n caru enw da Jehofa a’i safonau sanctaidd. (1Pe 1:14-16) Rydyn ni hefyd yn dangos cariad at y person sydd wedi ei ddiarddel. Gall disgyblaeth gref, er ei bod yn boenus, ddod â heddwch a chyfiawnder. (Heb 12:5, 6, 11) Petaen ni’n cymdeithasu gyda rhywun sydd wedi ei ddiarddel, neu wedi ymddiarddel, byddai hynny’n ymyrryd â disgyblaeth Jehofa. Cofia, mae Jehofa yn disgyblu ei bobl i’r graddau maen nhw’n eu haeddu. (Jer 30:11) Ein gobaith ydy i’r person droi’n ôl at ein Tad trugarog. Yn y cyfamser, rydyn ni’n parhau i gefnogi disgyblaeth Jehofa a chadw at ein rhaglen ysbrydol.—Esei 1:16-18; 55:7.
GWYLIA’R FIDEO MAINTAIN LOYALTY WITH A UNIFIED HEART, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Pa boen mae rhieni Cristnogol yn ei theimlo pan fydd plentyn yn cefnu ar Jehofa?
Ym mha ffyrdd gall y gynulleidfa gefnogi aelodau ffyddlon y teulu?
Pa hanes Beiblaidd sy’n dangos bod ffyddlondeb i Jehofa yn bwysicach na ffyddlondeb i’n teulu?
Sut rydyn ni’n rhoi ffyddlondeb i Jehofa o flaen ffyddlondeb i’n teulu?