LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb21 Mai t. 7
  • Disgyblaeth—Mynegiant o Gariad Jehofa

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Disgyblaeth—Mynegiant o Gariad Jehofa
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2021
  • Erthyglau Tebyg
  • Disgyblaeth—Tystiolaeth Fod Duw yn Ein Caru
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
  • “Gwrandwch ar Beth Dw i’n Ddweud a Byddwch Ddoeth”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
  • Disgyblaeth—Tystiolaeth o Gariad Jehofa
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2019
  • Dangoswn Gariad Drwy Gefnogi Disgyblaeth Jehofa
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2020
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2021
mwb21 Mai t. 7
Rhieni yn sefyll wrth y drws ac yn llefain wrth weld eu mab diedifar sy’n oedolyn yn gadael cartref.

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Disgyblaeth—Mynegiant o Gariad Jehofa

Gan amlaf mae disgyblaeth yn ymwneud â hyfforddi a dysgu, ond mae hefyd yn cynnwys cywiro a chosbi. Mae Jehofa yn ein disgyblu er mwyn i’n haddoliad fod yn dderbyniol iddo. (Rhu 12:1; Heb 12:10, 11) Ar adegau, gall disgyblaeth fod yn boenus, ond mae’n arwain at gyfiawnder a bendithion. (Dia 10:7) Beth ddylai’r rhai sy’n rhoi disgyblaeth a’r rhai sy’n ei derbyn gadw mewn cof?

Yr un sy’n rhoi. Mae henuriaid, rhieni, ac eraill yn ceisio’n galed i efelychu Jehofa drwy roi disgyblaeth yn garedig ac yn gariadus. (Jer 46:28) Dylai hyd yn oed disgyblaeth gadarn gael ei rhoi yn ôl yr angen a chael ei chymell gan gariad.—Tit 1:13.

Yr un sy’n derbyn. Dim ots yma mha ffurf rydyn ni’n cael ein disgyblu, ddylen ni ddim gwrthod y ddisgyblaeth ond ceisio ei rhoi ar waith yn syth. (Dia 3:11, 12) Fel pobl amherffaith, rydyn ni i gyd angen disgyblaeth, sy’n dod mewn sawl ffurf. Gallen ni gael ein disgyblu gan rywbeth rydyn ni’n ei ddarllen yn y Beibl neu’n ei glywed yng nghyfarfodydd y gynulleidfa. Ond ar adegau, mae rhai angen cael eu disgyblu gan bwyllgor barnwrol. Yn y pen draw, mae derbyn disgyblaeth a’i rhoi ar waith yn arwain at fywyd.—Dia 10:17.

GWYLIA’R FIDEO MAE JEHOFA “YN DISGYBLU’R RHAI MAE’N EU CARU,” AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Golygfa o’r fideo ‘Mae Jehofa “yn Disgyblu’r Rhai Mae’n Eu Caru.”’ Canon, yn blentyn, yn pregethu gyda’i rieni.

    Pa fath o fywyd oedd gan Canon ar y dechrau, a sut gwnaeth ei fywyd newid?

  • Golygfa o’r fideo ‘Mae Jehofa “yn Disgyblu’r Rhai Mae’n Eu Caru.”’ Canon, yn oedolyn, yn cwrdd â’r henuriaid.

    Pa ddisgyblaeth gariadus dderbyniodd ef gan Jehofa?

  • Golygfa o’r fideo ‘Mae Jehofa “yn Disgyblu’r Rhai Mae’n Eu Caru.”’ Yn hwyrach yn ei fywyd, mae Canon yn siarad â phobl ifanc yn y cyfarfod.

    Dysga i garu disgyblaeth Jehofa

    Pa wersi gallwn ni eu dysgu o’i brofiad?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu