LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb20 Rhagfyr t. 8
  • Parha i Ddefnyddio’r Cylchgronau

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Parha i Ddefnyddio’r Cylchgronau
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2020
  • Erthyglau Tebyg
  • Pwy Fyddai’n Debyg o Gymryd Diddordeb yn Hyn?
    Ein Gweinidogaeth—2013
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2020
mwb20 Rhagfyr t. 8
Chwaer yn sgwrsio â dynes am bwnc o un o rifynnau ‘Deffrwch!’

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Parha i Ddefnyddio’r Cylchgronau

Ers 2018, mae ein cylchgronau cyhoeddus wedi ystyried un pwnc yn unig ym mhob rhifyn. Mae pob un o’r cylchgronau hyn yn cael eu cynnwys yn ein Bocs Tŵls Dysgu. Felly mae’n bosib inni eu defnyddio nhw yn y weinidogaeth. Gallen ni hefyd gymryd rhai ohonyn nhw gyda ni wrth deithio neu siopa. Dydyn ni ddim yn defnyddio’r cylchgronau i astudio’r Beibl gyda phobl, ond gallen ni eu defnyddio i ennyn diddordeb ysbrydol rhywun.

Ar ôl dechrau sgwrs, rhanna ysgrythur a sonia am gylchgrawn ar bwnc allai apelio at y person. Er enghraifft, os mae’n magu teulu neu’n ymdopi â galar neu straen, gelli di ddweud: “Darllenais erthygl wych ar y pwnc yma yn ddiweddar. Ga i ddangos iti?” Os wyt ti’n sylwi ar ddiddordeb, gelli di roi copi printiedig o’r cylchgrawn neu anfon copi electronig ato, hyd yn oed ar yr alwad gyntaf. Nid ein prif nod yw dosbarthu llenyddiaeth, ond gall y cylchgronau ein helpu ni i ddod o hyd i rai sy’n barod i roi ar waith beth maen nhw’n ei ddysgu.—Act 13:48, NWT.

2018

Collage: Pynciau’r ‘Tŵr Gwylio’ a ‘Deffrwch!’ yn 2018. 1. ‘Beth Sydd o’ch Blaen Chi?’ 2. ‘Ydy Duw Yn Gofalu Amdanoch Chi?’ 3. ‘Y Ffordd i Hapusrwydd.’ 4. ‘12 Cyfrinach Teuluoedd Llwyddiannus.’ 5. ‘Help ar Gyfer y Rhai Sy’n Galaru.’

2019

Collage: Pynciau’r ‘Tŵr Gwylio’ a ‘Deffrwch!’ yn 2019. 1. ‘Ydy Bywyd yn Werth ei Fyw?’ 2. ‘Ai’r Bywyd Hwn Yw’r Cyfan Sydd?’ 3. ‘Chwe Gwers Bwysig i Blant.’ 4. ‘A All y Beibl Wella Eich Bywyd?’

2020

Collage: Pynciau’r ‘Tŵr Gwylio’ a ‘Deffrwch!’ yn 2020. 1. ‘Chwilio am y Gwir.’ 2. ‘Beth Yw Teyrnas Dduw?’ 3. ‘Gallwch Leddfu Straen.’

Pa bynciau sydd o ddiddordeb i bobl yn dy diriogaeth di?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu