LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb21 Ionawr t. 11
  • Dewisa i Wasanaethu Jehofa

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Dewisa i Wasanaethu Jehofa
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2021
  • Erthyglau Tebyg
  • Bedydd—Cam Buddiol Ymlaen!
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Bedydd a’ch Perthynas â Duw
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
  • Eich Nod—Gwas’naethu Duw am Byth
    Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
  • A Wyt Ti’n Barod i Gael Dy Fedyddio?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2021
mwb21 Ionawr t. 11
Llwybr troellog yn darlunio’r ffordd at wasanaeth Jehofa. Mae arwyddion ar hyd y llwybr yn cynrychioli’r camau o astudio’r Beibl, mynychu cyfarfodydd, pregethu, a bedydd.

Ble rwyt ti ar hyd y llwybr i fedydd?

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Dewisa i Wasanaethu Jehofa

Os wyt ti’n Gristion ifanc neu’n fyfyriwr y Beibl, oes gen ti’r nod o gael dy fedyddio? Pam dylet ti eisiau cael dy fedyddio? Mae ymgysegriad a bedydd yn dod â pherthynas arbennig â Jehofa. (Sal 91:1) Gallan nhw ein hachub ni. (1Pe 3:21) Sut gelli di gyrraedd dy nod?

Profa i ti dy hun mai hyn ydy’r gwir. Pan ddaw cwestiynau i dy feddwl, gwna ymchwil. (Rhu 12:2) Ceisia ddarganfod unrhyw newidiadau sy’n rhaid i ti eu gwneud, a gweithreda allan o awydd i blesio Jehofa. (Dia 27:11; Eff 4:23, 24) Gweddïa arno am help bob amser. Bydda’n hyderus y bydd Jehofa yn dy gryfhau ac yn dy gefnogi gyda’i ysbryd glân pwerus. (1Pe 5:10, 11) Mae’n werth yr ymdrech. Gwasanaethu Jehofa ydy’r ffordd orau o fyw! —Sal 16:11.

GWYLIA’R FIDEO THE ROAD TO BAPTISM, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pa heriau mae rhai wedi dod drostyn nhw er mwyn cael eu bedyddio?

  • Sut gelli di fagu’r ffydd sydd ei hangen i ymgysegru i Jehofa?

  • Beth sydd wedi cymell rhai i gymryd y camau angenrheidiol er mwyn cael eu bedyddio?

  • Sut mae Jehofa yn bendithio’r rhai sy’n dewis ei wasanaethu?

  • Beth yw ystyr ymgysegriad a bedydd?

Ar ddiwedd yr anerchiad bedydd, bydd y siaradwr yn gofyn i’r ymgeiswyr bedydd sefyll ac ateb y cwestiynau canlynol mewn llais uchel:

Ydych chi wedi edifarhau am eich pechodau, wedi ymgysegru i Jehofa, ac wedi derbyn yr iachawdwriaeth mae Ef yn ei rhoi trwy Iesu Grist?

Ydych chi’n deall bod eich bedydd yn dangos eich bod yn un o Dystion Jehofa ac yn rhan o gyfundrefn Jehofa?

Mae atebion cadarnhaol i’r ddau gwestiwn hyn yn datgan yn gyhoeddus fod gan yr ymgeiswyr bedydd ffydd yn y pridwerth a’u bod nhw wedi cysegru eu hunain yn llwyr i Jehofa. —Rhu 10:9, 10.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu