RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH | CAEL MWY O LAWENYDD YN Y WEINIDOGAETH
Eglura’r Prif Bwyntiau
Wrth inni alw’n ôl neu gynnal astudiaethau Beiblaidd, rydyn ni angen helpu ein gwrandawyr i ddeall y prif bwyntiau. Drwy ddefnyddio eglurebau ar gyfer y pwyntiau hyn, gallwn ni gyffwrdd â’u calonnau a’u helpu nhw i gofio’r gwersi.
Wrth baratoi i alw’n ôl neu i gynnal astudiaeth Feiblaidd, dewisa brif bwyntiau i’w hegluro, nid manylion bychain. Yna dewisa eglurebau syml sy’n ymwneud â bywyd bob dydd. (Mth 5:14-16; Mc 2:21; Lc 14:7-11) Gwna’n siŵr dy fod ti’n ystyried cefndir dy wrandawr a’r pethau mae’n eu gwneud. (Lc 5:2-11; In 4:7-15) Pan fyddi di’n gweld ei lygaid yn goleuo wrth iddo ddeall pwynt, byddi di’n profi llawenydd.
GWYLIA’R FIDEO CAEL LLAWENYDD DRWY WNEUD DISGYBLION—HOGI DY SGILIAU—DEFNYDDIO EGLUREBAU AR GYFER Y PRIF BWYNTIAU, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Pam efallai bydd myfyrwyr angen help i ddeall adnodau’r Beibl?
Sut gwnaeth Neeta egluro’r gwirionedd yn Rhufeiniaid 5:12?
Mae eglurebau da yn cyffwrdd â’r galon
Pa effaith gall eglurebau da ei chael ar ein gwrandawyr?
Yn ein gweinidogaeth, pam dylen ni ddefnyddio tŵls dysgu ac eglurebau a ddarperir gan gyfundrefn Jehofa?