RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH | CAEL MWY O LAWENYDD YN Y WEINIDOGAETH
Derbyn Help Jehofa Drwy Weddïo
Jehofa sy’n gwneud i hadau’r gwir wreiddio a thyfu yng nghalonnau pobl. (1Co 3:6-9) Felly, i gael llwyddiant yn y weinidogaeth, mae’n rhaid inni ddibynnu ar Jehofa i’n helpu ni a’n myfyrwyr.
Bydda’n benodol wrth ofyn i Jehofa helpu dy fyfyrwyr i ddod dros rwystrau ac i sefyll yn gadarn. (Php 1:9, 10) Gweddïa am ysbryd glân i arwain dy feddyliau a dy weithredoedd. (Lc 11:13) Dysga dy fyfyrwyr sut i weddïo, a’u hannog nhw i wneud hynny. Gweddïa gyda dy fyfyriwr y Beibl, a defnyddia ei enw wrth weddïo drosto.
GWYLIA’R FIDEO CAEL LLAWENYDD DRWY WNEUD DISGYBLION—DERBYN HELP JEHOFA—GWEDDI, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Pa her wynebodd Neeta yn ei hastudiaeth gyda Lili?
Sut gwnaeth 1 Corinthiaid 3:6 helpu Neeta?
Sut cafodd y broblem ei datrys?