RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH | CAEL MWY O LAWENYDD YN Y WEINIDOGAETH
Dangosa Gydymdeimlad
Mae dangos cydymdeimlad yn golygu deall meddyliau, teimladau, gwerthoedd, ac anghenion pobl eraill. Mae cydymdeimlad yn amlwg i eraill. Os ydyn ni wir eisiau helpu pobl bydd hi’n haws inni gydymdeimlo â nhw. Pan ydyn ni’n dangos empathi yn y weinidogaeth, rydyn ni’n efelychu cariad a gofal Jehofa, ac mae hyn yn denu pobl ato.—Php 2:4.
Nid rhywbeth mecanyddol ydy cydymdeimlad; mae’n cael ei ddangos yn y ffordd rydyn ni’n gwrando ac yn siarad, a hefyd yn ein hagwedd, ein hwyneb, a’r ffordd rydyn ni’n symud. Gallwn gydymdeimlo â rhywun drwy ddangos diddordeb diffuant. Rydyn ni’n cymryd sylw o’i ddiddordebau, daliadau, ac amgylchiadau. Cynigiwn wybodaeth ymarferol a chymorth ond dydyn ni ddim yn rhoi pwysau arno i newid. Pan fydd eraill yn derbyn ein help, cawn fwy o lawenydd yn y weinidogaeth.
GWYLIA’R FIDEO CAEL LLAWENYDD DRWY WNEUD DISGYBLION—HOGI DY SGILIAU—DANGOS CYDYMDEIMLAD, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Sut dangosodd Neeta gydymdeimlad pan oedd Lili yn hwyr?
Sut dangosodd Neeta gydymdeimlad pan ddywedodd Lili ei bod hi dan ormod o stres i astudio?
Mae pobl yn cael eu denu at Jehofa pan ddangoswn gydymdeimlad
Sut dangosodd Neeta gydymdeimlad pan ddywedodd Lili nad oedd hi’n berson trefnus?