RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH | CAEL MWY O LAWENYDD YN Y WEINIDOGAETH
Cyffwrdd â’r Galon
Mae bod yn ufudd i Dduw yn dod o’r galon. (Dia 3:1) Felly, wrth ddysgu, rhaid inni geisio cyffwrdd â chalonnau ein gwrandawyr. Sut?
Mae angen gwneud mwy ’na dim ond dysgu gwirioneddau’r Beibl i dy fyfyriwr, rhaid ei helpu i ddeall sut mae’r deunydd yn effeithio ar ei fywyd ac ar ei berthynas â Jehofa. Helpa ef i werthfawrogi sut mae safonau’r Beibl yn adlewyrchu cariad, daioni, a chyfiawnder Duw. Gyda thact, gofynna gwestiynau er mwyn iddo ystyried sut mae’n teimlo am yr hyn mae’n ei ddysgu. Helpa ef i resymu ar sut bydd ei fywyd yn gwella o gywiro agwedd neu arferion anghywir. Wrth iti weld dy fyfyriwr yn caru Jehofa o’i galon, byddi di’n cael mwy o lawenydd.
GWYLIA’R FIDEO CAEL LLAWENYDD DRWY WNEUD DISGYBLION—HOGI DY SGILIAU—CYFFWRDD Â’R GALON, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Pam gofynnodd Neeta i Lili: “Ti ’di meddwl mwy am y sgwrs cafon ni ddydd Llun?”
Sut gwnaeth Neeta helpu Lili i weld y cysylltiad rhwng safonau’r Beibl a chariad Jehofa tuag ati?
Os ydyn ni’n llwyddo i gyffwrdd â chalon ein myfyriwr, bydd ef neu hi yn cael ei ysgogi i wneud cynnydd
Sut gwnaeth Neeta helpu Lili i feddwl am ffyrdd allai hi ddangos ei chariad tuag at Dduw?