LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb21 Medi tt. 3-16
  • Defnyddia Mwynhewch Fywyd am Byth! yn Dy Weinidogaeth

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Defnyddia Mwynhewch Fywyd am Byth! yn Dy Weinidogaeth
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2021
  • Erthyglau Tebyg
  • Defnyddio “Mwynhewch Fywyd am Byth!” i Gynnal Astudiaethau Beiblaidd
    Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
  • Helpa Dy Fyfyrwyr i Gael eu Bedyddio
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
  • Sut i Helpu Myfyriwr y Beibl i Gyrraedd Bedydd—Rhan Un
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Sut i Ddefnyddio Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
    Ein Gweinidogaeth—2013
Gweld Mwy
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2021
mwb21 Medi tt. 3-16
Cwpl yn defnyddio’r llyfryn “Mwynhewch Fywyd am Byth!” wrth siarad â dyn sy’n aros am fws.

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Defnyddia Mwynhewch Fywyd am Byth! yn Dy Weinidogaeth

Rydyn ni wedi gwirioni ar y llyfryn a’r llyfr newydd ar gyfer cynnal astudiaethau Beiblaidd! Gweddïwn ar Jehofa i fendithio ein hymdrechion i wneud llawer mwy o ddisgyblion. (Mth 28:18-20; 1Co 3:6-9) Sut rydyn ni’n defnyddio’r adnoddau newydd?

Mae’r cwrs rhyngweithiol am y Beibl, Mwynhewch Fywyd am Byth!, yn ffordd newydd o ddysgu. Er mwyn paratoi a chymryd astudiaeth Feiblaidd, dilyna’r canllawiau canlynol.a

  • Darllena’r deunydd, a thrafoda’r cwestiynau

  • Darllena’r adnodau sydd wedi eu nodi “darllenwch,” a helpa’r myfyriwr i ddeall sut maen nhw’n berthnasol

  • Dangosa’r fideos a’u trafod gan ddefnyddio’r cwestiynau sydd wedi eu darparu

  • Ceisia gwblhau un wers ym mhob sesiwn

Yn y weinidogaeth, cynigia’r llyfryn yn gyntaf i weld a oes gan y person ddiddordeb. (Gweler y blwch “Sut i Gynnig y Llyfryn Mwynhewch Fywyd am Byth! ar yr Alwad Gyntaf.”) Os wyt ti’n cyrraedd diwedd y llyfryn gyda’r myfyriwr ac mae eisiau parhau, yna cynigia’r llyfr a dechreua yng ngwers 04. Os wyt ti eisoes yn astudio gyda rhywun gan ddefnyddio un o’n cyhoeddiadau astudio, dylet ti newid i’r llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! a phenderfynu ble ynddo i gychwyn.

Yr un cwpl yn defnyddio’r llyfr “Mwynhewch Fywyd am Byth!” wrth gynnal astudiaeth Feiblaidd gyda’r dyn yn ei gartref.

GWYLIA’R FIDEO CROESO I’CH ASTUDIAETH FEIBLAIDD, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Beth bydd myfyrwyr yn ei ddysgu o’r llyfr newydd?

  • Pam dylet ti ddangos y fideo hwn i fyfyrwyr newydd?

  • Pa nodau gelli di annog y myfyriwr i’w gosod a’u cyrraedd?—Gweler y siart “Pwrpas a Nod Pob Rhan”

a NODYN: Er ei fod yn ddewisol i drafod y rhan “Darganfod Mwy” yn ystod yr astudiaeth, cymera amser i ddarllen a gwylio pob eitem wrth iti baratoi. Yna, byddi di’n gwybod beth fydd yn apelio at dy fyfyriwr ac yn ei helpu. Mae’r fersiwn electronig yn cynnwys linciau i’r fideos a deunydd ychwanegol.

PWRPAS A NOD POB RHAN

 

GWERSI

PWRPAS

NOD Y MYFYRIWR

1

01-12

Ystyried sut gall y Beibl ein helpu a sut gallwn ni ddod i adnabod ei Awdur

Anoga’r myfyriwr i ddarllen y Beibl, i baratoi ar gyfer yr astudiaeth, ac i ddechrau mynychu cyfarfodydd

2

13-33

Dysgu beth mae Duw wedi ei wneud ar ein cyfer a pha fath o addoliad sy’n ei blesio

Ysgoga’r myfyriwr i rannu’r gwir ag eraill ac i fod yn gyhoeddwr

3

34-47

Ystyried beth mae Duw yn ei ddisgwyl gan ei addolwyr

Anoga’r myfyriwr i gysegru ei hun i Jehofa ac i gael ei fedyddio

4

48-60

Dysgu sut i aros yng nghariad Duw

Dysga’r myfyriwr sut i weld y gwahaniaeth rhwng da a drwg ac i agosáu at Dduw

SUT I GYNNIG Y LLYFRYN MWYNHEWCH FYWYD AM BYTH! AR YR ALWAD GYNTAF

Yn debyg i’n taflenni, mae ’na gwestiwn i ennyn diddordeb ar y dudalen gefn. Rho gynnig ar hyn:

  • Gofynna’r cwestiwn amlddewis

  • Darllena ateb y Beibl yn Salm 37:29

  • Trafoda’r pwyntiau o dan “Mae Hynny yn Golygu.” Os ydy amser yn caniatáu, darllena’r adnodau a thynna sylw at y lluniau

  • Cynigia i ateb y cwestiwn ar waelod y dudalen, a dechrau trafod y wers gyntaf

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu