LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 3/13 tt. 4-13
  • Sut i Ddefnyddio Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut i Ddefnyddio Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
  • Ein Gweinidogaeth—2013
  • Erthyglau Tebyg
  • Defnyddio’r Llyfryn Newyddion Da i Ddysgu Eraill
    Ein Gweinidogaeth—2015
  • Ydych Chi’n Defnyddio’r Llyfrynnau Hyn?
    Ein Gweinidogaeth—2012
  • Sut i Ddefnyddio Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofah Heddiw?
    Ein Gweinidogaeth—2013
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Dechrau Astudiaeth Gyda’r Llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
    Ein Gweinidogaeth—2015
Ein Gweinidogaeth—2013
km 3/13 tt. 4-13

Sut i Ddefnyddio Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!

Llyfryn Newydd i’n Helpu Ni i Alw’n Ôl ac i Ddechrau Astudiaethau

1. Pa lyfryn newydd a gafodd ei gyhoeddi yn y Gynhadledd Ranbarth sy’n mynd i’n helpu ni i alw’n ôl ac i ddechrau astudiaethau?

1 Yn ystod y Gynhadledd Ranbarth “Diogelwch Eich Calon!” roedden ni’n falch o dderbyn llyfryn newydd i’n helpu ni i alw’n ôl ar bobl ac i ddechrau astudiaethau. Mae Newyddion Da Oddi Wrth Dduw! yn disodli’r llyfryn Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni? Mae’r gwersi byr yn addas iawn ar gyfer astudiaethau wrth y drws fel yn yr hen lyfryn. Roedd yr hen lyfryn yn trafod gofynion y bywyd Cristnogol, safonau a allai fod yn anodd i rai newydd eu derbyn yn syth. Ond mae’r un newydd yn canolbwyntio ar y newyddion da yn y Beibl.—Act. 8:25.

2. Pam cafodd y llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw! ei gyhoeddi?

2 Pam mae angen llyfryn newydd? Mae brodyr o gwmpas y byd wedi gofyn am rywbeth syml i ddenu pobl at y gwirionedd ac i arwain at astudiaeth yn y llyfr Beibl Ddysgu, ein prif lyfr astudio. Bydd pobl nad ydyn nhw’n arfer darllen llyfrau yn fwy tebygol o astudio llyfrynnau. Hefyd, mae’n haws cyfieithu llyfrynnau i nifer mawr o ieithoedd.

3. Sut mae’r llyfryn hwn yn wahanol i gyhoeddiadau astudio eraill?

3 Cynllun y Llyfryn: Mae llawer o’n cyhoeddiadau wedi eu hysgrifennu mewn ffordd sy’n helpu pobl i ddeall y gwirionedd, hyd yn oed heb gymorth. Mae’r llyfryn hwn yn wahanol. Y mae wedi ei ysgrifennu ar gyfer astudio’r Beibl gydag arweinydd. Felly, wrth inni gynnig y llyfryn i rywun, peth da fydd trafod paragraff neu ddau. Mae’r paragraffau’n ddigon byr i’w trafod wrth y drws neu yn y gweithle. Er bod gwers 1 yn lle da i ddechrau, gallwn ni ddefnyddio bron unrhyw un o’r gwersi i gychwyn astudiaeth.

4. Sut mae’r llyfryn hwn yn ein helpu ni i ddysgu eraill yn syth o’r Beibl?

4 Mewn llawer o’n cyhoeddiadau, mae’r atebion i’r cwestiynau printiedig i’w cael yn y paragraffau. Ond, yn y llyfryn hwn, mae rhan fwyaf o’r atebion i’w gweld yn y Beibl. Ar y cyfan, mae’n well gan bobl ddysgu o’r Beibl yn hytrach na dysgu o’n llenyddiaeth ni. Dyna pam nad yw rhan fwyaf o’r adnodau yn cael eu dyfynnu yn y paragraffau. Dylen ni eu darllen yn syth o’r Beibl. Bydd y myfyrwyr yn sylwi bod yr hyn y maen nhw’n ei ddysgu yn dod oddi wrth Dduw.—Ioan 6:45.

5. Pam mae’n bwysig inni baratoi’n dda ar gyfer pob astudiaeth?

5 Nid yw’r llyfryn hwn yn esbonio’r adnodau i gyd. Pam? Er mwyn annog y myfyriwr i ofyn cwestiynau, ac i roi cyfle i’r arweinydd ddefnyddio ei allu fel athro. Felly, mae’n bwysig paratoi’n dda ar gyfer pob astudiaeth. Gair o rybudd: Peidiwch â siarad gormod. Rydyn ni wrth ein boddau yn esbonio’r Ysgrythurau. Ond, yn aml mae’n fwy effeithiol i ofyn i’r myfyriwr am ei farn. Drwy ofyn cwestiynau da medrwn ni helpu’r myfyriwr i resymu ar yr adnodau a dod o hyd i’r ystyr cywir.—Act. 17:2.

6. Sut gallwn ni ddefnyddio’r llyfryn (a) gyda phobl sy’n amheus ynglŷn â Duw a’r Beibl? (b) o dŷ i dŷ? (c) i ddechrau astudiaethau yn uniongyrchol? (ch) wrth alw’n ôl ar bobl?

6 Gellir cynnig y llyfryn hwn ar unrhyw adeg, beth bynnag yw cynnig y mis. Bydd llawer yn mwynhau defnyddio’r llyfryn i gynnig astudiaethau’n uniongyrchol wrth y drws. Hefyd, fel y clywon ni yn y gynhadledd ranbarth, mae defnyddio’r llyfryn gyda phobl â diddordeb yn gallu gwneud “y gwaith o alw’n ôl yn wir gyffrous!”—Gweler y blychau ar dudalennau 5-7.

7. Sut medrwn ni ddefnyddio’r llyfryn i astudio’r Beibl gyda rhywun?

7 Sut i Gynnal yr Astudiaeth: Gallwn ni ddechrau sgwrs drwy ddarllen un o’r cwestiynau mewn print trwm. Yna, darllenwch y paragraff a’r adnod(au) mewn print italig. Defnyddiwch gwestiynau yn ofalus i helpu’r deiliad i ddeall ystyr yr adnodau. Yna, cyn symud ymlaen i’r rhan nesaf, gofynnwch i’r deiliad ateb y cwestiwn i sicrhau ei fod yn deall. I ddechrau, efallai byddai’n well trafod un cwestiwn yn unig. Ond, dipyn wrth dipyn, gallwch drafod mwy, nes eich bod chi’n astudio gwers gyfan.

8. Sut dylen ni gyflwyno adnodau, a pham?

8 Mae’r ateb gorau i’r cwestiynau mewn print trwm i’w gael yn yr adnodau sy’n dilyn y gair “darllenwch.” Wrth ichi gyflwyno adnod, osgowch ddweud, “Ysgrifennodd yr apostol Paul” neu, “Sylwch ar beth ragfynegodd Jeremeia.” Gall y deiliad feddwl ein bod ni’n darllen geiriau dynion yn unig. Gwell fyddai dweud, “Mae Gair Duw yn dweud” neu, “Sylwch ar beth ragfynegodd y Beibl.”

9. A ddylen ni ddarllen yr adnodau i gyd yn ystod yr astudiaeth?

9 A ddylen ni ddarllen pob adnod yn y paragraffau, neu ddim ond y rhai sy’n dilyn y gair “darllenwch”? Bydd hynny’n dibynnu ar yr amgylchiadau. Y mae rheswm da dros gynnwys pob un o’r adnodau oherwydd mae gan bob adnod wybodaeth werth ei thrafod. Weithiau, os nad oes gan y myfyriwr ddigon o amser, diddordeb, neu sgiliau darllen, fe allwch chi ddewis darllen yr adnodau sy’n dilyn y gair “darllenwch” yn unig.

10. Pryd dylen ni drosglwyddo’r astudiaeth i’r llyfr Beibl Ddysgu?

10 Pryd i Ddefnyddio’r Llyfr Beibl Ddysgu: Unwaith inni ddatblygu astudiaeth reolaidd, gallwn ni naill ai trosglwyddo’r astudiaeth i’r llyfr Beibl Ddysgu neu barhau yn y llyfryn Newyddion Da nes inni ei orffen. Gall y cyhoeddwr ddewis yr amser gorau i newid i’r llyfr. A oes rhaid wedyn inni gychwyn o ddechrau’r llyfr Beibl Ddysgu? Does dim rheol ynglŷn â hyn. Mae pob myfyriwr yn wahanol. Ond bydd trafod yr un pynciau yn ddyfnach yn y llyfr Beibl Ddysgu yn help i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr.

11. Pam dylen ni ddefnyddio’r llyfryn newydd i’w lawn botensial?

11 Mewn byd lle mae newyddion da yn brin, mae gennyn ni’r fraint o gyhoeddi’r newyddion gorau erioed—fod Teyrnas Dduw yn rheoli ac yn mynd i ddod â byd newydd, lle bydd cyfiawnder yn cartrefu! (Math. 24:14; 2 Pedr 3:13) Rydyn ni’n hyderus bydd llawer sy’n clywed y neges hon yn cytuno â’r geiriau ysbrydoledig hyn: “Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed y negesydd sy’n cyhoeddi heddwch, yn datgan daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth; sy’n dweud wrth Seion, ‘Dy Dduw sy’n teyrnasu.’” (Esei. 52:7) Gadewch inni ddefnyddio’r llyfryn newydd hwn i fynd â newyddion da oddi wrth Dduw i’r rhai sy’n dymuno eu clywed!

[Blwch ar dudalen 11]

Pan Fydd Pobl yn Amheus Ynglŷn â Duw a’r Beibl:

● Mewn rhai llefydd, mae cyhoeddwyr wedi sylweddoli bod y geiriau “Duw” a “Beibl” yn dod â sgyrsiau i ben. Yn yr achosion hyn, efallai gallwch gychwyn sgyrsiau drwy drafod pethau sydd ar feddyliau’r gymuned, pethau fel yr angen am lywodraeth dda, cymorth ymarferol ar gyfer teuluoedd, a phryderon am y dyfodol. Ar ôl inni helpu’r deiliad i weld bod Duw yn bodoli a bod y Beibl yn ddibynadwy, gallwn ni gyflwyno’r llyfryn Newyddion Da.

[Blwch ar dudalen 12]

Wrth Inni Fynd o Dŷ i Dŷ:

● “Rydw i’n galw heddiw i ddangos ichi pa mor hawdd yw darganfod beth yw bwriad Duw ynglŷn â dyfodol y byd. Ydych chi’n meddwl bydd Duw yn dod â dioddefaint i ben? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r llyfryn hwn yn dangos ble y gallwch chi ddod o hyd i’r ateb yn y Beibl. [Rhowch gopi o’r llyfryn iddo, a darllenwch y paragraff cyntaf yng ngwers 1, a Jeremeia 29:11.] Yn ôl yr adnod hon, ydy hi’n rhesymol i gredu bod Duw eisiau inni gael dyfodol gwell? [Arhoswch am ymateb.] Croeso ichi gadw’r llyfryn. Tro nesaf, medrwn ni drafod yr ail baragraff i weld ateb y Beibl i’r cwestiwn, ‘Sut bydd Duw yn cael gwared ar y pethau sy’n achosi dioddefaint?’” Os oes gan y deiliad ddigon o amser ar yr alwad gyntaf, efallai gallwch chi ddarllen a thrafod yr ail baragraff a’r tair adnod. Trefnwch i fynd yn ôl i drafod yr ail gwestiwn yn y wers.

● “Mae llawer o bobl yn gweddïo, yn enwedig pan fyddan nhw’n wynebu problemau. Ydych chi’n gweddïo weithiau? [Arhoswch am ymateb.] Ydych chi’n meddwl bod Duw yn gwrando ar bob gweddi, neu ydy hi’n bosibl nad yw pob gweddi yn ei blesio? [Arhoswch am ymateb.] Mae gen i lyfryn sy’n dangos sut i ffeindio atebion y Beibl i’r cwestiynau hynny. [Rhowch gopi iddo, a thrafodwch y paragraff cyntaf yng ngwers 12 a’r adnodau “darllenwch.”] Mae’n galonogol i wybod bod Duw yn barod i wrando arnon ni, yn tydi hi? Ond gall gweddi fod yn fwy o help inni os ydyn ni’n dod i adnabod Duw yn well. [Trowch at wers 2 a dangoswch yr isbenawdau.] Fe gewch chi gadw’r llyfryn hwn, a’r tro nesaf gallwn ni ddarllen atebion y Beibl i’r cwestiynau diddorol hyn.”

● “Dw i yma oherwydd mae pobl yn pryderu am ddyfodol y byd. Ydych chi’n meddwl bydd cyflwr y byd yn gwella yn y dyfodol? [Arhoswch am ymateb.] Mae llawer yn synnu wrth glywed bod y Beibl yn cynnwys newyddion da sy’n gallu rhoi gobaith inni. Dyma rai o’r cwestiynau mae’r Beibl yn eu hateb.” Rhowch gopi o’r llyfryn iddo, a gofynnwch iddo ddewis cwestiwn ar y cefn sydd o ddiddordeb iddo. Yna, trowch at y wers a dangoswch sut rydyn ni’n defnyddio’r llyfryn i astudio. Trefnwch i fynd yn ôl er mwyn trafod y cwestiwn nesaf yn y wers.

[Blwch ar dudalen 13]

Cynnig yn Uniongyrchol:

● “Dw i’n picio draw heddiw i ddweud wrthych am gwrs newydd i astudio’r Beibl. Mae’r llyfryn hwn yn cynnwys 15 gwers sy’n dangos ble yn y Beibl gallwch ddod o hyd i atebion i gwestiynau pwysig. [Dangoswch iddo’r clawr blaen a’r clawr cefn.] Ydych chi erioed wedi ceisio deall y Beibl? [Arhoswch am ymateb.] Gadewch imi ddangos ichi pa mor hawdd yw’r gwersi. [Trafodwch y paragraff cyntaf o dan gwestiwn 3 yng ngwers 3, a darllenwch Datguddiad 21:4, 5. Os yw’n briodol, trafodwch y paragraff nesaf a’r adnodau “darllenwch.”] Os hoffech chi, fe gewch chi gadw’r llyfryn hwn. Rydyn ni’n awgrymu ichi drio astudio’r Beibl o leiaf unwaith. Os ydych chi’n mwynhau, fe gewch chi barhau gyda’r gwersi. Tro nesaf, gallwn ni drafod y wers gyntaf. Dim ond un tudalen ydy hi.”

[Blwch ar dudalen 13]

Ar Ail Alwad:

● “Mae’n braf eich gweld chi eto. Rwyf wedi dod â’r llyfryn hwn ichi ei weld oherwydd mae’n dangos atebion y Beibl i lawer o gwestiynau diddorol. [Rhowch gopi o’r llyfryn iddo, a gofynnwch iddo edrych ar y clawr cefn.] Pa un o’r pynciau hyn sydd o ddiddordeb ichi? [Arhoswch am ymateb. Yna trowch at y wers a ddewisodd ef.] Gadewch imi ddangos sut medrwn ni ddefnyddio’r llyfryn hwn i ffeindio ateb y Beibl i’r cwestiwn.” Dangoswch sut rydyn ni’n astudio’r llyfryn drwy drafod paragraff neu ddau a’r adnodau “darllenwch.” Mae cychwyn astudiaeth mor hawdd â hynny! Gwnewch drefniadau i fynd yn ôl, a gadewch y llyfryn gydag ef. Wrth ichi orffen y wers, fe gewch chi ofyn i’r myfyriwr ddewis gwers arall i’w hastudio, neu fe allwch chi gychwyn o ddechrau’r llyfryn.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu