EIN BYWYD CRISTNOGOL
Gwersi o Fywyd Samuel
Arhosodd Samuel yn ffyddlon i Jehofa drwy gydol ei fywyd. Pan oedd yn fachgen, gwrthododd droi’n ddrwg fel meibion Eli, Hoffni a Phineas. (1Sa 2:22-26) Roedd Duw gyda Samuel wrth iddo dyfu i fyny. (1Sa 3:19) Pan oedd yn hŷn, parhaodd i wasanaethu Jehofa’n ffyddlon, er nad oedd ei feibion yn gwneud hynny.—1Sa 8:1-5.
Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Samuel? Os wyt ti’n berson ifanc, gelli di fod yn siŵr bod Jehofa’n deall yr heriau rwyt ti’n eu hwynebu a sut rwyt ti’n teimlo. Gall Jehofa dy wneud di’n ddewr. (Esei 41:10, 13) Os wyt ti’n rhiant ac mae dy blentyn wedi stopio gwasanaethu Jehofa, mae’n dod â chysur i wybod nad oedd Samuel yn gallu gorfodi ei feibion i gadw safonau Jehofa. Gadawodd y mater yn nwylo Jehofa, arhosodd yn ffyddlon, a daeth a phleser i’w dad nefol Jehofa. Efallai bydd dy esiampl dda di yn ysgogi dy blentyn i droi’n ôl at Jehofa.
GWYLIA’R FIDEO LEARN FROM THEM—SAMUEL, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Sut dangosodd Samuel ddewrder pan oedd yn blentyn?
Sut dangosodd Danny ddewrder?
Sut gwnaeth Samuel osod esiampl dda pan oedd yn hŷn?
Mae Jehofa’n cefnogi’r rhai sy’n cadw at ei safonau
Sut gwnaeth rhieni Danny osod esiampl dda?