RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH | CAEL MWY O LAWENYDD YN Y WEINIDOGAETH
Helpa Fyfyrwyr y Beibl i Osgoi Cwmni Drwg
Er mwyn bod yn ffrind i Jehofa, mae’n rhaid i fyfyrwyr y Beibl ddewis cwmni da. (Sal 15:1, 4) Bydd cadw cwmni gyda rhai doeth yn eu helpu nhw i wneud beth sy’n iawn.—Dia 13:20; lff-E gwers 48; lv pennod 3.
Wrth iti helpu dy fyfyrwyr y Beibl i osgoi cwmni drwg, dangosa gydymdeimlad. Efallai byddan nhw’n ei chael hi’n anodd stopio treulio amser gyda’u ffrindiau yn y byd. Felly, dangosa ddiddordeb ynddyn nhw y tu allan i’r sesiynau astudio. Efallai gelli di anfon neges atyn nhw, eu ffonio nhw, neu alw draw i’w gweld nhw. Pan wyt ti’n gweld cynnydd yn dy fyfyrwyr, gelli di eu gwahodd nhw i dreulio amser gyda phobl Dduw. Yna, byddan nhw’n gweld yn glir eu bod nhw’n ennill llawer mwy nag ydyn nhw’n ei golli. (Mc 10:29, 30) Byddi di hefyd yn llawen o weld teulu Jehofa yn tyfu.
GWYLIA’R FIDEO HELPA FYFYRWYR Y BEIBL I OSGOI CWMNI DRWG, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Beth ydy cwmni drwg?—1Co 15:33
Sut roedd Lili yn dychmygu cymdeithasu gyda’r gynulleidfa?
Sut gwnaeth Neeta helpu Lili i osgoi cadw cwmni drwg?