LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb22 Mawrth t. 9
  • Pwy Yw Dy Ffrindiau Ar-Lein?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pwy Yw Dy Ffrindiau Ar-Lein?
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2022
  • Erthyglau Tebyg
  • Osgoi Maglau Cymdeithasu Ar-Lein
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
  • Ein Gwefan Swyddogol—Defnyddiwch Hi ar Gyfer Astudio Personol a Theuluol
    Ein Gweinidogaeth—2012
  • Bod yn Ddoeth Wrth Ddewis Ffrindiau
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Pa Mor Bwysig Ydy Poblogrwydd Ar Lein?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2022
mwb22 Mawrth t. 9

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Pwy Yw Dy Ffrindiau Ar-Lein?

Mae gan ffrindiau go iawn hoffter a pharch tuag at ei gilydd. Er enghraifft, daeth Jonathan a Dafydd yn ffrindiau agos iawn ar ôl i Dafydd ladd Goliath. (1Sa 18:1) Roedd y ddau ddyn yn dangos rhinweddau a oedd yn apelio at y llall. Felly, mae bod yn ffrindiau agos yn seiliedig ar adnabod eich gilydd yn dda. I hynny ddigwydd mae’n cymryd amser ac ymdrech. Er hynny, gall pobl ddod yn “ffrindiau” ar-lein drwy bwyso ar fotwm yn unig. Oherwydd gall pobl ar-lein gynllunio o flaen llaw yn union beth i’w ddweud a rheoli i ryw raddau sut mae pobl yn eu gweld nhw, mae’n hawdd iddyn nhw guddio pwy ydyn nhw mewn gwirionedd. Felly, peth da yw meddwl yn ofalus am ba fath o bobl byddi di’n eu derbyn fel ffrindiau. Paid bod ag ofn anwybyddu neu wrthod pobl dwyt ti ddim yn eu hadnabod sy’n ceisio bod yn ffrind iti ar-lein, hyd yn oed os mae hynny’n golygu brifo eu teimladau nhw. Er mwyn osgoi bod mewn peryg, mae rhai wedi dewis i beidio â defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Ond, os wyt ti’n penderfynu eu defnyddio nhw, beth dylet ti ei gofio?

GWYLIA’R FIDEO DEFNYDDIO DY BEN WRTH GYMDEITHASU AR-LEIN, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Golygfa o’r fideo “Defnyddio Dy Ben Wrth Gymdeithasu Ar-Lein.” Mae merch yn edrych yn syn ar luniau o’i hun ar sgriniau teledu.

    Beth dylet ti ei ystyried cyn postio lluniau a sylwadau?

  • Golygfa o’r fideo ‘Defnyddio Dy Ben Wrth Gymdeithasu Ar-Lein.’ Dau ddyn sy’n edrych yn gas yn dangos rhywbeth ar gyfryngau cymdeithasol i fachgen. Mae’r bachgen yn gorchuddio ei lygaid.

    Pam dylet ti fod yn ofalus wrth ddewis ffrindiau ar-lein?

  • Golygfa o’r fideo “Defnyddio Dy Ben Wrth Gymdeithasu Ar-Lein.” Mae bachgen yn cysgu â’i ben ar ei liniadur ar ôl aros ar ddihun drwy’r nos yn ei ddefnyddio.

    Pam dylet ti osod terfynau ar yr amser rwyt ti’n ei dreulio yn cymdeithasu ar-lein?—Eff 5:15, 16

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu