Ein Gwefan Swyddogol—Defnyddiwch Hi ar Gyfer Astudio Personol a Theuluol
Darllenwch y Cylchgronau Diweddaraf Ar-lein: Darllenwch y Watchtower a’r Awake! ar-lein rai wythnosau cyn i’r copïau printiedig gyrraedd y gynulleidfa. Gwrandewch ar recordiadau sain o’r cylchgronau.—Ewch at “Cyhoeddiadau/Cylchgronau.”
Darllenwch Ddeunydd Sy’n Ymddangos ar y Wefan yn Unig: Mae deunydd megis “For Young People,” “My Bible Lessons,” “For Family Review,” a “Young People Ask,” nawr yn ymddangos ar ein gwefan yn unig. Ewch ar-lein ac ystyriwch rywfaint o’r deunydd hwn yn ystod eich astudiaeth bersonol a theuluol.—Newidiwch iaith y wefan i Saesneg ac ewch at “Bible Teachings/Children” neu “Bible Teachings/Teenagers.”
Y Newyddion Diweddaraf: Darllenwch adroddiadau a phrofiadau calonogol, a gwyliwch glipiau fideo sy’n dangos y gwaith rydyn ni’n ei wneud o gwmpas y byd. Gall adroddiadau sy’n sôn am drychinebau ac erledigaeth ein helpu ni i fod yn benodol yn ein gweddïau dros ein brodyr sydd wedi eu heffeithio. (Iago 5:16)—Ewch at “News” ar y wefan Saesneg.
Gwnewch Ymchwil gan Ddefnyddio’r Llyfrgell Ar-lein: Os ydy’r Llyfrgell Ar-lein ar gael yn eich iaith, defnyddiwch gyfrifiadur neu ddyfais symudol i ddarllen testun y dydd ar-lein neu i wneud ymchwil yn ein cyhoeddiadau diweddaraf.—Ewch at “Cyhoeddiadau/Llyfrgell Ar-lein,” neu teipiwch www.wol.jw.org yn y blwch cyfeiriad ar frig tudalen eich porwr gwe.
[Diagram ar dudalen 4]
(Ewch i’r cyhoeddiad i weld fformat testun cyflawn)
Triwch Hyn
1 Cliciwch ar y llun neu’r ddolen “Download.” Bydd y llun yn ymddangos ar ffurf PDF. Gallwch argraffu’r llun i’ch plentyn ei ddefnyddio.
2 Cliciwch “Play” i wylio fideo.