EIN BYWYD CRISTNOGOL
Wyneba Broblemau Economaidd â Hyder
Mae bywyd yn y dyddiau diwethaf yn llawn heriau. Wrth inni nesáu at ddiwedd y system bresennol, bydd anawsterau yn sicr o gynyddu. Mae’n bosib y byddwn ni’n wynebu prinder o ryw fath neu’i gilydd. (Hab 3:16-18) Beth fydd yn ein helpu ni i wynebu problemau economaidd â hyder? Mae’n rhaid inni ddal ati i drystio ein Duw Jehofa. Mae wedi addo gofalu am ei weision, ac mae’n gallu darparu ar ein cyfer ni mewn unrhyw sefyllfa.—Sal 37:18, 19; Heb 13:5, 6.
Gelli di wneud hyn:
Erfyn ar Jehofa am ei arweiniad, ei ddoethineb, a’i gefnogaeth.—Sal 62:8.
Bydda’n barod i dderbyn gwaith sydd efallai’n anghyfarwydd iti.—g-E 1/10 8-9, blychau
Cadwa at rwtîn ysbrydol da, gan gynnwys darllen Gair Duw yn ddyddiol, mynychu cyfarfodydd y gynulleidfa, a chymryd rhan yn y weinidogaeth
GWYLIA’R FIDEO BUILD A HOUSE THAT WILL ENDURE—BE “CONTENT WITH THE PRESENT THINGS,” AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Pa heriau mae rhai teuluoedd wedi eu hwynebu?
Beth yw’r peth pwysicaf mewn bywyd?
Sut gallwn ni helpu’r rhai sydd â phroblemau economaidd?