LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb23 Mai t. 5
  • Wyt Ti Wedi Paratoi ar Gyfer Creisis Ariannol?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Wyt Ti Wedi Paratoi ar Gyfer Creisis Ariannol?
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
  • Erthyglau Tebyg
  • Wyt Ti Wedi Paratoi?
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2020
  • Bod yn Barod yn Ystod Diwedd y Dyddiau Diwethaf
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2021
  • Penderfyniadau Sy’n Dangos Ein Bod Ni’n Dibynnu ar Jehofa
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
  • Wyt Ti Wedi Paratoi ar Gyfer Aflonyddwch Sifil?
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2022
Gweld Mwy
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
mwb23 Mai t. 5

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Wyt Ti Wedi Paratoi ar Gyfer Creisis Ariannol?

Dydyn ni ddim yn cael ein hysgwyd pan mae digwyddiadau yn y byd yn achosi ansefydlogrwydd ariannol. Pam ddim? Oherwydd rydyn ni’n byw ar ddiwedd y dyddiau olaf ac mae’r Beibl yn ein rhybuddio ni i beidio â rhoi ein gobaith mewn “cyfoeth ansicr.” (1Ti 6:17; 2Ti 3:1) Beth gall esiampl y Brenin Jehosaffat ei ddysgu inni am baratoi ar gyfer creisis ariannol?

Yn wyneb y gelyn, gwnaeth Jehosaffat drystio Jehofa. (2Cr 20:9-12) Gwnaeth ef hefyd baratoi’r genedl drwy atgyfnerthu’r dinasoedd a gosod garsiynau. (2Cr 17:1, 2, 12, 13) Gallwn ni, fel Jehosaffat, drystio Jehofa a chymryd camau ymarferol cyn i bethau fynd yn anodd.

SUT GALLWN NI BARATOI AR GYFER CREISIS ARIANNOL?

Paratoi’n ysbrydol: Dysga i fod yn fodlon ar yr hyn sydd gen ti ac i drystio y bydd Jehofa yn gofalu am dy anghenion bob dydd. (Mth 6:26; 1Ti 6:8) Bydda’n benderfynol o beidio â thorri egwyddorion y Beibl er mwyn gofalu am yr anghenion hynny dy hun. (Rhu 2:21) Meddylia am sut byddet ti’n cael gafael ar fwyd ysbrydol petai’r trydan neu’r we i lawr. Cadw gopi caled o rai o’n cyhoeddiadau, ac os yw’n bosib, lawrlwytha gyhoeddiadau electronig o flaen llaw.

Paratoi’n faterol: Lleiha unrhyw ddyled a chostau diangen cyn i broblemau ariannol godi. (Dia 22:7) Os yw’n bosib, cadw rywfaint o fwyd a phethau eraill angenrheidiol wrth law. Mae rhai yn plannu ac yn cadw gardd lysiau er mwyn arbed arian.

GWYLIA’R FIDEO WYT TI WEDI PARATOI AR GYFER TRYCHINEB? AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

Golygfa o’r fideo “Wyt Ti Wedi Paratoi ar Gyfer Trychineb?” Mae’r eiconau yn dangos Beibl, bag argyfwng a ffôn, a gweithiwr adeiladu.
  • Beth gallwn ni ei wneud er mwyn paratoi ar gyfer trychineb?

Golygfa o’r fideo “Wyt Ti Wedi Paratoi ar Gyfer Trychineb?” Brodyr yn helpu gyda gwaith cymorth drwy wneud gwaith adeiladu a dadlwytho adnoddau oddi ar lori.
  • Sut gallwn ni baratoi er mwyn helpu eraill?

NOD

Adolygu Deffrwch! Rhif 1 2022 yn ystod addoliad teuluol, a thrafod beth arall gallwch chi fel teulu ei wneud er mwyn paratoi ar gyfer trychineb.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu