LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w20 Rhagfyr t. 30
  • Wyt Ti’n Cofio?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Wyt Ti’n Cofio?
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Erthyglau Tebyg
  • Pan Wyt Ti’n Teimlo Nad Ydy Bywyd yn Werth ei Fyw
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
  • Cân Ysbrydoledig Sy’n Cynnwys Eglurebau
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2021
  • Roedd Saul yn Ostyngedig ac yn Wylaidd ar y Dechrau
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2022
  • Mae Pobl Ffyddlon yn Cadw Eu Haddewidion i Jehofa
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
w20 Rhagfyr t. 30

Wyt Ti’n Cofio?

Wyt ti wedi darllen rhifynnau’r Tŵr Gwylio eleni yn ofalus? Wel, ceisia ateb y cwestiynau canlynol:

Sut dylen ni drin Cristnogion eneiniog?

Rydyn ni’n edmygu eu ffydd; ond eto dydyn ni ddim yn rhoi sylw gormodol iddyn nhw. Rydyn ni’n osgoi “seboni” neu edmygu personoliaethau. (Jwd. 16) Dydyn ni ddim yn gofyn cwestiynau personol am eu gobaith.—w20.01, t. 29.

Beth ddylai dy sicrhau bod Jehofa yn sylwi arnat ti’n bersonol?

Mae’r Beibl yn dangos ei fod wedi sylwi arnat ti hyd yn oed cyn iti gael dy eni. Ac mae’n gwrando ar dy weddïau. Mae’n gwybod beth sydd yn dy galon a beth sydd ar dy feddwl, ac mae dy weithredoedd yn effeithio arno. (1 Cron. 28:9; Diar. 27:11) Mae wedi dy ddenu di ato.—w20.02, t. 12.

Pa esiamplau sydd ’na o bryd i siarad a phryd i gadw’n dawel?

Rydyn ni’n ddigon hapus i siarad am Jehofa. Rydyn ni’n dweud rhywbeth os gwelwn rywun yn gwneud rhywbeth allai arwain at gamgymeriad difrifol. Mae henuriaid yn rhoi cyngor os bydd angen. Dydyn ni ddim yn holi am ein gwaith mewn gwledydd lle mae ’na gyfyngiadau arno nac yn rhannu manylion amdano. Dydyn ni ddim yn datgelu materion cyfrinachol.—w20.03, tt. 20-21.

Sut mae locustiaid Joel pennod 2 yn wahanol i’r rhai yn Datguddiad pennod 9?

Mae Joel 2:20-29 yn dweud bod Duw yn gyrru’r locustiaid i ffwrdd ac yn addo gwneud yn iawn am yr holl niwed wnaethon nhw. Ar ôl hynny, mae Duw yn tywallt ei ysbryd. Cafodd yr agweddau hyn o’r broffwydoliaeth eu cyflawni yn ystod ymosodiad Babilon ar Israel ac wedyn. Mae Datguddiad 9:1-11 yn disgrifio’r eneiniog heddiw sy’n debyg i locustiaid wrth iddyn nhw gyhoeddi barnedigaethau Duw yn erbyn y system ddrygionus hon, gan wneud ei chefnogwyr yn anghyfforddus iawn.—w20.04, tt. 3-6.

Pwy yw brenin y gogledd heddiw?

Rwsia a’i chynghreiriaid. Maen nhw wedi cael effaith uniongyrchol ar bobl Dduw drwy wahardd y gwaith pregethu a dangos eu bod nhw’n casáu’r Tystion. Mae brenin y gogledd wedi bod yn cystadlu â brenin y de.—w20.05, t. 13.

Ai dim ond y rhinweddau a restrir yn Galatiaid 5:22, 23 sy’n rhan o ffrwyth yr ysbryd?

Nage. Mae’r ysbryd glân yn ein helpu i feithrin rhinweddau hyfryd eraill, fel cyfiawnder. (Eff. 5:8, 9)—w20.06, t. 17.

Beth yw un o’r peryglon ynglŷn â phostio pethau amdanat ti dy hun ar lein?

Gall yr hyn sy’n cael ei bostio roi’r argraff dy fod ti’n brolio amdanat ti dy hun, yn hytrach na dy fod ti’n ostyngedig.—w20.07, tt. 6-7.

Beth gallwn ni ei ddysgu oddi wrth bysgotwyr medrus?

Maen nhw’n gweithio pryd bynnag a lle bynnag maen nhw’n fwyaf tebygol o gael hyd i bysgod. Maen nhw wedi eu hyfforddi i ddefnyddio’r offer cywir. Ac maen nhw’n gweithio’n ddewr drwy bob math o amgylchiadau. Gallwn ninnau wneud yr un fath yn ein gweinidogaeth.—w20.09, t. 5.

Sut gallwn ni helpu ein myfyrwyr y Beibl i gryfhau eu cariad tuag at Jehofa?

Gallwn ni eu hannog i ddarllen y Beibl bob dydd ac i fyfyrio ar yr hyn maen nhw wedi ei ddarllen. A gallwn ni eu dysgu nhw i weddïo.—w20.11, t. 4.

Pwy sy’n cael eu cynnwys yn y datganiad: “Mae pawb sy’n perthyn i’r Meseia yn cael bywyd”?—1 Cor. 15:22.

Doedd yr apostol Paul ddim yn dweud fod pawb am gael eu atgyfodi i’r nef. Roedd yn cyfeirio at Gristnogion eneiniog, y rhai sydd wedi eu “galw i fod yn bobl sanctaidd” mewn undod â Christ Iesu. (1 Cor. 1:2; 15:18)—w20.12, tt. 5-6.

Beth bydd yr eneiniog yn ei wneud ar ôl iddyn nhw gael eu ‘newid mewn chwinciad’ pan fydd yr utgorn olaf yn canu?—1 Cor. 15:51-53.

Byddan nhw’n cydweithio â Christ wrth fugeilio’r cenhedloedd â theyrnwialen haearn. (Dat. 2:26, 27)—w20.12, tt. 12-13.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu