ERTHYGL ASTUDIO 7
Rydyn Ni’n Caru Jehofa, Ein Tad, yn Fawr Iawn
“Dŷn ni’n caru’n gilydd am ei fod e wedi’n caru ni gyntaf.”—1 IOAN 4:19.
CÂN 3 Ein Nerth, Ein Gobaith, Ein Hyder
CIPOLWGa
1-2. Pam a sut y gwnaeth Jehofa agor y ffordd inni fod yn rhan o’i deulu?
MAE Jehofa wedi ein gwahodd ni i ymuno â’i deulu o addolwyr. Dyna i chi wahoddiad bendigedig! Mae aelodau’r teulu hwn yn bobl sydd wedi eu cysegru eu hunain i Dduw ac sydd â ffydd yn aberth pridwerthol ei Fab. Teulu hapus yw’n teulu ni. Mwynhawn fywyd ystyrlon nawr, a llawenhawn oherwydd bod gennyn ni’r gobaith o fyw am byth—p’un a fydd hynny yn y nef neu ym Mharadwys ar y ddaear.
2 Gan fod Jehofa yn ein caru ni’n fawr iawn, mae wedi ei gwneud hi’n bosib inni ddod yn rhan o’i deulu, er colled fawr iddo ef ei hun. (Ioan 3:16) “Mae pris wedi ei dalu” droston ni. (1 Cor. 6:20) Drwy gyfrwng y pridwerth hwn, mae Jehofa wedi agor y ffordd inni gael perthynas agos ag ef. Mae gennyn ni’r fraint o alw Goruchaf y bydysawd i gyd yn Dad. Ac fel gwnaethon ni drafod yn yr erthygl flaenorol, Jehofa yw’r Tad gorau.
3. Pa gwestiynau gallwn ni eu gofyn? (Gweler hefyd y blwch “A Ydy Jehofa’n Sylwi Arna’ I?”)
3 Yn debyg i’r hyn a ofynnodd un o ysgrifenwyr y Beibl, gallwn ofyn: “Sut alla i dalu nôl i’r ARGLWYDD am fod mor dda tuag ata i?” (Salm 116:12) Yr ateb i hynny yw na allwn ni byth dalu’n ôl i’n Tad nefol. Eto i gyd, mae ei gariad tuag aton ni yn ein cymell ninnau i’w garu ef. Ysgrifennodd yr apostol Ioan: “Dŷn ni’n caru’n gilydd am ei fod e wedi’n caru ni gyntaf.” (1 Ioan 4:19) Ym mha ffyrdd gallwn ni ddangos i’n Tad nefol ein bod ni yn ei garu?
CLOSIA AT JEHOFA
Rydyn ni’n dangos gymaint rydyn ni’n caru ein Tad nefol, Jehofa, drwy gadw’n agos ato mewn gweddi, drwy ufuddhau iddo, a thrwy helpu eraill i’w garu (Gweler paragraffau 4-14)
4. Yn ôl Iago 4:8, pam dylen ni wneud ymdrech i glosio at Jehofa?
4 Mae Jehofa eisiau inni glosio ato a siarad ag ef. (Darllen Iago 4:8.) Mae’n ein hannog ni i ‘ddal ati i weddïo,’ ac mae’n wastad yn barod i wrando arnon ni. (Rhuf. 12:12) Fydd ef byth yn rhy brysur neu’n rhy flinedig i wrando arnon ni. Ac rydyn ninnau’n gwrando arno ef drwy ddarllen ei Air, y Beibl, ynghyd â chyhoeddiadau sy’n ein helpu i’w ddeall. Hefyd, rydyn ni’n gwrando arno drwy dalu sylw yn y cyfarfodydd Cristnogol. Fel y mae cyfathrebu da yn helpu plant i aros yn agos at eu rhieni, mae cyfathrebu cyson â Jehofa yn ein helpu i aros yn agos ato ef.
Gweler paragraff 5
5. Sut gallwn ni wneud ein gweddïau yn fwy derbyniol i Jehofa?
5 Meddylia sut rwyt ti’n cyfathrebu â Jehofa. Mae Jehofa eisiau inni dywallt ein calonnau o’i flaen mewn gweddi. (Salm 62:8) Dylen ni ofyn i ni’n hunain: ‘Ydy fy ngweddïau fel negeseuon ailadroddus, braidd yn arwynebol, neu ydyn nhw fel llythyrau personol a phob gair yn dod o’r galon?’ Does dim dwywaith dy fod ti’n caru Jehofa yn fawr iawn, a dy fod ti eisiau cadw dy berthynas ag ef yn gryf. Ond, i wneud hynny, bydd rhaid iti gyfathrebu ag ef yn rheolaidd. Rhanna dy deimladau personol ag ef, gan gynnwys y pethau sy’n dy wneud di’n hapus a’r pethau sy’n pwyso ar dy feddwl. Bydda’n sicr y gelli di fynd ato am help.
6. Beth y mae’n rhaid inni ei wneud i gadw perthynas glòs â’n Tad nefol?
6 Er mwyn inni gadw perthynas agos â’n Tad nefol, mae’n rhaid inni fod yn ddiolchgar iddo bob amser. Cytunwn â’r salmydd a ysgrifennodd: “O ARGLWYDD fy Nuw, rwyt ti wedi gwneud cymaint—wedi gwneud pethau rhyfeddol i gyflawni dy bwrpas ynon ni. Does neb yn gallu dy rwystro di! Dw i eisiau sôn am y pethau hyn wrth bobl eraill, ond mae yna ormod ohonyn nhw i’w cyfrif!” (Salm 40:5) Un peth yw teimlo’n ddiolchgar, ond awn ninnau ati i wneud mwy na hynny, a mynegi ein diolchgarwch i Jehofa mewn gair a gweithred. Mae hyn yn gwneud inni sefyll allan yn wahanol i lawer o bobl heddiw. Rydyn ni’n byw mewn byd lle nad yw pobl yn gwerthfawrogi popeth mae Duw yn ei wneud drostyn nhw. A dweud y gwir, un arwydd ein bod ni’n byw yn “y cyfnod olaf” yw’r ffaith bod pobl yn anniolchgar. (2 Tim. 3:1, 2) Dydyn ni byth eisiau bod fel ’na!
7. Beth mae Jehofa eisiau inni ei wneud, a pham?
7 Dydy rhieni ddim eisiau i’w plant ffraeo â’i gilydd, ond i fod yn ffrindiau. Yn debyg i hyn, mae Jehofa eisiau i bob un o’i blant gyd-dynnu â’i gilydd. Mae’r cariad sydd gennyn ni tuag at ein gilydd yn dangos ein bod ni’n wir Gristnogion. (Ioan 13:35) Cytunwn â’r salmydd a ysgrifennodd: “Mor dda, ac mor ddymunol yw i bobl fyw’n gytûn.” (Salm 133:1, BCND) Pan garwn ein brodyr a’n chwiorydd, rydyn ni’n profi i Jehofa ein bod ni’n ei garu. (1 Ioan 4:20) Mae’n hyfryd o beth i fod yn rhan o deulu o frodyr a chwiorydd sydd ‘yn garedig ac yn dyner gyda’i gilydd’!—Eff. 4:32.
DANGOSA DY GARIAD DRWY FOD YN UFUDD
Gweler paragraff 8
8. Yn ôl 1 Ioan 5:3, beth yw’r rheswm pwysicaf ein bod ni’n ufuddhau i Jehofa?
8 Mae Jehofa yn disgwyl i blant ufuddhau i’w rhieni, ac mae’n disgwyl i ninnau ufuddhau iddo ef. (Eff. 6:1) Mae’n deilwng o’n hufudd-dod am mai ef yw’n Creawdwr, Cynhaliwr ein bywydau, a’r doethaf o blith rhieni. Sut bynnag, y prif reswm rydyn ni’n ufuddhau i Jehofa yw ein bod ni’n ei garu. (Darllen 1 Ioan 5:3.) Er bod ’na lawer o resymau pam y dylen ni ufuddhau i Jehofa, dydy ef byth yn ein gorfodi. Rhoddodd Jehofa anrheg ewyllys rhydd inni, felly mae’n hapus pan fyddwn ni’n ufuddhau iddo oherwydd ein bod yn ei garu.
9-10. Pam mae hi’n bwysig i wybod safonau Jehofa nawr a’u rhoi ar waith?
9 Mae rhieni eisiau i’w plant fod yn ddiogel. Dyna pam maen nhw’n gosod rheolau ymddygiad, a fydd yn eu hamddiffyn. Pan fydd plant yn ufuddhau i’r canllawiau hyn, maen nhw’n dangos eu bod yn ymddiried yn eu rhieni ac yn eu parchu. Cymaint mwy felly, y dylen ni wybod safonau ein Tad nefol a’u dilyn. Pan wnawn ni hynny, dangoswn i Jehofa ein bod ni’n ei garu a’i barchu, a hyn er ein lles ein hunain. (Esei. 48:17, 18) Ond, bydd y rhai sy’n gwrthod Jehofa a’i safonau yn brifo eu hunain.—Gal. 6:7, 8.
10 Pan fyddwn ni’n byw bywyd sy’n plesio Jehofa, cawn ein hamddiffyn rhag niwed corfforol, emosiynol ac ysbrydol. Mae Jehofa’n gwybod beth sydd orau inni. Dywed Aurora sy’n byw yn yr Unol Daleithiau, “Mi wn i pan fyddwn ni’n ufuddhau i Jehofa, byddaf yn cael y bywyd gorau posib.” Mae hyn bob amser yn wir. Sut wyt ti wedi elwa ar arweiniad cariadus Jehofa?
11. Sut mae gweddïo yn ein helpu?
11 Mae gweddïo yn ein helpu i fod yn ufudd, hyd yn oed pan fydd gwneud hynny yn anodd. Ar brydiau, byddwn ni’n ei chael hi’n anodd ufuddhau i Jehofa am ein bod ni i gyd yn bechadurus, ond dylen ni frwydro’n barhaol i wrthod y tueddiad i bechu. Erfyniodd y salmydd ar Dduw: “Gwna fi’n awyddus i fod yn ufudd i ti.” (Salm 51:12) Dywed Denise sy’n arloeswraig llawn amser, “Os byddaf yn ei chael hi’n anodd ufuddhau i un o orchmynion Jehofa, byddaf yn gweddïo am y nerth i wneud beth sy’n iawn.” Gallwn fod yn sicr y bydd Jehofa bob amser yn ateb y fath weddi.—Luc 11:9-13.
HELPA ERAILL I GARU EIN TAD
12. Yn ôl Effesiaid 5:1, beth dylen ni ei wneud?
12 Darllen Effesiaid 5:1. A ninnau’n “blant annwyl” i Jehofa, gwnawn ein gorau i’w efelychu. Rydyn ni’n efelychu ei rinweddau drwy fod yn gariadus, yn garedig, a phan faddeuwn i eraill. Pan fydd y rhai sydd ddim yn adnabod Duw yn gweld ein hymddygiad da, fe allan nhw gael eu cymell i ddysgu mwy amdano. (1 Pedr 2:12) Dylai rhieni Cristnogol drin eu plant yn yr un ffordd y mae Jehofa yn ein trin ni. O wneud hynny, gall eu plant benderfynu drostyn nhw eu hunain i feithrin cyfeillgarwch â’n Tad cariadus hefyd.
Gweler paragraff 13
13. Beth dylen ni ei wneud i fod yn ddewr?
13 Mae plant ifanc fel arfer yn falch o’u tadau ac yn hapus i siarad amdanyn nhw. Yn yr un modd, rydyn ninnau’n falch o’n Tad nefol, Jehofa, a dymunwn i eraill ddod i’w adnabod. Yn ein calonnau, uniaethwn â geiriau’r Brenin Dafydd, a ysgrifennodd: “Dw i am frolio’r ARGLWYDD!” (Salm 34:2) Ond beth os ydyn ni’n rhy swil i siarad am Jehofa? Sut gallwn ni fagu dewrder? Fe ddaw’r dewrder wrth feddwl pa mor hapus y bydd Jehofa os byddwn ni’n siarad amdano ac yn ystyried gymaint bydd eraill ar eu hennill o ddysgu amdano. Yn sicr, bydd Jehofa’n rhoi’r dewrder inni. Fe helpodd y brodyr yn y ganrif gyntaf i fod yn ddewr, ac fe fydd yn ein helpu ninnau hefyd.—1 Thes. 2:2.
14. Beth yw rhai rhesymau y mae hi’n bwysig i wneud disgyblion?
14 Nid yw Jehofa yn dangos ffafriaeth, felly bydd yn hapus pan fydd yn ein gweld ni’n dangos cariad tuag at eraill, beth bynnag fo’u cefndir. (Act. 10:34, 35) Un o’r ffyrdd gorau o ddangos cariad at eraill yw drwy rannu’r newyddion da â nhw. (Math. 28:19, 20) Beth gall y gwaith hyn ei gyflawni? Gall y rhai sy’n gwrando arnon ni wella eu bywydau nawr a chael y gobaith o fyw am byth yn y dyfodol.—1 Tim. 4:16.
CARU EIN TAD A BOD YN HAPUS
15-16. Pa resymau sydd gennyn ni dros fod yn hapus?
15 Mae Jehofa yn rhiant cariadus, felly mae’n dymuno i’w deulu fod yn hapus. (Esei. 65:14) Mae llawer o resymau dros fod yn hapus nawr, er gwaethaf anawsterau sy’n codi o bryd i’w gilydd. Er enghraifft, gallwn fod yn hyderus o’r ffaith fod ein Tad nefol yn ein caru yn fawr iawn. Mae gennyn ni wybodaeth gywir o Air Duw, y Beibl. (Jer. 15:16) Rydyn ni’n rhan o deulu unigryw o bobl sy’n caru Jehofa a’i safonau moesol uchel, ac yn caru ei gilydd.—Salm 106:4, 5.
16 Gallwn ni wastad fod yn hapus oherwydd ein bod yn sicr y bydd bywyd yn well byth yn y dyfodol. Gwyddon ni y bydd Jehofa yn cael gwared o’r drygionus i gyd a bydd yn defnyddio ei Deyrnas i wneud yr holl ddaear yn Baradwys. Hefyd mae gennyn ni’r gobaith bendigedig y bydd y meirw yn cael eu hatgyfodi i fod gyda’u hanwyliaid eto. (Ioan 5:28, 29) Dyna i chi orfoledd fydd bryd hynny! Ac yn bwysicach na dim, rydyn ni’n sicr y bydd pawb yn y nefoedd ac ar y ddaear yn fuan iawn yn rhoi i’n Tad cariadus yr anrhydedd, y mawl, a’r defosiwn y mae’n ei haeddu.
CÂN 12 Mawr Dduw, Jehofa
a Rydyn ni’n gwybod bod ein Tad, Jehofa, yn ein caru ni’n fawr iawn ac wedi’n gwneud ni’n rhan o’i deulu o addolwyr. Ac yn naturiol ddigon, fe gawn ni ein cymell i’w garu ef. Sut gallwn ni ddangos i’n Tad ein bod ni’n ei garu? Bydd yr erthygl hon yn ystyried rhai pethau penodol y gallwn ni eu gwneud.