LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp21 Rhif 2 tt. 10-12
  • Sut Gallwch Chi Fyw Mewn Byd Newydd?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Gallwch Chi Fyw Mewn Byd Newydd?
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2021
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • GOROESI’R DIWEDD DRWY DDOD I ADNABOD DUW
  • DARLLEN GAIR DUW, Y BEIBL, BOB DYDD
  • GWEDDÏO AR DDUW AM HELP
  • Beth Mae Duw Wedi Ei Wneud?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2019
  • Sut Gallwch Chi Fyw am Byth?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Gallwch Fyw am Byth ar y Ddaear
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2018
  • Gallwn Ni Fyw am Byth
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2021
wp21 Rhif 2 tt. 10-12

Sut Gallwch Chi Fyw Mewn Byd Newydd?

Mae’r erthyglau blaenorol wedi dangos y bydd Duw yn dod â’r system ddrygionus hon, a’i holl broblemau, i ben yn fuan. Gallwn fod yn sicr y bydd hynny’n digwydd. Pam? Am fod Gair Duw, y Beibl, wedi addo:

“Mae’r byd yn mynd heibio.”—1 IOAN 2:17.

Gallwn ni fod yn sicr y bydd rhai yn goroesi oherwydd mae’r adnod uchod hefyd yn addo:

“Mae’r sawl sy’n gwneud beth mae Duw eisiau yn byw am byth.”

Felly, mae gwneud ewyllys Duw yn allweddol er mwyn goroesi. I wybod beth yw ewyllys Duw, mae’n rhaid inni ddod i’w adnabod yn gyntaf.

GOROESI’R DIWEDD DRWY DDOD I ADNABOD DUW

Collage: 1. Nyrs yn eistedd ar y llawr mewn ysbyty wedi ei llethu ac wedi blino’n lân. 2. Mae hi’n cael brêc yn y cantîn ac yn sylwi bod nyrs arall yn darllen cylchgrawn yn hapus. 3. Mae’r nyrs arall yn darllen adnod o’r Beibl iddi ac yn rhoi cerdyn cyswllt jw.org iddi.

Dywedodd Iesu: “Dyma beth sy’n arwain i fywyd tragwyddol, eu bod nhw’n dod i dy adnabod di, yr unig wir Dduw.” (Ioan 17:3) Er mwyn goroesi’r diwedd a byw am byth, mae’n rhaid inni ddod i adnabod Duw. Mae hynny’n golygu mwy na dim ond cydnabod bod Duw yn bodoli, neu wybod ychydig o ffeithiau amdano. Mae angen bod yn ffrindiau ag ef. Rydyn ni angen treulio amser gyda’n ffrindiau os ydyn ni eisiau i’r berthynas honno fod yn gryf. Mae’r un peth yn wir am ein perthynas â Duw. Ystyriwch rai gwirioneddau pwysig rydyn ni’n eu dysgu o’r Beibl sy’n ein helpu ni i feithrin perthynas â Duw ac i aros yn ffrind iddo.

Gwirioneddau Rydyn Ni’n eu Dysgu o’r Beibl

Y nyrs, gartref, yn edrych ar wefan jw.org.

Roedd Duw wedi bwriadu inni fyw ym Mharadwys.

Creodd Duw y bodau dynol cyntaf, Adda ac Efa, a’u rhoi nhw mewn lleoliad hyfryd o’r enw gardd Eden. Roedden nhw’n berffaith, ac roedd Duw wedi rhoi popeth roedden nhw ei angen i fwynhau bywyd hapus. Gallen nhw fod wedi byw am byth. Cyn belled ag yr oedden nhw’n aros yn ffrind i Dduw, fydden nhw byth yn marw. Ond, gwnaethon nhw benderfynu mynd yn groes i orchymyn syml roedd Duw wedi ei roi iddyn nhw.

Pam rydyn ni’n dioddef.

Drwy fod yn anufudd i Dduw, collodd y dyn cyntaf, Adda, y cyfle i fyw am byth iddo’i hun, a gweddill y ddynoliaeth. Mae’r Beibl yn esbonio: “Daeth pechod i’r byd drwy un dyn, a daeth marwolaeth drwy bechod. Felly, lledaenodd marwolaeth i bawb.” (Rhufeiniaid 5:12) Yn union fel gall rhywun etifeddu gwendid genetig oddi wrth ei rieni, gwnaeth pob un o blant Adda etifeddu amherffeithrwydd oddi wrtho. O ganlyniad, rydyn ni’n mynd yn hen ac yn marw.

Beth mae Duw eisoes wedi ei wneud i’n helpu ni.

Mae’r Beibl yn dweud: “Gwnaeth Duw garu’r byd gymaint nes iddo roi ei unig-anedig Fab, er mwyn i bawb sy’n ymarfer ffydd ynddo beidio â chael eu dinistrio ond cael bywyd tragwyddol.” (Ioan 3:16) Gwnaeth Duw anfon Iesu i’r ddaear er mwyn iddo roi ei fywyd droston ni. Wrth sôn am y weithred gariadus honno, dywedodd Prabhakar, dyn 86 mlwydd oed o India: “Mae’n dangos cymaint mae Jehofaa yn fy ngharu. Oherwydd ei gariad, mae gen i’r gobaith o fyw am byth.”

Sut gallwn ni ddangos ein gwerthfawrogiad am yr hyn mae Duw wedi ei wneud droston ni.

Yn ôl y Beibl, gallwn ddangos ein gwerthfawrogiad am yr hyn mae Duw wedi ei wneud droston ni drwy “gadw ei orchmynion.” (1 Ioan 2:3) Yn ei gariad, mae Jehofa yn dangos inni sut gallwn ni fwynhau bywyd nawr. (Eseia 48:17, 18) Dydy Duw ddim eisiau inni ddioddef. Mae’n addo y byddwn ni, nid yn unig yn mwynhau bywyd hapus nawr, ond byddwn ni hefyd yn cael y cyfle i fyw am byth os ydyn ni’n gwneud ei ewyllys.

DARLLEN GAIR DUW, Y BEIBL, BOB DYDD

Y nyrs yn edrych tua’r nef ar ôl darllen y Beibl yn ystod ei hamser cinio tu allan.

Gallwch chi oroesi diwedd y byd hwn drwy weddïo am help Duw a gwneud ei ewyllys

Rydyn ni’n bwyta bwyd yn rheolaidd er mwyn aros yn fyw. Ond dywedodd Iesu: “Mae’n rhaid i ddyn fyw, nid ar fara yn unig, ond ar bob gair sy’n dod o geg Jehofa.”—Mathew 4:4.

Heddiw, cawn hyd i bopeth mae Duw’n ei ddweud yn nhudalennau’r Beibl. Wrth ichi astudio’r llyfr sanctaidd hwnnw, byddwch chi’n dysgu beth mae Jehofa wedi ei wneud yn y gorffennol, beth mae’n ei wneud nawr, a beth bydd yn ei wneud yn y dyfodol.

GWEDDÏO AR DDUW AM HELP

Beth gallwch chi ei wneud os ydych chi eisiau bod yn ufudd i Dduw, ond yn ei chael hi’n anodd stopio gwneud pethau sy’n mynd yn groes i’w ewyllys? Yn yr achos hwnnw, gall dod i adnabod Duw eich helpu mewn ffordd arbennig iawn.

Ystyriwch ddynes gwnawn ni ei galw’n Sakura a oedd yn byw bywyd anfoesol. Pan ddechreuodd hi astudio’r Beibl, gwnaeth hi ddysgu am orchymyn Duw: “Ffowch oddi wrth anfoesoldeb rhywiol.” (1 Corinthiaid 6:18) Gweddïodd Sakura ar Dduw am nerth, a llwyddodd i roi’r gorau i’w harferion drwg. Ond mae hi’n brwydro temtasiynau hyd heddiw. “Os ydy pethau anfoesol yn codi yn fy meddwl,” meddai, “dw i’n siarad yn gwbl agored â Jehofa mewn gweddi, gan wybod fedra i ddim brwydro yn erbyn hyn ar fy mhen fy hun. Dw i’n agosach at Jehofa oherwydd grym gweddi.” Fel Sakura, mae miliynau yn dod i adnabod Duw. Mae ef yn rhoi iddyn nhw’r nerth maen nhw ei angen i wneud newidiadau yn eu bywydau, ac i fyw mewn ffordd sy’n ei blesio.—Philipiaid 4:13.

Y mwyaf rydych chi’n dod i adnabod Duw, y mwyaf byddwch chi’n cael “eich adnabod gan Dduw” fel ffrind gwerthfawr. (Galatiaid 4:9; Salm 145:18) Yna, byddwch chi’n gallu goroesi i fyd newydd Duw. Ond sut le fydd y byd newydd hwnnw? Bydd yr erthygl nesaf yn esbonio.

a Jehofa ydy enw Duw, fel mae’r Beibl yn dangos.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu