LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp23 Rhif 1 tt. 8-9
  • 2 | Cysur o’r Beibl

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • 2 | Cysur o’r Beibl
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2023
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth Mae Hynny’n ei Olygu?
  • Sut Gall Hyn Helpu?
  • 3 | Sut Gall Esiamplau o’r Beibl Eich Helpu?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2023
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2023
wp23 Rhif 1 tt. 8-9
Dyn hŷn yn meddwl am beth mae’n ei ddarllen yn y Beibl.

2 | Cysur o’r Beibl

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Mae’r holl bethau a gafodd eu hysgrifennu amser maith yn ôl yn yr Ysgrythurau wedi cael eu hysgrifennu i’n dysgu ni, ac mae gynnon ni obaith oherwydd ein dyfalbarhad a’r anogaeth mae’r Ysgrythurau’n ei rhoi inni.”—RHUFEINIAID 15:4.

Beth Mae Hynny’n ei Olygu?

Mae’r Beibl yn ein cysuro ni ac yn rhoi’r nerth inni allu delio â meddyliau negyddol. Mae’r Beibl hefyd yn rhoi’r gobaith inni y bydd ein poen emosiynol yn diflannu’n fuan.

Sut Gall Hyn Helpu?

Rydyn ni i gyd yn teimlo’n drist ar adegau, ond mae’r rhai sy’n dioddef o iselder neu orbryder yn gorfod brwydro emosiynau poenus bob dydd. Sut gall y Beibl helpu?

  • Mae’r Beibl yn cynnwys llawer o bethau positif a all ddisodli meddyliau negyddol. (Philipiaid 4:8) Mae’n gallu tawelu ein meddyliau a’n helpu ni i reoli ein hemosiynau.—Salm 94:18, 19.

  • Gall y Beibl ein helpu ni i wrthod y teimlad ein bod ni’n dda i ddim.—Luc 12:6, 7.

  • Mae’r Beibl yn ein hatgoffa dro ar ôl tro nad ydyn ni ar ein pennau ein hunain ac yn dangos bod Duw, ein Creawdwr, yn ein deall ni i’r dim.—Salm 34:18; 1 Ioan 3:19, 20.

  • Mae’r Beibl yn addo y bydd Duw yn cael gwared ar ein holl atgofion poenus. (Eseia 65:17; Datguddiad 21:4) Pan mae meddyliau ac emosiynau anghyfforddus yn codi, mae’r addewid hwnnw yn gallu rhoi’r nerth inni ddal ati.

Sut Mae’r Beibl yn Helpu Jessica

Sut Mae Iselder yn Effeithio Arna I?

Jessica yn syrthio i gysgu gyda Beibl agored yn ei llaw.

“Pan o’n i’n 25 mlwydd oed, ges i chwalfa nerfol a diagnosis o iselder dwys. Roedd atgofion ofnadwy yn codi yn fy mhen, a doeddwn i ddim yn gallu eu stopio nhw. Ond, gwnaeth y doctoriaid fy helpu i weld y cysylltiad rhwng y pethau drwg a ddigwyddodd imi yn y gorffennol a fy iselder. Yn ogystal â’r feddyginiaeth iawn, roedd rhaid imi gael therapi i wybod sut i gywiro fy mhatrwm negyddol o feddwl.”

Sut Mae’r Beibl yn Fy Helpu?

“Yn nyddiau duaf fy iselder, o’n i’n cael pyliau o banig, gorbryder llethol, a doeddwn i ddim yn gallu cysgu. Yn aml yn y nos, roedd meddyliau anghyfforddus yn troelli yn fy mhen. Ond mae Salm 94:19 yn dweud bod Duw yn gallu ein cysuro ni pan mae pryder yn ein llethu. Felly, o’n i’n cadw Beibl wrth fy ngwely yn ogystal â llyfr nodiadau llawn adnodau calonogol. Pan o’n i’n methu cysgu, o’n i’n darllen yr adnodau hynny ac yn gadael i feddyliau Duw fy nghysuro i.

“Yn y gorffennol, o’n i’n hollol sicr fy mod i’n ddiwerth, ac na fyddai neb yn gallu fy ngharu i. Ond dw i wedi dysgu o’r Beibl mai nid dyna sut mae Duw yn teimlo amdana i. Mae Duw yn Dad caredig a thrugarog, ac mae’n ein caru ni yn bersonol. Fesul tipyn, dw i wedi dechrau rheoli fy meddyliau, yn hytrach na gadael i fy meddyliau fy rheoli i. Dw i wedi dysgu i weld fy hun fel mae Duw yn fy ngweld i. Roedd hynny’n gam allweddol i fy helpu i i gael fy hunan-werth yn ôl.

“Dw i’n edrych ymlaen at yr amser pan fydd atgofion poenus a phatrymau niweidiol o feddwl yn diflannu. Mae gwybod hynny yn fy helpu i i ddal ati ac i edrych ymlaen at y dyfodol pan fydd fy mrwydr yn erbyn iselder drosodd.”

Am Fwy o Help:

Darllenwch yr erthygl “Help From ‘the God of Comfort,’” yn rhifyn Gorffennaf, 2009, y Deffrwch! Saesneg ar jw.org.

Gwrandewch ar recordiad sain o’r Salmau ar jw.org.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu