3 | Sut Gall Esiamplau o’r Beibl Eich Helpu?
MAE’R BEIBL YN DISGRIFIO . . . Dynion a merched ffyddlon oedd â’r “un teimladau â ni.”—IAGO 5:17.
Beth Mae Hynny’n ei Olygu?
Mae’r Beibl yn llawn hanesion dynion a merched a wynebodd bob math o emosiynau. Wrth inni ddarllen amdanyn nhw, mae’n debyg byddwn ni’n dod ar draws cymeriad gallwn ni gydymdeimlo ag ef neu hi.
Sut Gall Hyn Helpu?
Rydyn ni i gyd eisiau teimlo bod eraill yn ein deall ni, yn enwedig os ydyn ni’n stryglo â’n hiechyd meddwl. Pan ydyn ni’n darllen profiadau pobl yn y Beibl, efallai byddwn ni’n uniaethu â’r ffordd maen nhw’n meddwl ac yn teimlo. Gall gwybod fod eraill wedi delio â phryder ac emosiynau cythryblus ein helpu ni i weld nad ydyn ni ar ein pennau ein hunain.
Gwnaeth llawer o gymeriadau yn y Beibl fynegi eu hunain pan oedden nhw ar eu hisaf. Ydych chi erioed wedi teimlo ‘Dw i wedi cael llond bol, mae hyn yn ormod imi’? Roedd Moses yn teimlo fel ’na, ac Elias, a Dafydd hefyd.—Numeri 11:14; 1 Brenhinoedd 19:4; Salm 55:4.
Mae’r Beibl yn sôn am ddynes o’r enw Hanna oedd wedi “torri ei chalon” oherwydd roedd hi’n methu cael plant ac roedd hi’n cael ei phryfocio’n arw gan wraig arall.—1 Samuel 1:6, 10.
Efallai byddwch yn uniaethu â dyn o’r Beibl o’r enw Job. Roedd yn ddyn ffyddlon, ond eto roedd yn teimlo poen emosiynol llethol, a dywedodd: “Dw i wedi cael llond bol, does gen i ddim eisiau byw ddim mwy.”—Job 7:16.
Bydd darllen am sut gwnaeth y bobl hyn ddelio â meddyliau negyddol yn rhoi’r nerth inni ddelio â phoen emosiynol ni’n hunain.