LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp24 Rhif 1 tt. 6-9
  • Da a Drwg: Y Beibl​—⁠Arweiniad Dibynadwy

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Da a Drwg: Y Beibl​—⁠Arweiniad Dibynadwy
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2024
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • ARWEINIAD ANGENRHEIDIOL
  • SUT MAE’R BEIBL YN DATGELU ARWEINIAD DUW
  • Ydy Safonau Moesol y Beibl yn Berthnasol Heddiw?
    Pynciau Eraill
  • Mwy o Help ar Gyfer y Teulu
    Deffrwch!—2018
  • Da a Drwg: Y Dewis Sydd o’ch Blaen Chi
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2024
  • Llyfr Ymarferol Ar Gyfer Byw Modern
    Llyfr i Bawb
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2024
wp24 Rhif 1 tt. 6-9

Da a Drwg: Y Beibl—Arweiniad Dibynadwy

Allwn ni ddim bod yn siŵr o’r canlyniadau os ydyn ni ond yn gwneud penderfyniadau moesol ar sail teimladau. Mae’r Beibl yn datgelu pam, ond mae hefyd yn gwneud mwy na hynny. Mae’n cynnwys arweiniad moesol dibynadwy, sy’n hanfodol er mwyn cael bywyd hapus.

ARWEINIAD ANGENRHEIDIOL

Yn ôl y Beibl, roedd Jehofaa Dduw yn bwriadu i bobl droi ato ef am arweiniad yn hytrach nag arwain, neu reoli, eu hunain. (Jeremeia 10:23) Dyna pam gwnaeth ef gynnwys safonau moesol yn ei Air. Mae’n caru’r teulu dynol, ac mae eisiau inni osgoi’r canlyniadau drwg sy’n dod o ddysgu o brofiad. (Deuteronomium 5:29; 1 Ioan 4:8) Ond yn fwy na hynny, mae gan ein Creawdwr y doethineb a’r wybodaeth i roi’r cyngor moesol gorau inni. (Salm 100:3; 104:24) Er hynny, dydy Duw byth yn gorfodi pobl i fyw yn ôl ei safonau.

Rhoddodd Jehofa bopeth i’r cwpl cyntaf, Adda ac Efa, er mwyn iddyn nhw gael bywyd hapus. (Genesis 1:​28, 29; 2:​8, 15) Gwnaeth ef hefyd roi cyfarwyddiadau syml iddyn nhw eu dilyn. Ond, roedd ganddyn nhw’r dewis i’w dilyn nhw neu beidio. (Genesis 2:​9, 16, 17) Yn anffodus, penderfynodd Adda ac Efa fyw yn ôl eu safonau nhw eu hunain yn hytrach na safonau Duw. (Genesis 3:6) Gyda pha ganlyniad? Ydy’r teulu dynol wedi elwa o benderfynu drostyn nhw eu hunain beth sy’n dda neu’n ddrwg? Nac ydyn. Mae hanes yn dangos yn glir dydy anwybyddu safonau Duw ddim yn dod â heddwch na hapusrwydd parhaol.—Pregethwr 8:9.

Mae’r Beibl yn rhoi’r arweiniad sydd ei angen arnon ni er mwyn gwneud penderfyniadau moesol doeth, ni waeth beth ydy ein cefndir. (2 Timotheus 3:​16, 17; gweler y blwch “Llyfr i Bawb.”) Ystyriwch sut mae’r Beibl yn gwneud hyn.

I ddysgu pam mai “Gair Duw” ydy’r Beibl, gwyliwch y fideo Pwy Yw Awdur y Beibl? ar jw.org.—1 Thessaloniaid 2:13.

LLYFR I BAWB

Mae’n rhesymol i ddisgwyl y byddai Creawdwr doeth a charedig yn gwneud yn siŵr bod ei arweiniad moesol ar gael i bawb. Ystyriwch y ffeithiau hyn am y Beibl:

Pobl o wahanol genedlaethau yn darllen y Beibl. Ar y tu blaen mae nifer o fersiynau printiedig a digidol o’r Beibl.
  • 3,500+ Y nifer o ieithoedd mae o leiaf rhan o’r Beibl ar gael ynddyn nhw, llawer mwy nag unrhyw lyfr arall erioed.

  • 5,000,000,000+ Y nifer o gopïau o’r Beibl sydd wedi eu cynhyrchu, llawer mwy nag unrhyw lyfr arall erioed.

Dydy’r Beibl ddim yn dyrchafu un genedl, hil, llwyth, neu ddiwylliant dros un arall. Mae’n wir yn llyfr i bawb.

Darllenwch y Beibl ar lein (ar gael mewn mwy na 250 o ieithoedd) ar jw.org

Dyn yn defnyddio ei fys i ddilyn wrth iddo ddarllen y Beibl.

PAM MAE RHAI YN ANWYBYDDU’R BEIBL

Mae rhai yn honni nad ydy’r Beibl yn ffynhonnell dda ar gyfer arweiniad moesol. Efallai bydden nhw’n codi’r gwrthwynebiadau canlynol.

Y Gwrthwynebiad: “Mae’r Beibl yn gwrth-ddweud ei hun.”

Y ffaith: Nifer bach o adnodau sy’n ymweld fel petasen nhw’n gwrth-ddweud ei gilydd. Ond, gall y rhain gael eu datrys drwy ystyried y cyd-destun, ffeithiau neu arferion hanesyddol, safbwynt yr ysgrifennwr, a ffactorau eraill.

Am enghreifftiau penodol, darllenwch yr erthygl “Are There Contradictions in the Bible?” ar jw.org.

Y Gwrthwynebiad: “Mae pobl sy’n dweud eu bod nhw’n dilyn y Beibl yn gwneud pethau drwg, felly mae’n amlwg nad ydy’r Beibl yn rhoi arweiniad moesol da.”

Y Ffaith: Nid y Beibl sydd ar fai am ymddygiad pobl sydd ddim yn rhoi beth mae’n ei ddweud ar waith. Rhagfynegodd y Beibl y byddai llawer o bobl—gan gynnwys arweinwyr crefyddol—yn honni eu bod nhw’n dilyn y Beibl ond yn mynd yn hollol groes i’w ddysgeidiaeth. Mae hefyd yn dweud byddai hynny’n achosi i bobl “siarad yn gas” amdano.—2 Pedr 2:​1, 2.

Am un enghraifft o’r ffordd mae llawer o arweinwyr crefyddol wedi gwyro oddi wrth ddysgeidiaeth y Beibl, darllenwch yr erthygl “Is Religion Just Another Big Business?” ar jw.org.

Y Gwrthwynebiad: “Mae’r Beibl yn annog pobl i fod yn gul ac yn anoddefgar.”

Y Ffaith: Mae’r Beibl yn annog pobl i drin eraill â pharch. Dydy’r Beibl ddim yn cefnogi . . .

  • ystyried ein hunain yn uwch nag eraill.—Philipiaid 2:3.

  • amharchu pobl sydd â daliadau neu safonau gwahanol.—1 Pedr 2:17.

  • rhoi pwysau ar eraill i gytuno â ni.—Mathew 10:14.

Mae’r Beibl yn dangos bod Duw yn garedig ac yn deg yn y ffordd mae’n trin pobl, ac mae ef eisiau inni ddilyn ei esiampl. —Rhufeiniaid 9:14.

Am fwy o wybodaeth, darllenwch yr erthygl “Goddefgarwch—Sut Mae’r Beibl yn Helpu?” ar jw.org.

SUT MAE’R BEIBL YN DATGELU ARWEINIAD DUW

Mae’r Beibl yn cynnwys hanes perthynas Jehofa â phobl. Mae’n ein helpu ni i ddeall beth sy’n dda inni a beth sy’n ddrwg inni yng ngolwg Duw. (Salm 19:​7, 11) Mae’r Beibl hefyd yn cynnwys egwyddorion sydd byth yn newid a fydd yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau moesol da yn ein bywydau bob dydd.

Er enghraifft, ystyriwch y cyngor yn Diarhebion 13:20: “Mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi’n ddoeth, ond mae cadw cwmni ffyliaid yn gofyn am drwbwl.” Mae’r egwyddor honno’n dal yn berthnasol heddiw, ac mae’r Beibl yn llawn egwyddorion ymarferol a gwerthfawr o’r fath.—Gweler y blwch “Doethineb Tragwyddol y Beibl.”

Efallai byddwch chi’n gofyn: ‘Sut galla i fod yn hyderus bod arweiniad moesol y Beibl yn gweithio heddiw?’ Bydd yr erthygl nesaf yn ystyried rhai esiamplau.

a Jehofa yw enw personol Duw.—Genesis 2:​4, tdn. Cyfieithiad y Byd Newydd.

DOETHINEB TRAGWYDDOL Y BEIBL

Er bod y Beibl wedi cael ei gwblhau bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl, mae’n dal i fod yn berthnasol heddiw. Dydy’r natur ddynol ddim wedi newid—rydyn ni’n edrych am foddhad a hapusrwydd mewn bywyd. (Pregethwr 1:9) Gall doethineb tragwyddol y Beibl ein helpu ni i gyrraedd y nod hwnnw.

Gonestrwydd

  • “Rydyn ni eisiau ymddwyn yn onest ym mhob peth.”—Hebreaid 13:18.

  • “Dylai’r sawl sy’n dwyn stopio dwyn; yn hytrach, gadewch iddo weithio’n galed.”—Effesiaid 4:28.

Perthynas ag Eraill

  • “Gadewch i bob un barhau i geisio, nid ei fantais ei hun, ond mantais y person arall.”—1 Corinthiaid 10:24.

  • “Parhewch i oddef eich gilydd ac i faddau i’ch gilydd heb ddal yn ôl.” —Colosiaid 3:13.

Gwneud Penderfyniadau

  • “Mae’r twpsyn yn fodlon credu unrhyw beth; ond mae’r person call yn fwy gofalus.”—Diarhebion 14:15.

  • “Mae’r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi; ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu’r pris.” —Diarhebion 22:3.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu