ERTHYGL ASTUDIO 21
CÂN 107 Patrwm Dwyfol Gariad
Sut i Ddod o Hyd i Gymar
“Pwy sy’n gallu dod o hyd i wraig dda? Mae hi’n fwy gwerthfawr na gemau.”—DIAR. 31:10.
PWRPAS
Egwyddorion Beiblaidd sy’n helpu Cristion i ddod o hyd i gymar a sut gall eraill yn y gynulleidfa gefnogi’r rhai sydd eisiau priodi.
1-2. (a) Cyn dechrau canlyn, pa fath o bethau dylai Cristnogion eu hystyried yn ofalus? (b) Beth rydyn ni’n ei olygu wrth ddefnyddio’r gair “canlyn”? (Gweler “Esboniad.”)
DYDY priodi ddim yn angenrheidiol er mwyn bod yn hapus, ond mae nifer o Gristnogion, yn iau neu’n hŷn, yn edrych ymlaen at fod yn briod. Wrth gwrs, cyn dechrau canlyn, dylai person fod yn barod yn ariannol, yn ysbrydol, ac yn emosiynol ar gyfer priodas.a (1 Cor. 7:36) Os wyt ti’n gwneud hyn, byddi di’n fwy tebygol o gael priodas lwyddiannus.
2 Ond, dydy hi ddim yn wastad yn hawdd i berson ddod o hyd i gymar. (Diar. 31:10) A hyd yn oed ar ôl iti ffeindio rhywun hoffet ti ddod i’w adnabod yn well, dydy dechrau canlyn ddim yn wastad yn beth hawdd.b Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut gall Cristion sengl ddod o hyd i gymar addas a sut i ddechrau canlyn. Byddwn ni hefyd yn trafod sut gall eraill yn y gynulleidfa gefnogi’r rhai sydd eisiau priodi.
DOD O HYD I GYMAR
3. Pa ffactorau dylai Gristion sengl eu hystyried wrth chwilio am gymar?
3 Os hoffet ti briodi, peth da fyddai ystyried pa rinweddau hoffet ti eu gweld yn dy gymar.c Yna, byddi di’n llai tebygol o wrthod rhywun a allai fod yn gymar da, neu ddechrau canlyn rhywun sydd ddim yn dy siwtio di’n dda. Wrth gwrs, dylet ti ond ystyried priodi rhywun sydd wedi cael ei bedyddio. (1 Cor. 7:39) Er hynny, ni fydd pob Cristion sydd wedi cael ei bedyddio yn gymar addas i ti. Felly, gelli di ofyn iti dy hun: ‘Pa amcanion hoffwn i eu cyrraedd yn fy mywyd? Pa rinweddau fyddai’n angenrheidiol mewn cymar? Ydy fy nisgwyliadau’n realistig?’
4. Wrth ystyried priodi, beth mae rhai wedi ei gynnwys yn eu gweddïau?
4 Os hoffet ti briodi, mae’n siŵr dy fod ti wedi gweddïo am dy deimladau. (Phil. 4:6) Wrth gwrs, dydy Jehofa ddim yn addo cymar i bawb. Ond mae dy anghenion a dy deimladau yn bwysig iddo, ac mae’n gallu dy helpu di i ffeindio cymar. Felly, dal ati i rannu dy ddymuniadau a dy deimladau â Jehofa. (Salm 62:8) Gofynna am amynedd a doethineb. (Iago 1:5) Mae John,d brawd sengl o’r Unol Daleithiau, yn esbonio beth mae’n ei gynnwys yn ei weddïau: “Rydw i’n rhannu â Jehofa y rhinweddau hoffwn i eu gweld mewn cymar. Rydw i’n gweddïo am gyfleoedd i gyfarfod rhywun. Rydw i hefyd yn gofyn am help Jehofa i ddatblygu rhinweddau er mwyn bod yn ŵr da.” Mae Tanya, chwaer o Sri Lanka, yn dweud: “Wrth imi chwilio am gymar, rydw i’n gofyn am help Jehofa i aros yn ffyddlon, yn bositif, ac yn hapus.” Hyd yn oed os dwyt ti ddim yn dod o hyd i gymar yn syth, mae Jehofa’n addo edrych ar ôl dy anghenion corfforol ac emosiynol.—Salm 55:22.
5. Pa gyfleoedd sydd gan Gristnogion sengl i gwrdd ag eraill sy’n caru Jehofa? (1 Corinthiaid 15:58) (Gweler hefyd y llun.)
5 Mae’r Beibl yn ein hannog ni i gael ‘digon i’w wneud yng ngwaith yr Arglwydd.’ (Darllen 1 Corinthiaid 15:58.) Wrth iti gadw’n brysur yn gwasanaethu Jehofa a threulio amser gyda gwahanol frodyr a chwiorydd, byddi di’n cael dy galonogi. Bydd hefyd yn rhoi cyfleoedd iti gyfarfod rhai sengl eraill sy’n canolbwyntio ar wasanaethu Jehofa. Wrth iti wneud dy orau i blesio Jehofa, byddi di’n profi gwir hapusrwydd.
Os wyt ti’n brysur yn gwasanaethu Jehofa ac yn treulio amser gyda gwahanol frodyr a chwiorydd, efallai byddi di’n cyfarfod eraill sydd â diddordeb mewn priodi (Gweler paragraff 5)
6. Wrth chwilio am gymar, beth dylai Gristnogion sengl ei gofio?
6 Ond, gair o rybudd: Paid â gadael i chwilio am gymar lenwi dy feddwl. (Phil. 1:10) Mae gwir hapusrwydd yn dibynnu ar berthynas person â Jehofa, nid ar ei statws priodasol. (Math. 5:3) Tra dy fod ti’n sengl, efallai bydd gen ti fwy o ryddid i ehangu dy weinidogaeth. (1 Cor. 7:32, 33) Gwna’r gorau o’r adeg hon yn dy fywyd. Dywedodd Jessica, chwaer o’r Unol Daleithiau a briododd yn ei 30au hwyr: “Arhosais yn brysur yn y weinidogaeth, er fy mod i eisiau priodi. Gwnaeth hyn fy helpu i fod yn fodlon.”
CYMERA AMSER I DDYSGU AM Y PERSON ARALL
7. Pam byddai’n beth doeth i ddysgu am y person am ychydig, cyn dangos diddordeb? (Diarhebion 13:16)
7 Beth os wyt ti’n meddwl dy fod ti wedi dod o hyd i rywun addas? A ddylet ti ddangos diddordeb yn y person hwnnw’n syth? Mae’r Beibl yn dweud bod person call yn dysgu cyn gweithredu. (Darllen Diarhebion 13:16, NWT o’r troednodyn.e) Felly, byddai’n beth doeth i wylio sut mae rhywun yn ymddwyn am gyfnod cyn dangos unrhyw ddiddordeb. “Gall teimladau godi’n gyflym, ond hefyd diflannu’n gyflym,” dywedodd Aschwin o’r Iseldiroedd. “Drwy gymryd dy amser, fyddi di ddim yn dechrau canlyn rhywun ar sail awydd cryf sy’n codi’n sydyn.” Ar ben hynny, wrth iti ddysgu mwy am y person arall, efallai byddi di’n sylwi nad ydych chi’n iawn i’ch gilydd.
8. Sut gall rhywun sengl fynd ati i ddysgu am y person arall? (Gweler hefyd y llun.)
8 Sut gelli di fynd ati i ddysgu am y person arall? Efallai byddi di’n sylwi ar ysbrydolrwydd, personoliaeth, ac ymddygiad y person yn y gynulleidfa neu wrth gymdeithasu ag eraill. Beth mae’n hoffi siarad amdano? Pwy yw ei ffrindiau? (Luc 6:45) Ydy ei amcanion yn debyg i fy amcanion i? Efallai gelli di ofyn i’r henuriaid yn ei gynulleidfa neu Gristnogion aeddfed eraill sy’n ei adnabod yn dda am ei gymeriad. (Ruth 2:11; Diar. 20:18) Tra dy fod ti’n dysgu am y person, bydda’n ofalus i beidio â gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus. Bydda’n barchus o’i deimladau a’i breifatrwydd. Does dim angen iti dreulio dy holl amser gyda nhw.
Cyn dangos diddordeb, cymera amser i ddysgu am y person am ychydig (Gweler paragraffau 7-8)
9. Cyn dweud wrth rywun dy fod ti eisiau ei ganlyn, beth dylet ti fod yn siŵr ohono?
9 Am ba mor hir dylet ti ddysgu am y person cyn dangos diddordeb? Gall dangos diddordeb yn rhy gyflym edrych yn fyrbwyll. (Diar. 29:20) Ar y llaw arall, os wyt ti’n oedi am amser hir, gelli di edrych yn amhendant, yn enwedig os ydy’r person arall yn ymwybodol o dy ddiddordeb. (Preg. 11:4) Cofia, drwy ddangos diddordeb, dwyt ti ddim yn addo priodi’r person hwnnw. Ond, dylet ti fod yn siŵr dy fod ti’n barod i briodi a byddai’r person arall yn gymar da iti.
10. Beth os wyt ti’n teimlo bod gan rywun ddiddordeb ynot ti, ond dwyt ti ddim yn teimlo’r un fath?
10 Beth os wyt ti’n teimlo bod gan rywun ddiddordeb ynot ti? Os dwyt ti ddim yn teimlo’r un fath tuag ato ef, tria ddangos hynny’n glir drwy dy weithredoedd. Ni fyddai’n garedig i adael i’r person arall deimlo bod ’na obaith am berthynas.—1 Cor. 10:24; Eff. 4:25.
11. Mewn gwledydd lle mae’r trefniadau ar gyfer canlyn a phriodi yn cael eu gwneud gan eraill, pa ffactorau y dylai gael eu hystyried?
11 Mewn rhai gwledydd, mae rhieni neu oedolion eraill yn dewis cymar ar gyfer aelod o’r teulu sy’n sengl. Mewn gwledydd eraill, bydd teulu neu ffrindiau yn chwilio am gymar ar gyfer person sengl, ac yna’n trefnu i’r ddau gwrdd â’i gilydd i weld os ydyn nhw eisiau dechrau canlyn. Os ydy rhywun yn gofyn iti am help i ffeindio cymar, ystyria anghenion a dymuniadau’r dyn a’r ddynes. Ar ôl dod o hyd i rywun, dysga gymaint â phosib am ei bersonoliaeth, ei rinweddau, ac yn bwysicaf oll, ei ysbrydolrwydd. Mae perthynas agos â Jehofa yn bwysicach nag arian, addysg, neu statws yn y gymuned. Ond, cofia fod rhaid i’r rhai sengl wneud y penderfyniad i briodi neu beidio.—Gal. 6:5.
DECHRAU CANLYN
12. Os hoffet ti ddechrau canlyn rhywun, sut gelli di ddangos dy ddiddordeb?
12 Os hoffet ti ddechrau canlyn rhywun, sut gelli di ddangos dy ddiddordeb?f Gelli di drefnu i gael sgwrs gyda’r person dros y ffôn, neu mewn lle cyhoeddus. Esbonia dy fwriad yn glir. (1 Cor. 14:9) Os oes angen, rho amser i’r person arall feddwl cyn ymateb. (Diar. 15:28) Ac os nad ydy’r person eisiau dy ganlyn di, bydda’n siŵr o barchu ei deimladau.
13. Beth gelli di ei wneud os ydy rhywun yn dangos diddordeb ynot ti? (Colosiaid 4:6)
13 Beth os ydy rhywun yn dangos diddordeb ynot ti? Siŵr o fod, cymerodd ddewrder i’r person ddweud wrthot ti, felly bydda’n garedig ac yn barchus. (Darllen Colosiaid 4:6.) Os wyt ti angen ychydig o amser i feddwl am ganlyn, dyweda hynny. Ond, tria ymateb cyn gynted â phosib. (Diar. 13:12) Os does gen ti ddim diddordeb mewn canlyn, bydda’n siŵr i gyfleu hynny mewn ffordd garedig a chlir. Sylwa ar sut gwnaeth Hans, brawd o Awstria, ymateb pan wnaeth chwaer gyfleu ei diddordeb ynddo ef: “Gwnes i ymateb gyda thact ond yn glir. Gwnes i ymateb yn syth oherwydd doeddwn i ddim eisiau iddi hi gael gobaith gwag. Am yr un rheswm, roeddwn i’n ofalus am sut roeddwn i’n ei thrin hi ar ôl hynny.” Ar y llaw arall, os hoffet ti ganlyn y person hwnnw, trafoda dy deimladau a dy ddisgwyliadau ynglŷn â chanlyn. Efallai bydd dy ddisgwyliadau yn wahanol i’r person arall oherwydd dy ddiwylliant neu ffactorau eraill.
SUT GALL ERAILL GEFNOGI CRISTNOGION SENGL?
14. Sut gallwn ni gefnogi Cristnogion sengl sydd eisiau priodi yn yr hyn rydyn ni’n ei ddweud?
14 Sut gallwn ni gefnogi Cristnogion sengl sydd eisiau priodi? Un ffordd yw drwy fod yn ofalus gyda beth rydyn ni’n ei ddweud. (Eff. 4:29) Gallwn ni ofyn i ni’n hunain: ‘Ydw i’n tynnu coes rhywun sydd eisiau priodi? Pan ydw i’n gweld brawd sengl a chwaer sengl yn siarad, ydw i’n tybio bod ganddyn nhw ddiddordeb rhamantus yn ei gilydd?’ (1 Tim. 5:13) Dydy bod yn ddibriod ddim yn golygu bod ’na rywbeth o’i le gyda Christion sengl, a fydden ni byth eisiau gwneud i rywun deimlo felly. Dywedodd Hans, y soniwyd amdano ynghynt: “Mae rhai brodyr yn dweud, ‘Pam dwyt ti ddim wedi priodi? Dwyt ti ddim mor ifanc â hynny erbyn hyn.’ Gall sylwadau o’r fath wneud i Gristnogion sengl deimlo o dan fwy o bwysau i briodi, ac fel nad ydy eraill yn eu gwerthfawrogi nhw.” Cymaint yn well ydy chwilio am gyfleoedd i ganmol Cristnogion sengl!—1 Thes. 5:11.
15. (a) Yn ôl yr egwyddor yn Rhufeiniaid 15:2, beth dylen ni ei ystyried wrth helpu rhywun i ddod o hyd i gymar? (Gweler hefyd y llun.) (b) Pa wersi pwysig gwnest ti eu dysgu o’r fideo?
15 Beth os ydyn ni’n meddwl y byddai brawd a chwaer yn gwneud cwpl da? Mae’r Beibl yn dweud wrthon ni i ystyried teimladau pobl eraill. (Darllen Rhufeiniaid 15:2.) Dydy llawer o Gristnogion sengl ddim eisiau i bobl eraill drefnu iddyn nhw gyfarfod â rhywun, a dylen ni barchu eu teimladau. (2 Thes. 3:11) Efallai byddai eraill yn gwerthfawrogi help, ond dylen ni aros nes eu bod nhw’n gofyn.g (Diar. 3:27) Mae’n well gan rai gyfarfod pobl mewn ffordd llai ffurfiol. Mae Lydia, chwaer sengl o’r Almaen, yn dweud: “Mae’n bosib cynnwys y brawd a’r chwaer mewn grŵp mawr. Ar ôl creu’r cyfle i’r ddau gyfarfod, gadewch y gweddill yn eu dwylo nhw.”
Mae cymdeithasu mewn grwpiau mawr yn rhoi cyfle i Gristnogion sengl gyfarfod â’i gilydd (Gweler paragraff 15)
16. Beth dylai Cristnogion sengl ei gofio?
16 Gallwn ni i gyd—yn sengl neu’n briod—gael bywyd bodlon a hapus! (Salm 128:1) Felly, os hoffet ti briodi ond dwyt ti ddim wedi ffeindio cymar eto, dal ati i ganolbwyntio ar wasanaethu Jehofa. Dywedodd chwaer o Macao o’r enw Sin Yi: “Wrth feddwl am yr amser y gelli di ei fwynhau â dy gymar yn y Baradwys, mae’r cyfnod o fod yn sengl yn gymharol fyr. Trysora’r amser hwnnw, a gwna ddefnydd da ohono.” Ond beth os wyt ti wedi dechrau canlyn? Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n trafod sut gelli di lwyddo wrth ganlyn.
CÂN 137 Gwragedd Ffyddlon, Chwiorydd Cristnogol
a Er mwyn dy helpu di weld os wyt ti’n barod, gweler yr erthygl Saesneg “Dating—Part 1: Am I Ready to Date?” ar jw.org.
b ESBONIAD: Yn yr erthygl hon a’r un sy’n dilyn, mae “canlyn” yn cyfeirio at yr amser pan fydd dyn a dynes yn dod i adnabod ei gilydd yn well er mwyn penderfynu os hoffen nhw briodi. Wrth i ddyn a dynes ddangos yn glir bod ganddyn nhw ddiddordeb rhamantus yn ei gilydd, dyna pryd maen nhw’n dechrau canlyn. Mae’r adeg o ganlyn yn parhau nes eu bod nhw’n penderfynu priodi neu stopio canlyn.
c I gadw pethau’n syml, yn y paragraffau sy’n dilyn byddwn ni’n cyfeirio at y person arall fel brawd. Wrth gwrs, mae’r un egwyddorion yr un mor berthnasol i chwiorydd.
d Newidiwyd rhai enwau.
e Diarhebion 13:16, NWT: “Mae person call yn gweithredu ar sail gwybodaeth, ond mae’r ffŵl yn dangos ei ffolineb.”
f Mewn rhai diwylliannau, brawd sydd fel arfer yn gofyn i chwaer os byddai’n hoffi ei ganlyn. Ond, mae hefyd yn iawn i chwaer ddangos diddordeb mewn brawd. (Ruth 3:1-13) Am fwy o wybodaeth, gweler yr erthygl Saesneg “Young People Ask . . . How Can I Tell Him How I Feel?” o rifyn Hydref 22, 2004, o’r Deffrwch! Saesneg.
g Gweler y fideo Brwydro’n Llwyddiannus o Blaid y Ffydd—Cristnogion Sengl ar jw.org.