RHAN 2
Byddwch yn Ffyddlon i’ch Gilydd
“Yr hyn a gysylltodd Duw, peidied neb ei wahanu.”—Marc 10:9
Mae Jehofa yn disgwyl inni ‘garu teyrngarwch.’ (Micha 6:8) Mae hynny’n wir yn enwedig mewn priodas, oherwydd heb deyrngarwch, neu ffyddlondeb, ni allwch chi ymddiried yn eich gilydd. Hefyd, mae’n hanfodol ichi ymddiried yn eich gilydd er mwyn i gariad flodeuo.
Heddiw mae ffyddlondeb mewn priodas o dan fygythiad. Er mwyn amddiffyn eich priodas, mae’n rhaid ichi fod yn benderfynol o wneud dau beth.
1 RHOWCH FLAENORIAETH I’CH PRIODAS
MAE’R BEIBL YN DWEUD: Y dylen ni “fyw, nid fel rhai annoeth ond fel rhai doeth.” (Effesiaid 5:15, 16) Mae’n ddoeth i ystyried eich priodas fel un o’r pethau pwysicaf yn eich bywyd. Mae’n haeddu blaenoriaeth.
Mae Jehofa eisiau ichi roi sylw manwl i’ch cymar a ‘mwynhau bywyd’ gyda’ch gilydd. (Pregethwr 9:9) Mae Jehofa yn ei gwneud hi’n eglur na ddylech chi byth ddiystyru eich cymar. Yn hytrach, dylai’r ddau ohonoch edrych am ffyrdd o wneud eich gilydd yn hapus. (1 Corinthiaid 10:24) Gwnewch i’ch cymar deimlo ei fod yn bwysig, ac yn werthfawr.
BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?
Sicrhewch eich bod chi’n treulio amser gyda’ch gilydd yn rheolaidd, gan roi eich holl sylw i’ch cymar
Meddyliwch am “ni” yn lle “fi”
2 DIOGELWCH EICH CALON
MAE’R BEIBL YN DWEUD: ‘Mae pob un sy’n edrych mewn blys ar wraig, eisoes wedi cyflawni godineb â hi yn ei galon.’ (Mathew 5:28) Petai rhywun yn parhau i feddwl am bethau anfoesol, mewn ffordd mae’n bod yn anffyddlon i’w gymar.
Mae Jehofa yn dweud y dylech chi edrych ar ôl eich meddwl a’ch calon. (Diarhebion 4:23; Jeremeia 17:9) Er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid ichi warchod eich llygaid. (Mathew 5:29, 30) Dilynwch esiampl Job, a wnaeth gytundeb gyda’i lygaid i beidio byth ag edrych ar ddynes arall â chwant. (Job 31:1) Byddwch yn benderfynol i beidio byth ag edrych ar bornograffi, ac i osgoi meithrin teimladau rhamantus tuag at unrhyw un heblaw am eich cymar.
BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?
Gwnewch hi’n amlwg i eraill eich bod chi’n hollol ffyddlon i’ch cymar
Ystyriwch deimladau eich cymar, a dewch ag unrhyw berthynas sy’n gwneud iddo deimlo’n anesmwyth i ben ar unwaith