LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w24 Mai tt. 14-19
  • Gad i Dy Gariad Dy Gymell i Bregethu!

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Gad i Dy Gariad Dy Gymell i Bregethu!
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • RYDYN NI’N PREGETHU OHERWYDD EIN CARIAD AT Y NEWYDDION DA
  • RYDYN NI’N PREGETHU OHERWYDD CARIAD AT BOBL
  • RYDYN NI’N PREGETHU OHERWYDD CARIAD AT JEHOFA A’I ENW
  • BYDDWN NI’N DAL ATI I BREGETHU HYD Y DIWEDD
  • Beth Rydyn Ni’n Ei Wybod am Farnedigaethau Jehofa yn y Dyfodol
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Sut i Gael Mwy o Lawenydd yn y Weinidogaeth
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Bydda’n Ostyngedig Pan Nad Wyt Ti’n Deall Rhywbeth
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Efelycha Sêl Iesu yn y Gwaith Pregethu
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
w24 Mai tt. 14-19

ERTHYGL ASTUDIO 20

CÂN 67 “Pregetha’r Gair”

Gad i Dy Gariad Dy Gymell i Bregethu!

“Yn yr holl genhedloedd, mae’n rhaid i’r newyddion da gael eu pregethu’n gyntaf.”—MARC 13:10.

PWRPAS

Sut mae cariad yn ein cymell ni i wneud ein gorau i bregethu’n selog.

1. Beth gwnaethon ni ei ddysgu yn ystod cyfarfod blynyddol 2023?

YNG nghyfarfod blynyddol 2023,a cafodd newidiadau cyffrous eu cyhoeddi yn ein dealltwriaeth ac ynglŷn â’n gweinidogaeth. Er enghraifft, dysgon ni efallai bydd ’na gyfle i unigolion ochri gyda Jehofa hyd yn oed ar ôl dinistr Babilon Fawr. Hefyd, gwnaethon ni ddysgu ni fydd rhaid i gyhoeddwyr y Deyrnas roi adroddiad i mewn o fis Tachwedd 2023 ymlaen. Ydy’r newidiadau hyn yn golygu bod ein gweinidogaeth yn llai pwysig nag o’r blaen? Dim o gwbl!

2. Pam mae ein gweinidogaeth yn dod yn bwysicach bob diwrnod? (Marc 13:10)

2 Wrth i bob diwrnod fynd heibio, mae ein gweinidogaeth yn dod yn bwysicach byth. Pam? Oherwydd mae’r amser yn fyr. Ystyria beth ragfynegodd Iesu am y gwaith pregethu yn y dyddiau olaf. (Darllen Marc 13:10.) Yn ôl llyfr Mathew, dywedodd Iesu y bydd y newyddion da “yn cael eu pregethu drwy’r byd i gyd” cyn i’r “diwedd” ddod. (Math. 24:14) Mae’r ymadrodd hwnnw’n cyfeirio at ddiwedd byd drygionus Satan. Mae Jehofa wedi penodi “dydd” ac “awr” ar gyfer y pethau sydd ar fin digwydd. (Math. 24:36; 25:13; Act. 1:7) Wrth i bob dydd fynd heibio, rydyn ni’n un cam yn agosach i’r amser hwnnw. (Rhuf. 13:11) Yn y cyfamser, mae’n rhaid inni ddal ati i bregethu.

3. Beth sy’n ein cymell ni i bregethu?

3 Ar adegau, mae’n beth da inni ofyn cwestiwn pwysig i ni’n hunain: Pam rydyn ni’n pregethu’r newyddion da? Yn syml, mae cariad yn ein cymell ni i bregethu. Mae ein gwaith pregethu yn dangos ein cariad at y newyddion da, at bobl eraill, ac yn bennaf, at Jehofa a’i enw. Gad inni ystyried y rhain fesul un.

RYDYN NI’N PREGETHU OHERWYDD EIN CARIAD AT Y NEWYDDION DA

4. Sut rydyn ni’n ymateb wrth inni dderbyn newyddion da?

4 Wyt ti’n cofio sut roeddet ti’n teimlo wrth dderbyn newyddion da—efallai genedigaeth plentyn yn y teulu, neu dderbyn swydd roeddet ti’n wir yn ei angen? Siŵr o fod roeddet ti’n ysu i rannu’r newyddion hynny â dy deulu a dy ffrindiau. A wnest ti ymateb mewn ffordd debyg wrth dderbyn y newyddion gorau oll—y newyddion da am Deyrnas Dduw?

5. Sut roeddet ti’n teimlo pan wnest ti ddysgu’r gwir am y tro cyntaf? (Gweler hefyd y lluniau.)

5 Meddylia am sut roeddet ti’n teimlo ar ôl clywed y gwir yng Ngair Duw am y tro cyntaf. Dysgaist ti fod dy Dad nefol yn dy garu di, ei fod eisiau iti fod yn rhan o’i deulu, ei fod wedi addo dod â diwedd ar boen a dioddefaint, bod gen ti’r gobaith o weld dy anwyliaid yn cael eu hatgyfodi yn y byd newydd, a llawer mwy. (Marc 10:​29, 30; Ioan 5:​28, 29; Rhuf. 8:​38, 39; Dat. 21:​3, 4) Gwnaeth y gwirioneddau hynny gyffwrdd â dy galon. (Luc 24:32) Roeddet ti eisiau dweud wrth bawb amdanyn nhw wrth i dy gariad dyfu!—Cymhara Jeremeia 20:9.

Brawd yn astudio’r Beibl gyda dyn gan ddefnyddio’r llyfr “Mwynhewch Fywyd am Byth!” Collage: Mae’r dyn yn rhannu’r hyn mae’n ei ddysgu ag eraill. 1. Gyda chyd-weithiwr. 2. Gydag aelodau’r teulu. 3. Gyda ffrind.

Pan wnaethon ni ddysgu’r gwir, roedden ni eisiau rhannu’r newyddion da â phawb! (Gweler paragraff 5)


6. Beth rwyt ti’n ei ddysgu oddi wrth brofiad Ernest a Rose?

6 Ystyria esiampl brawd o’r enw Ernest.b Roedd ef tua 10 mlwydd oed pan wnaeth ei dad farw. Mae Ernest yn dweud: “O’n i’n gofyn: ‘Ydy dad wedi mynd i’r nefoedd? Neu ydy ef wedi marw am byth?’ O’n i’n teimlo’n genfigennus o weld plant eraill oedd â thad.” Roedd Ernest yn mynd yn aml i’r fynwent ac yn glinio o flaen bedd ei dad. Byddai’n gweddïo: “Plîs, Duw, dwi eisiau gwybod lle mae dad.” Tua 17 mlynedd ar ôl i’w dad farw, gwnaeth Ernest dderbyn gwahoddiad i ddechrau astudio’r Beibl. Roedd ef wrth ei fodd pan ddysgodd fod y meirw yn anymwybodol, fel eu bod nhw mewn cwsg dwfn, a bod y Beibl yn addo y bydd ’na atgyfodiad yn y dyfodol. (Preg. 9:​5, 10; Act. 24:15) O’r diwedd, roedd ef wedi dod o hyd i atebion i’r cwestiynau roedd wedi bod yn gofyn am gymaint o amser! Roedd Ernest wedi gwirioni’n llwyr oherwydd yr hyn roedd yn ei ddysgu o’r Beibl. Gwnaeth ei wraig Rose ymuno ag ef yn ei astudiaeth Feiblaidd, a dechrau meithrin yr un cariad tuag at neges y deyrnas. Ym 1978, cawson nhw eu bedyddio. Roedden nhw’n pregethu’n selog i deulu, i ffrindiau, ac i eraill am y gwirioneddau gwerthfawr roedden nhw wedi eu dysgu. O ganlyniad i hynny, mae Ernest a Rose wedi helpu dros 70 o unigolion i ddod i adnabod Jehofa a chael eu bedyddio.

7. Beth sy’n digwydd wrth i’r gwir wreiddio yn ein calonnau? (Luc 6:45)

7 Yn amlwg, wrth i’r gwir o’r Beibl wreiddio yn ein calonnau, allwn ni ddim cadw’n ddistaw. (Darllen Luc 6:45.) Rydyn ni’n teimlo’r un fath â disgyblion cynnar Iesu, pan ddywedon nhw: “Dydyn ni ddim yn gallu stopio siarad am y pethau rydyn ni wedi eu gweld a’u clywed.” (Act. 4:20) Rydyn ni’n caru’r gwir cymaint nes inni eisiau ei rannu â phawb.

RYDYN NI’N PREGETHU OHERWYDD CARIAD AT BOBL

8. Beth sy’n ein cymell ni i rannu’r newyddion da ag eraill? (Gweler y blwch “Caru Pobl—Gwneud Disgyblion.”) (Gweler hefyd y llun.)

8 Fel Jehofa ac Iesu, rydyn ni’n caru pobl. (Diar. 8:31; Ioan 3:16) Rydyn ni’n teimlo dros y rhai sydd “heb Dduw” a heb obaith. (Eff. 2:12) Mae fel petai bod problemau’r byd yn eu boddi nhw, ond gallwn ni roi siaced achub iddyn nhw—y newyddion da am Deyrnas Dduw. Mae ein cariad a’n tosturi at y rhai hyn yn ein cymell ni i wneud pob ymdrech i rannu’r newyddion da â nhw. Gall y neges werthfawr honno lenwi eu calonnau â gobaith, eu helpu nhw i ddod o hyd i’r bywyd gorau heddiw, a rhoi’r cyfle iddyn nhw fwynhau’r “bywyd go iawn”—bywyd am byth ym myd newydd Duw.—1 Tim. 6:19.

Chwaer mewn caffi yn defnyddio taflen i bregethu i fenyw.

Mae ein cariad a’n cydymdeimlad tuag at bobl yn ein cymell ni i wneud pob ymdrech i rannu’r newyddion da â nhw (Gweler paragraff 8)


Caru Pobl—Gwneud Disgyblion

Mae’r llyfryn newydd hwn yn cynnwys 12 rhinwedd mae’n rhaid inni eu meithrin er mwyn dangos cariad yn y weinidogaeth a gwneud disgyblion. Mae pob gwers yn y llyfryn yn ein helpu ni i ganolbwyntio, nid ar beth rydyn ni eisiau ei ddweud, ond ar beth sydd o ddiddordeb i bobl eraill, neu beth sy’n ei boeni nhw. Gofynna i ti dy hun: ‘Beth sydd ar eu meddyliau? Beth sydd ei angen arnyn nhw?’ Mae cyflwyniad y llyfryn yn ei ddweud bydd “cariad at Jehofa ac at bobl eraill . . . yn eich helpu chi i wneud disgyblion.”

9. Pa rybudd rydyn ni’n ei roi am y dyfodol, a pham? (Eseciel 33:​7, 8)

9 Mae cariad at bobl hefyd yn ein hysgogi ni i roi rhybudd bod diwedd y byd drygionus hwn ar fin dod. (Darllen Eseciel 33:​7, 8.) Rydyn ni’n teimlo trueni dros ein cymdogion a’n teulu sydd ddim yn gwasanaethu Jehofa. Mae bywyd bob dydd yn cymryd sylw llawer, sy’n eu gwneud nhw’n anymwybodol o beth sy’n dod—‘Trychineb mawr o’r fath sydd ddim wedi digwydd o ddechrau’r byd hyd nawr ac na fydd yn digwydd byth eto.’ (Math. 24:21) Rydyn ni’n dymuno iddyn nhw wybod beth fydd yn digwydd yn ystod yr adeg honno o farnu—pan fydd gau grefydd, ac yna’r holl system ddrygionus hon, yn cael ei chwalu yn ystod Armagedon. (Dat. 16:​14, 16; 17:​16, 17; 19:​11, 19, 20) Rydyn ni’n gweddïo y bydd cymaint â phosib yn ymateb i’r rhybudd hwn ac yn ymuno â ni yn addoliad pur. Ond beth am y rhai sydd ddim yn gwrando ar y rhybudd ar hyn o bryd, gan gynnwys aelodau o’n teulu?

10. Pam mae’n bwysig inni ddal ati i rybuddio pobl?

10 Fel gwnaeth yr erthygl flaenorol esbonio, efallai bydd Jehofa’n achub y rhai sy’n newid eu meddyliau wrth iddyn nhw weld Babilon Fawr yn cael ei dinistrio. Os felly, mae’n bwysicach byth inni ddal ati i’w rhybuddio nhw nawr. Ystyria hyn: Gall ein geiriau heddiw roi rhywbeth iddyn nhw ei gofio bryd hynny. (Cymhara Eseciel 33:33.) Efallai byddan nhw’n cofio beth ddywedon ni ac yn dod i addoli Jehofa cyn i amser rhedeg allan. Yn debyg i geidwad y carchar yn Philipi a newidiodd ei feddwl ar ôl i “ddaeargryn mawr” daro, efallai bydd y rhai sydd ddim yn ymateb heddiw yn newid eu meddyliau ar ôl i ddinistr Babilon Fawr ysgwyd y byd.—Act. 16:​25-34.

RYDYN NI’N PREGETHU OHERWYDD CARIAD AT JEHOFA A’I ENW

11. Sut rydyn ni’n rhoi clod, anrhydedd, a grym i Jehofa? (Datguddiad 4:11) (Gweler hefyd y lluniau.)

11 Ein prif reswm dros bregethu’r newyddion da yw ein cariad tuag at Jehofa Dduw a’i enw sanctaidd. O’n safbwynt ni, mae’r weinidogaeth yn gyfle inni foli Duw. (Darllen Datguddiad 4:11.) Rydyn ni’n cytuno bod Jehofa Dduw yn deilwng i dderbyn gogoniant, anrhydedd, a grym gan ei addolwyr ffyddlon. Rydyn ni’n anrhydeddu Jehofa drwy ddangos i eraill mai ef sydd wedi ein creu ni a rhoi bywyd inni. Rydyn ni’n rhoi ein grym i Jehofa wrth inni ddefnyddio ein hamser, ein hegni, a’n hadnoddau i wneud cymaint ag y gallwn ni i bregethu. (Math. 6:33; Luc 13:24; Col. 3:23) Yn syml, rydyn ni wrth ein boddau yn siarad am y Duw rydyn ni’n ei garu. Rydyn ni hefyd yn cael ein cymell i ddweud wrth eraill am ei enw a’r math o berson ydy ef. Pam?

Collage: Ffyrdd rydyn ni’n rhannu’r newyddion da ag eraill. 1. Yn Affrica, mae cwpl yn pregethu i fam a’i phlant tu allan i’w tŷ. 2. Chwaer yn tystiolaethu i fenyw wrth aros am y bws. 3. Brawd ar draeth yn ystod ei wyliau, yn siarad â dyn sy’n eistedd wrth ei ochr.

Rydyn ni’n rhoi ein grym i Jehofa pan ydyn ni’n defnyddio ein hamser, ein hegni, a’n hadnoddau i wneud ein gorau glas yn y weinidogaeth (Gweler paragraff 11)


12. Sut rydyn ni’n sancteiddio enw Duw yn ein gweinidogaeth?

12 Mae ein cariad at Jehofa yn ein cymell ni i sancteiddio ei enw. (Math. 6:9) Rydyn ni eisiau gwneud ein rhan i glirio enw Jehofa o gelwyddau Satan. (Gen. 3:​1-5; Job 2:4; Ioan 8:44) Yn ein gweinidogaeth, rydyn ni’n awyddus i siarad o blaid Duw a dweud y gwir amdano wrth bawb sy’n barod i wrando. Ein dymuniad yw i bawb deall mai cariad ydy prif rinwedd Duw, bod ei ffordd o reoli’n gyfiawn, a bydd ei Deyrnas yn cael gwared ar ddioddefaint a dod â heddwch a hapusrwydd i ddynolryw. (Salm 37:​10, 11, 29; 1 Ioan 4:8) Rydyn ni’n sancteiddio Jehofa drwy amddiffyn ei enw yn y weinidogaeth, ac rydyn ni’n cael yr hapusrwydd sy’n dod o wneud beth sy’n iawn fel ei Dystion. Sut felly?

13. Pam rydyn ni’n prowd o gael ein galw’n Dystion Jehofa? (Eseia 43:​10-12)

13 Mae Jehofa wedi ein dewis ni i fod yn “dystion” iddo. (Darllen Eseia 43:​10-12.) Rai blynyddoedd yn ôl, dywedodd llythyr gan y corff llywodraethol: “Yr anrhydedd mwyaf gallwn ni ei gael ydy cael ein galw’n Dystion Jehofa.”c Pam felly? Ystyria eglureb. Petaset ti yn y llys ac angen rhywun i fod yn dyst cymeriad iti, pwy fyddet ti’n ei ddewis? Rhywun sydd ag enw da y byddai pobl eraill yn ei drystio, ac sy’n dy adnabod di yn dda. Mae Jehofa yn dangos ei fod yn dy adnabod ac yn dy drystio i dystiolaethu mai ef ydy’r unig wir Dduw. Fel ei Dystion, mae’n fraint inni gymryd pob cyfle inni hysbysebu ei enw, a phrofi’r holl gelwyddau ofnadwy sy’n cael eu dweud amdano yn ffals. Drwy wneud hynny, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n prowd o ddwyn yr enw Tystion Jehofa!—Salm 83:18; Rhuf. 10:​13-15.

BYDDWN NI’N DAL ATI I BREGETHU HYD Y DIWEDD

14. Pa ddigwyddiadau cyffrous sydd o’n blaenau ni?

14 Mae digwyddiadau cyffrous o’n blaenau ni! Gyda bendith Jehofa, rydyn ni’n gobeithio gweld llawer mwy yn derbyn y gwir cyn i’r trychineb mawr ddechrau. Ar ben hynny, rydyn ni’n edrych ymlaen at y posibilrwydd o weld hyd yn oed mwy o bobl yn cefnu ar fyd Satan ac ymuno â ni wrth foli Jehofa ar ôl i’r trychineb mawr ddechrau!—Act. 13:48.

15-16. Beth byddwn ni’n dal ati i’w wneud, ac am faint?

15 Yn y cyfamser, mae gynnon ni waith pwysig iawn i’w wneud, gwaith ni fydd yn cael ei wneud byth eto—y fraint o bregethu’r newyddion da am Deyrnas Dduw drwy’r byd i gyd. Ar yr un pryd, mae’n rhaid inni ddal ati i rybuddio pobl bod y byd drygionus hwn ar fin dod i ben. Yna, pan ddaw’r amser i farnu, byddan nhw’n gwybod bod y neges rydyn ni wedi ei bregethu wedi dod oddi wrth Dduw.—Esec. 38:23.

16 Beth, felly, rydyn ni’n benderfynol o’i wneud? Gadael i gariad at y newyddion da, cariad at bobl, ac yn bennaf oll, cariad at Jehofa a’i enw, ein cymell ni i ddal ati i bregethu’n selog nes bod Jehofa’n dweud, “Dyna ddigon!”

SUT MAE’R PETHAU CANLYNOL YN EIN CYMELL NI I BREGETHU?

  • Cariad at y newyddion da

  • Cariad at bobl

  • Cariad at Jehofa a’i enw

CÂN 54 “Dyma’r Ffordd”

a Cafodd y cyfarfod blynyddol ei gynnal ar Hydref 7, 2023, yn Neuadd Cynulliad Tystion Jehofa yn Newburgh, Efrog Newydd, UDA. Yn nes ymlaen, cafodd y cyfarfod cyfan ei ryddhau ar raglenni JW Broadcasting®. Roedd rhan 1 ar gael ym mis Tachwedd 2023, a rhan 2 ym mis Ionawr 2024.

b Gweler yr erthygl “Mae’r Beibl yn Newid Bywydau—Gwnaeth Atebion Clir a Rhesymegol y Beibl Greu Argraff Arna I,” o rifyn Chwefror 1, 2015, o’r Tŵr Gwylio.

c Gweler y 2007 Yearbook of Jehovah’s Witnesses, t. 3.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu