LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w25 Mehefin tt. 14-19
  • Bydda’n Ostyngedig Pan Nad Wyt Ti’n Deall Rhywbeth

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Bydda’n Ostyngedig Pan Nad Wyt Ti’n Deall Rhywbeth
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • DYDYN NI DDIM YN GWYBOD PRYD BYDD Y DIWEDD YN DOD
  • DYDYN NI DDIM YN GWYBOD SUT YN UNION BYDD JEHOFA’N GWEITHREDU
  • DYDYN NI DDIM YN GWYBOD BETH FYDD YN DIGWYDD YFORY
  • MAE JEHOFA’N EIN HADNABOD NI MEWN FFORDD SYDD Y TU HWNT I NI
  • Penderfyniadau Sy’n Dangos Ein Bod Ni’n Dibynnu ar Jehofa
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
  • Cofia Mai Jehofa Yw’r “Duw Byw”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Beth Rydyn Ni’n Ei Wybod am Farnedigaethau Jehofa yn y Dyfodol
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Dysga o Eiriau Olaf Dynion Ffyddlon
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
w25 Mehefin tt. 14-19

ERTHYGL ASTUDIO 26

CÂN 123 Ymostwng yn Ffyddlon i’r Drefn Theocrataidd

Bydda’n Ostyngedig Pan Nad Wyt Ti’n Deall Rhywbeth

“Mae’r Un sy’n rheoli popeth y tu hwnt i’n cyrraedd ni!”—JOB 37:23.

PWRPAS

Sut gallwn ni ddelio ag ansicrwydd drwy gydnabod yr hyn nad ydyn ni’n ei wybod, drwy ganolbwyntio ar yr hyn rydyn ni’n ei wybod, a thrwy ymddiried yn Jehofa.

1. Beth gwnaeth Jehofa ein galluogi ni i’w wneud, a pham?

GWNAETH Jehofa ein creu ni gyda’r gallu i feddwl, i ddysgu pethau newydd, i ddatblygu dealltwriaeth, ac i fod yn ddoeth. Pam? Oherwydd ei fod eisiau inni ‘ddod i wybod am Dduw’ a’i wasanaethu ef gan ddefnyddio ein gallu i feddwl.—Diar. 2:​1-5; Rhuf. 12:1.

2. (a) Pa gyfyngiadau sydd gynnon ni? (Job 37:​23, 24) (Gweler hefyd y llun.) (b) Pam mae’n beth da inni dderbyn ein cyfyngiadau?

2 Er bod gynnon ni’r gallu i ddysgu, mae ’na gyfyngiadau i’r hyn rydyn ni’n ei wybod. (Darllen Job 37:​23, 24.) Ystyria esiampl Job. Gofynnodd Jehofa gyfres o gwestiynau iddo a wnaeth ddangos faint nad oedd Job yn ei wybod. Gwnaeth y profiad hwnnw helpu Job i sylweddoli’r angen i fod yn ostyngedig ac i newid ei ffordd o feddwl. (Job 42:​3-6) Hefyd, mae’n dda inni gydnabod yn ostyngedig nad ydyn ni’n gwybod popeth. Mae bod yn ostyngedig yn ein helpu ni i drystio y bydd Jehofa’n wastad yn datgelu beth sydd ei angen arnon ni er mwyn gwneud penderfyniadau doeth.—Diar. 2:6.

Pelydrau goleuni yn disgleirio trwy’r cymylau i gyfeiriad Job wrth i Jehofa siarad ag ef. Mae Elihu a’r tri ffrind gwael yn gwylio yn y cefndir.

Mae’n beth da inni gydnabod, fel gwnaeth Job, nad ydyn ni’n gwybod popeth (Gweler paragraff 2)


3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod rhai pethau nad ydyn ni’n eu gwybod a’r heriau gallwn ni eu hwynebu o ganlyniad. Byddwn ni hefyd yn edrych ar pam mae’n beth da nad ydyn ni’n gwybod rhai pethau. Bydd trafod y pethau hyn yn cryfhau ein hyder bydd Jehofa’n rhoi inni’r wybodaeth sydd ei angen arnon ni oherwydd ei fod yn “deall popeth yn berffaith.”—Job 37:16.

DYDYN NI DDIM YN GWYBOD PRYD BYDD Y DIWEDD YN DOD

4. Yn ôl Mathew 24:​36, pa ffaith nad ydyn ni’n ei wybod?

4 Darllen Mathew 24:36. Dydyn ni ddim yn gwybod pryd bydd diwedd y system hon yn dod. Tra oedd ar y ddaear, doedd hyd yn oed Iesu ddim yn gwybod y ‘dydd hwnnw na’r awr honno.’a Yn nes ymlaen fe ddywedodd wrth ei apostolion mai Jehofa yw’r unig un “sydd â’r awdurdod i benderfynu” pryd bydd rhai pethau’n digwydd. (Act. 1:​6, 7) Mae Jehofa wedi penodi’r amser ar gyfer diwedd y system hon, ond, dydyn ni ddim yn gallu darganfod pryd yn union bydd hynny’n digwydd.

5. Sut gallwn ni gael ein heffeithio gan beidio â gwybod pryd bydd y diwedd yn dod?

5 Dydyn ni ddim yn gwybod am faint bydd yn rhaid inni aros cyn i’r diwedd ddod. O ganlyniad, gallwn ni golli amynedd neu ddigalonni, yn enwedig os ydyn ni wedi bod yn aros am ddydd Jehofa am amser maith. Neu gallai fod yn anodd inni ddyfalbarhau pan mae eraill, gan gynnwys ein teulu, yn gwneud hwyl am ein pen. (2 Pedr 3:​3, 4) Mae’n bosib inni deimlo byddai’n haws inni fod yn amyneddgar ac i ddyfalbarhau petasen ni’n gwybod pryd yn union bydd y diwedd yn dod.

6. Pam mae’n beth da nad ydyn ni’n gwybod pryd bydd y diwedd yn dod?

6 Mewn gwirionedd, drwy beidio â datgelu inni ddyddiad y diwedd, mae Jehofa’n rhoi inni’r cyfle i ddangos ein bod ni’n ei wasanaethu oherwydd ein bod ni’n ei garu a’i drystio. Does ’na ddim llinell derfyn ar ein gwasanaeth i Jehofa, rydyn ni eisiau ei wasanaethu am byth. Yn lle canolbwyntio ar ba bryd bydd “dydd Jehofa” yn dod, byddai’n dda inni ganolbwyntio ar beth bydd y dydd hwnnw’n ei gyflawni. Drwy wneud hyn, byddwn ni’n dyfnhau ein defosiwn duwiol ac yn gwneud popeth yn ein gallu i blesio Jehofa.—2 Pedr 3:​11, 12.

7. Beth rydyn ni’n ei wybod?

7 Mae’n dda inni ganolbwyntio ar yr hyn rydyn ni’n ei wybod, sef bod y dyddiau olaf wedi dechrau ym 1914. Mae Jehofa wedi rhoi proffwydoliaethau yn y Beibl sy’n profi hynny ac sy’n disgrifio yn fanwl gyflwr y byd ers yr adeg honno. O ganlyniad, rydyn ni’n hollol sicr bod “dydd barn yr ARGLWYDD yn agos.” (Seff. 1:14) Rydyn ni hefyd yn gwybod am y gwaith mae Jehofa eisiau inni ei wneud, sef i ddweud wrth gymaint o bobl â phosib am ‘newyddion da’r Deyrnas.’ (Math. 24:14) Mae’r neges hon yn cael ei chyhoeddi mewn tua 240 o wledydd ac mewn mwy na 1,000 o ieithoedd. Does dim rhaid inni wybod y ‘dydd hwnnw na’r awr honno’ er mwyn cael rhan selog yn y gwaith pwysig hwn.

DYDYN NI DDIM YN GWYBOD SUT YN UNION BYDD JEHOFA’N GWEITHREDU

8. Beth mae’r ymadrodd “beth fydd Duw’n ei wneud” yn ei olygu? (Pregethwr 11:5)

8 Dydyn ni ddim yn wastad yn gwybod “beth fydd Duw’n ei wneud.” (Darllen Pregethwr 11:5.) Mae’r ymadrodd hwnnw’n cyfeirio at beth mae Jehofa’n achosi i ddigwydd neu beth mae’n caniatáu i ddigwydd er mwyn cyflawni ei ewyllys. Ni allwn ni fod yn sicr pam byddai Jehofa’n caniatáu i rywbeth ddigwydd neu sut yn union bydd yn gweithredu ar ein rhan. (Salm 37:5) Mae gwybodaeth o’r fath y tu hwnt i’n deall, yn union fel nad ydy gwyddonwyr eto’n deall yn llwyr sut mae plentyn yn datblygu yng nghroth ei fam.

9. Gan nad ydyn ni’n gwybod sut bydd Jehofa’n gweithredu, pa heriau gallwn ni eu hwynebu?

9 Gall peidio â gwybod sut bydd Jehofa’n gweithredu ar ein rhan achosi inni oedi rhag gwneud rhai penderfyniadau. Efallai byddwn ni’n dal yn ôl rhag gwneud aberthau i ehangu ein gweinidogaeth, fel symleiddio ein bywyd neu symud i ardal lle mae ’na fwy o angen am gyhoeddwyr y Deyrnas. Neu gallen ni gwestiynu a oes gynnon ni gymeradwyaeth Duw os nad ydyn ni’n cyrraedd ein hamcanion theocrataidd, yn gweld canlyniadau da yn y weinidogaeth, neu’n wynebu heriau ar brosiect theocrataidd.

10. Pa rinweddau angenrheidiol gallwn ni eu datblygu drwy beidio â gwybod sut bydd Jehofa’n gweithredu?

10 Mae peidio â gwybod sut bydd Jehofa’n gweithredu yn ein helpu ni i ddatblygu rhinweddau angenrheidiol fel gostyngeiddrwydd a gwyleidd-dra. Rydyn ni’n dod i sylweddoli bod meddyliau Jehofa’n uwch na’n meddyliau ni. (Esei. 55:​8, 9) Rydyn ni hefyd yn dysgu i ddibynnu ar Jehofa’n llwyr, ac i ddibynnu arno am lwyddiant. Pan ydyn ni’n gweld canlyniadau da yn y weinidogaeth neu ar brosiect theocrataidd, rydyn ni’n rhoi’r clod i Jehofa. (Salm 127:1; 1 Cor. 3:7) Hyd yn oed os nad ydy pethau’n mynd fel roedden ni’n disgwyl, mae’n rhaid inni gofio bod popeth o dan reolaeth Jehofa. (Esei. 26:12) Rydyn ni’n gwneud ein rhan ni, ac rydyn ni’n parhau i drystio bydd Jehofa’n gwneud ei ran ef. Rydyn ni’n hyderus ei fod yn mynd i roi’r arweiniad sydd ei angen arnon ni, hyd yn oed os na fydd yr arweiniad yn dod drwy wyrth fel y gwnaeth weithiau yn y gorffennol.—Act. 16:​6-10.

11. Pa bethau pwysig rydyn ni’n eu gwybod?

11 Cofia’r ffeithiau hyn: Rydyn ni’n gwybod bod Jehofa’n wastad yn gariadus, yn gyfiawn, ac yn ddoeth. Rydyn ni’n gwybod ei fod yn wir yn gwerthfawrogi beth rydyn ni’n ei wneud ar ei gyfer ef ac ar gyfer ein cyd-addolwyr. Hefyd, rydyn ni’n gwybod bod Jehofa’n wastad yn gwobrwyo’r rhai sy’n ffyddlon iddo.—Heb. 11:6.

DYDYN NI DDIM YN GWYBOD BETH FYDD YN DIGWYDD YFORY

12. Yn ôl Iago 4:​13, 14, beth nad ydyn ni’n ei wybod?

12 Darllen Iago 4:​13, 14. Dydyn ni ddim yn gwybod sut bydd ein bywyd yfory. Yn y system hon, “mae damweiniau’n gallu digwydd i bawb.” (Preg. 9:11) O ganlyniad, ni allwn ni wybod a fydd ein cynlluniau’n llwyddo neu hyd yn oed a fyddwn ni’n byw i’w gweld nhw’n cael eu cyflawni.

13. Sut gall ansicrwydd am y dyfodol effeithio arnon ni?

13 Gall fod yn anodd delio ag ansicrwydd yn ein bywydau. Pam felly? Efallai byddwn ni’n poeni am beth allai ddigwydd, a gall hynny ddwyn ein llawenydd. Gall trasiedi a digwyddiadau annisgwyl achosi inni alaru neu wneud inni deimlo’n rhwystredig. Hefyd, gallwn ni ddigalonni neu gael ein siomi pan nad ydy pethau’n digwydd yn y ffordd roedden ni’n ei disgwyl.—Diar. 13:12.

14. Ar beth mae gwir hapusrwydd yn dibynnu? (Gweler hefyd y lluniau.)

14 Ni waeth beth sy’n digwydd yn ein bywyd, gallwn ni brofi mai cariad, nid rhesymau hunanol, sy’n ein cymell ni i wasanaethu Jehofa. Mae hanesion o’r Beibl yn dangos na ddylwn ni ddisgwyl i Jehofa ein hamddiffyn ni rhag pob problem. Hefyd, dydy ef ddim yn penderfynu o flaen llaw beth fydd yn digwydd yn ein bywyd. Mae’n gwybod nad ydy ein hapusrwydd yn dibynnu ar wybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Yn hytrach, mae’n dibynnu ar ofyn am ei arweiniad ac ar ufuddhau iddo. (Jer. 10:23) Drwy droi ato wrth wneud penderfyniadau, rydyn ni’n dweud, fel petai: “Os ydy Jehofa’n dymuno, gwnawn ni fyw a gwneud hyn a’r llall.”—Iago 4:15.

Collage: 1. Tad a’i fab yn paratoi bag argyfwng. Maen nhw’n rhoi Beibl yn y bag a nwyddau ar gyfer argyfwng. 2. Mae’r tad, y fam, a’r mab yn llochesu mewn pabell wrth i’r glaw fwrw tu allan. Maen nhw’n defnyddio pethau o’u bag argyfwng.

Bydd gofyn am arweiniad gan Jehofa ac ufuddhau iddo yn ein hamddiffyn (Gweler paragraffau 14-15)b


15. Beth rydyn ni’n ei wybod am y dyfodol?

15 Er nad ydyn ni’n gwybod beth fydd yn digwydd yfory, rydyn ni’n gwybod bod Jehofa wedi addo rhoi bywyd tragwyddol inni—naill ai yn y nef neu ar y ddaear. Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n amhosib iddo ddweud celwydd a does ’na ddim byd sy’n gallu ei ddal yn ôl rhag cyflawni ei holl addewidion. (Titus 1:2) Ef ydy’r unig un sy’n gallu ‘dweud o’r dechrau beth fydd yn digwydd ar y diwedd, a dangos ymlaen llaw bethau sydd heb ddigwydd eto.’ Roedd hynny’n wir am ddigwyddiadau yn y gorffennol, a bydd hynny’n wir am ddigwyddiadau yn y dyfodol hefyd. (Esei. 46:10) Rydyn ni’n hollol sicr na all unrhyw beth stopio Jehofa rhag ein caru ni. (Rhuf. 8:​35-39) Bydd ef yn rhoi’r doethineb, y cysur, a’r nerth sydd eu hangen arnon ni i ddyfalbarhau popeth rydyn ni’n ei wynebu. Gallwn ni fod yn siŵr bydd Jehofa’n ein helpu ni a’n bendithio ni.—Jer. 17:​7, 8.

MAE JEHOFA’N EIN HADNABOD NI MEWN FFORDD SYDD Y TU HWNT I NI

16. Yn ôl Salm 139:​1-6, beth mae Jehofa’n ei wybod na allwn ni ei ddeall yn llwyr?

16 Darllen Salm 139:​1-6. Mae ein Creawdwr yn gwybod sut rydyn ni wedi cael ein ffurfio a beth sydd wedi ein siapio ni’n gorfforol, yn emosiynol, ac yn feddyliol. Mae ei ddiddordeb ynon ni yn ddi-ddiwedd. Mae’n gwybod am bopeth rydyn ni’n ei ddweud ac yn ceisio ei ddweud, am bopeth rydyn ni’n ei wneud a’n cymhellion. Dywedodd y Brenin Dafydd fod gofal Jehofa’n ein hamgylchynu ni a dydyn ni byth y tu hwnt i’w gyrraedd. Onid yw’n syfrdanol bod Sofran y bydysawd, Creawdwr hollalluog y nefoedd a’r ddaear, yn talu sylw manwl inni! Yng ngeiriau Dafydd: “Ti’n gwybod popeth amdana i! Mae tu hwnt i mi—mae’n ddirgelwch llwyr, mae’n ormod i mi ei ddeall.”—Salm 139:6.

17. Pam gallai fod yn anodd inni ddeall pa mor dda mae Jehofa’n ein hadnabod ni?

17 Efallai oherwydd ein cefndir teuluol, ein diwylliant, neu ein hen ddaliadau, gallwn ni ei chael hi’n anodd ystyried Jehofa yn Dad cariadus sydd â diddordeb ynon ni. Neu efallai byddwn ni’n teimlo bod ein camgymeriadau mor ddrwg na fydd Jehofa byth eisiau ein hadnabod ni a’i fod yn bell i ffwrdd ohonon ni. Gwnaeth hyd yn oed Dafydd deimlo fel hynny ar adegau. (Salm 38:​18, 21) Neu efallai bydd person sy’n gweithio’n galed i newid ei ffordd o fyw a byw yn ôl safonau cyfiawn Duw yn gofyn, ‘Os ydy Duw’n wir yn fy neall i, pam byddai’n disgwyl imi wrthod ffordd o fyw sy’n teimlo mor naturiol imi?’

18. Pam mae’n bwysig inni ddeall bod Jehofa’n ein hadnabod ni’n well nag ydyn ni’n ein hadnabod ein hunain? (Gweler hefyd y lluniau.)

18 Gallwn ni ddod i ddeall bod Jehofa’n ein hadnabod ni’n well nag ydyn ni’n ein hadnabod ni’n hunain ac mae’n gallu gweld y da ynon ni na allwn ni ei weld. Ond, er ei fod yn gweld ein hamherffeithion ac yn deall pam rydyn ni’n teimlo ac yn gweithredu fel rydyn ni, mae’n ein caru ni. (Rhuf. 7:15) Pan ydyn ni’n sylweddoli bod Jehofa’n gweld ein potensial, byddwn ni’n fwy hyderus i’w wasanaethu’n ffyddlon ac i wneud hynny’n llawen.

Collage: 1. Brawd sy’n teimlo’n isel yn syllu allan o ffenest ar ddiwrnod tywyll a glawiog. 2. Yn y Baradwys, mae’r brawd yn cerdded gyda’i ffrindiau ac yn mwynhau’r golygfeydd prydferth.

Mae Jehofa’n ein helpu ni i wynebu ansicrwydd yn y system hon drwy gryfhau ein hyder yn ei addewidion ar gyfer dyfodol hyfryd yn y byd newydd (Gweler paragraffau 18-19)c


19. Pa sicrwydd sydd gynnon ni am Jehofa?

19 Rydyn ni’n gwybod mai cariad ydy Duw. Does ’na ddim rheswm inni amau hynny. (1 Ioan 4:8) Rydyn ni’n gwybod bod ei safonau cyfiawn yn adlewyrchu ei gariad tuag aton ni a’i fod eisiau inni gael y bywyd gorau posib. Rydyn ni’n gwybod bod Jehofa eisiau inni fyw am byth. Fe roddodd ei Fab i dalu’r pris er mwyn gwneud hynny’n bosib. Mae’r rhodd honno’n rhoi’r sicrwydd inni ein bod ni’n gallu llwyddo er gwaethaf ein hamherffeithion. (Rhuf. 7:​24, 25) Rydyn ni’n gwybod “bod Duw yn fwy na’n calonnau ac mae’n gwybod pob peth.” (1 Ioan 3:​19, 20) Mae Jehofa’n gwybod popeth amdanon ni, ac mae’n hyderus ein bod ni’n gallu llwyddo i wneud ei ewyllys.

20. Beth fydd yn ein helpu ni i osgoi pryder di-angen?

20 Dydy Jehofa ddim wedi dal yn ôl unrhyw wybodaeth sydd ei hangen arnon ni. Drwy dderbyn y ffaith honno’n ostyngedig, fyddwn ni ddim yn pryderu’n ddi-angen am bethau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth a gallwn ni ganolbwyntio ar beth sy’n wir yn bwysig. Drwy wneud hyn, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n trystio Jehofa’n llwyr, yr un sy’n “deall y cwbl.” (Job 36:4) Er nad ydyn ni’n deall popeth nawr, rydyn ni’n edrych ymlaen at ddysgu oddi wrth Dduw a dysgu amdano ef am byth.—Preg. 3:11.

SUT BYDDET TI’N ATEB?

  • Pam mae’n beth da nad ydyn ni’n gwybod pryd bydd y diwedd yn dod?

  • Pam nad oes yn rhaid inni wybod y dyfodol er mwyn bod yn hapus?

  • Sut rydyn ni’n elwa o ddeall pa mor dda mae Jehofa’n ein hadnabod ni?

CÂN 104 Anrheg Oddi Wrth Dduw—Yr Ysbryd Glân

a Bydd Iesu’n cymryd y blaen yn y rhyfel yn erbyn byd drygionus Satan, felly mae’n rhesymol i ddod i’r casgliad ei fod nawr yn gwybod y dyddiad ar gyfer Armagedon a phryd y bydd ef yn ‘cwblhau ei goncwest.’—Dat. 6:2; 19:​11-16.

b DISGRIFIAD O’R LLUN: Tad a’i fab yn paratoi bag argyfwng fel bod y teulu yn barod ar gyfer trychineb.

c DISGRIFIAD O’R LLUN: Brawd sy’n wynebu problemau yn edrych ymlaen at lawenydd y byd newydd.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu