ERTHYGL ASTUDIO 28
CÂN 123 Ymostwng yn Ffyddlon i’r Drefn Theocrataidd
A Elli Di Weld y Gwir Ymysg y Celwyddau?
“Safwch yn gadarn . . . â belt y gwir wedi ei glymu yn dynn am eich canol.”—EFF. 6:14.
PWRPAS
Hyfforddi ein hunain i wybod y gwahaniaeth rhwng y gwir rydyn ni wedi ei ddysgu gan Jehofa a’r celwyddau sy’n cael eu hybu gan Satan a’n gelynion.
1. Sut rwyt ti’n teimlo am y gwir?
MAE pobl Jehofa yn caru’r gwir sydd yn ei Air ac rydyn ni wedi adeiladu ein ffydd arno. (Rhuf. 10:17) Rydyn ni wedi dod i gredu bod Jehofa wedi sefydlu’r gynulleidfa Gristnogol fel “colofn a sylfaen y gwir.” (1 Tim. 3:15) Ac rydyn ni’n hapus i fod yn ufudd i’r rhai sy’n ein harwain ni wrth iddyn nhw esbonio’r Beibl a rhoi arweiniad sy’n unol ag ewyllys Duw.—Heb. 13:17.
2. Yn ôl Iago 5:19, pa beryg byddwn ni’n ei wynebu ar ôl dysgu’r gwir?
2 Er hynny, ar ôl inni dderbyn y gwir a chydnabod bod rhaid inni ddilyn arweiniad cyfundrefn Jehofa, byddwn ni’n dal yn gallu cael ein camarwain. (Darllen Iago 5:19.) Bydd Satan yn hoffi inni golli hyder yn y Beibl neu yn yr arweiniad sy’n cael ei gynnig gan gyfundrefn Duw.—Eff. 4:14.
3. Pam mae’n rhaid inni ddal ein gafael yn y gwir? (Effesiaid 6:13, 14)
3 Darllen Effesiaid 6:13, 14. Yn fuan, bydd y Diafol yn defnyddio propaganda pwerus i berswadio cenhedloedd cyfan i wrthwynebu Jehofa. (Dat. 16:13, 14) Gallwn ni hefyd ddisgwyl i Satan weithio’n galetach i gamarwain pobl Jehofa. (Dat. 12:9) Felly, mae mor bwysig inni hyfforddi ein hunain i weld y gwahaniaeth rhwng y gwir a chelwyddau, ac i fod yn ufudd i’r gwir. (Rhuf. 6:17; 1 Pedr 1:22) Bydd hyn yn angenrheidiol er mwyn inni oroesi’r trychineb mawr!
4. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
4 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod dwy rinwedd a all ein helpu ni i weld bod beth mae’r Beibl yn ei ddweud yn wir ac i ddilyn arweiniad cyfundrefn Jehofa. Wedyn, byddwn ni’n trafod tri phwynt mae’n rhaid inni eu rhoi ar waith er mwyn dal yn dynn yn y gwir.
RHINWEDDAU SY’N EIN HELPU NI I WELD Y GWIR
5. Sut mae ofn Duw yn ein helpu ni i weld y gwir?
5 Ofn Jehofa. Os oes gynnon ni ofn priodol o Dduw, bydd ein cariad dwfn yn ein cymell ni i drio ein gorau glas i beidio byth â’i siomi. Byddwn ni’n awyddus i ddysgu’r gwahaniaeth rhwng da a drwg, rhwng y gwir a’r celwydd, er mwyn inni blesio Jehofa. (Diar. 2:3-6; Heb. 5:14) Yn aml, dydy’r hyn sy’n plesio pobl ddim yn plesio Jehofa. Felly, ddylen ni byth gadael i ofn dyn fod yn gryfach na’n cariad tuag at Jehofa.
6. Sut gwnaeth ofn dyn achosi i ddeg o ysbïwyr Israel gamliwio’r gwir?
6 Petasen ni’n ofni dynion yn fwy nag ydyn ni’n ofni Duw, gallen ni gael ein camarwain i ffwrdd o’r gwir. Ystyria esiampl yr ysbïwyr a aeth i’r wlad roedd Jehofa wedi ei addo i’r Israeliaid. Roedd deg ohonyn nhw’n ofni’r Canaaneaid yn fwy nag oedden nhw’n caru Jehofa. Dywedon nhw wrth yr Israeliaid: “Allwn ni ddim ymosod ar y bobl yno. Maen nhw’n llawer rhy gryf i ni!” (Num. 13:27-31) O safbwynt dynol, roedd y Canaaneaid yn gryfach na’r Israeliaid. Ond drwy ddweud nad oedden nhw’n gallu concro eu gelynion, dangoson nhw eu bod nhw wedi gadael Jehofa allan o’r pictiwr. Dylai’r deg ysbïwr fod wedi meddwl am beth roedd Jehofa newydd ei wneud ar ran yr Israeliaid ac ar beth roedd wedi dweud wrthyn nhw i’w wneud. Wedyn, bydden nhw wedi sylweddoli nad oedd cryfder y Canaaneaid yn unrhyw beth i’w gymharu â chryfder aruthrol Jehofa. Yn wahanol i’r ysbïwyr heb ffydd, roedd Josua a Caleb eisiau plesio Jehofa. Dywedon nhw wrth y bobl: “Os ydy’r ARGLWYDD yn hapus gyda ni, bydd yn mynd â ni yno ac yn rhoi’r wlad i ni.”—Num. 14:6-9.
7. Sut gallwn ni gryfhau ein hofn duwiol? (Gweler hefyd y llun.)
7 Er mwyn ofni Jehofa’n fwy, mae’n rhaid inni ganolbwyntio ar wneud penderfyniadau sy’n ei blesio bob dydd. (Salm 16:8) Wrth iti ddarllen y Beibl, gofynna i ti dy hun: ‘Petaswn i wedi bod yn yr un sefyllfa, pa benderfyniad byddwn i wedi ei wneud?’ Er enghraifft, dychmyga dy hun yn gwrando ar eiriau negyddol y deg ysbïwr. A fyddet ti wedi eu credu nhw a dechrau ofni? Neu, a fyddai dy gariad tuag at Jehofa a dy awydd i’w blesio wedi bod yn gryfach na dy ofn? Gwnaeth cenhedlaeth gyfan o Israeliaid fethu’n lân â gweld y gwir yng ngeiriau Josua a Caleb, ac o ganlyniad, collon nhw’r cyfle i fynd i mewn i Wlad yr Addewid.—Num. 14:10, 22, 23.
Pwy fyddet ti wedi ei gredu? (Gweler paragraff 7)
8. Pa rinwedd mae’n rhaid inni weithio’n galed i’w meithrin, a pham?
8 Gostyngeiddrwydd. Mae Jehofa yn datgelu’r gwir i’r rhai gostyngedig. (Math. 11:25) Gwnaethon ni dderbyn help yn ostyngedig er mwyn dysgu’r gwir. (Act. 8:30, 31) Ond, mae’n rhaid inni fod yn ofalus i beidio â throi’n falch. Gall balchder achosi inni ystyried ein barn bersonol yr un mor ddoeth ag egwyddorion Ysgrythurol ac arweiniad cyfundrefn Jehofa.
9. Sut gallwn ni aros yn ostyngedig?
9 Er mwyn aros yn ostyngedig, mae’n rhaid inni gofio pa mor fach ydyn ni o’i gymharu â Jehofa. (Salm 8:3, 4) Gallwn ni hefyd weddïo am ei help i fod yn ostyngedig ac yn barod i ddysgu. Mae Jehofa’n defnyddio ei Air a’i gyfundrefn i ddysgu ei feddyliau inni, ac i’w hystyried nhw’n uwch na’n meddyliau ni. Wrth iti ddarllen y Beibl, sylwa ar sut mae Jehofa’n caru gostyngeiddrwydd ac yn casáu balchder a gorhyder. A bydda’n ofalus i aros yn ostyngedig os wyt ti’n derbyn braint sydd yn rhoi rhywfaint o awdurdod iti.
SUT I LYNU WRTH Y GWIR
10. Pwy mae Jehofa wedi ei ddefnyddio i roi arweiniad i’w bobl?
10 Dal ati i drystio arweiniad cyfundrefn Jehofa. Yn Israel gynt, gwnaeth Jehofa ddefnyddio Moses ac yna Josua i roi cyfarwyddiadau i’w bobl. (Jos. 1:16, 17) Cafodd yr Israeliaid eu bendithio pan oedden nhw’n ystyried y dynion hyn yn gynrychiolwyr Jehofa Dduw. Canrifoedd wedyn, pan gafodd y gynulleidfa Gristnogol ei ffurfio, y 12 apostol a oedd yn cymryd y blaen. (Act. 8:14, 15) Yn hwyrach ymlaen, tyfodd y grŵp i gynnwys henuriaid eraill yn Jerwsalem. O ganlyniad i ddilyn arweiniad y dynion ffyddlon hynny, “roedd y cynulleidfaoedd yn parhau i ddod yn gadarn yn y ffydd ac i gynyddu mewn rhif o ddydd i ddydd.” (Act. 16:4, 5) Heddiw, rydyn ni hefyd yn cael ein bendithio pan ydyn ni’n dilyn arweiniad theocrataidd cyfundrefn Jehofa. Ond sut byddai Jehofa’n teimlo petasen ni’n gwrthod gwrando ar y rhai mae wedi eu penodi? Gad inni ystyried beth ddigwyddodd pan oedd yr Israeliaid ar eu ffordd i Wlad yr Addewid.
11. Beth ddigwyddodd i’r rhai yn Israel gynt a oedd yn herio’r un roedd Duw wedi ei ddewis i arwain y bobl? (Gweler hefyd y llun.)
11 Yn ystod taith yr Israeliaid i Wlad yr Addewid, gwnaeth rhai dynion pwysig herio Moses a’r rôl roedd Jehofa wedi ei roi iddo. Dywedon nhw: “Mae’r bobl i gyd [nid Moses yn unig] wedi eu cysegru—pob un ohonyn nhw! Ac mae’r ARGLWYDD gyda nhw.” (Num. 16:1-3) Er bod y “bobl i gyd” wedi eu cysegru yng ngolwg Duw, roedd Jehofa wedi dewis Moses i arwain y bobl. (Num. 16:28) Drwy ladd ar Moses, mewn gwirionedd roedd y rebeliaid yn amharchu Jehofa. Canolbwyntion nhw, nid ar fwriad Jehofa, ond ar geisio mwy o bŵer ac awdurdod iddyn nhw eu hunain. Cafodd arweinwyr y rebeliaid, yn ogystal â miloedd eraill a oedd yn cytuno â nhw, eu lladd gan Dduw. (Num. 16:30-35, 41, 49) Mae’n glir bod Jehofa’n teimlo’r un fath heddiw am y rhai sydd ddim yn parchu arweiniad ei gyfundrefn.
Pwy fyddet ti wedi ei gefnogi? (Gweler paragraff 11)
12. Pam gallwn ni roi ein hyder yng nghyfundrefn Jehofa?
12 Gallwn ni gadw ein hyder yng nghyfundrefn Jehofa. Pan mae’n glir bod rhaid inni newid ein dealltwriaeth o’r Beibl neu’r ffordd rydyn ni’n gwasanaethu Jehofa, mae’r rhai sy’n cymryd y blaen yn gwneud y newidiadau heb oedi. (Diar. 4:18) Maen nhw’n gwneud hyn oherwydd eu bod nhw eisiau plesio Jehofa yn fwy na dim. Maen nhw’n gwneud penderfyniadau ar sail Gair Duw, y safon y mae’n rhaid i bobl Jehofa ei dilyn.
13. Beth yw’r “safon o eiriau buddiol,” a beth mae’n rhaid inni ei wneud?
13 “Parha i lynu wrth y safon o eiriau buddiol.” (2 Tim. 1:13) Mae’r “safon o eiriau buddiol” yn cyfeirio at ddysgeidiaethau Cristnogol yn y Beibl. (Ioan 17:17) Y rhain ydy’r sylfaen o bopeth rydyn ni’n ei gredu. Mae cyfundrefn Jehofa wedi ein dysgu ni i lynu wrth y safon honno. Os ydyn ni’n gwneud hyn, byddwn ni’n cael ein bendithio.
14. Sut gwnaeth rhai Cristnogion golli eu gafael ar y “safon o eiriau buddiol”?
14 Beth gallai ddigwydd petasen ni ddim yn glynu wrth “y safon o eiriau buddiol”? Ystyria esiampl. Yn y ganrif gyntaf, gwnaeth rhai Cristnogion ledaenu stori ffug yn dweud bod dydd Jehofa wedi cyrraedd. Efallai fod rhai wedi meddwl bod yr apostol Paul wedi anfon llythyr i gefnogi hyn. Heb gymryd yr amser i ystyried y ffeithiau, roedd rhai yn Thesalonica yn credu’r stori ac yn ei hailadrodd! Fydden nhw ddim wedi cael eu twyllo petasen nhw ond wedi cofio beth ddysgodd Paul iddyn nhw. (2 Thes. 2:1-5) Rhoddodd Paul gyngor i’w frodyr i beidio â chredu popeth roedden nhw’n ei glywed. Ac i’w helpu nhw yn y dyfodol, gwnaeth Paul orffen ei ail lythyr at y Thesaloniaid gyda’r geiriau: “Mae’r cyfarchiad hwn yn fy llaw i fy hun, Paul, sy’n arwydd ym mhob llythyr; fel hyn rydw i’n ysgrifennu.”—2 Thes. 3:17.
15. Sut gallwn ni amddiffyn ein hunain rhag celwyddau sy’n ymddangos yn wir? Rho esiampl. (Gweler hefyd y llun.)
15 Beth gallwn ni ei ddysgu o eiriau Paul at y Thesaloniaid? Pan ydyn ni’n clywed storïau dramatig neu rywbeth sydd ddim yn cytuno â beth rydyn ni wedi ei ddysgu o’r Beibl, mae’n rhaid inni ddefnyddio doethineb. Yn yr Undeb Sofietaidd gynt, anfonodd ein gelynion lythyr a oedd yn ymddangos fel ei fod wedi dod oddi wrth y pencadlys. Roedd y llythyr yn annog rhai o’r brodyr i wahanu o’r Tystion ac i ffurfio cyfundrefn annibynnol. Roedd yn edrych yn gredadwy, ond ni chafodd brodyr ffyddlon eu twyllo. Sylweddolon nhw fod y llythyr yn anghytuno â beth roedden nhw wedi ei ddysgu. Heddiw, mae gelynion y gwir weithiau’n defnyddio technoleg i geisio ein drysu neu ein gwahanu ni. Gallwn ni amddiffyn ein hunain rhag cael ein ‘hysgwyd yn gyflym allan o’n synnwyr da’ drwy gymharu beth rydyn ni’n ei glywed neu’n ei ddarllen â’r gwirioneddau rydyn ni’n gwybod yn barod.—2 Thes. 2:2; 1 Ioan 4:1.
Paid â chael dy dwyllo gan gelwyddau sy’n ymddangos yn gredadwy (Gweler paragraff 15)a
16. Yn ôl Rhufeiniaid 16:17, 18, beth dylen ni ei wneud os ydy rhai yn crwydro oddi wrth y gwir?
16 Arhosa’n unol â’r rhai sy’n ffyddlon i Jehofa. Mae Jehofa eisiau inni ei wasanaethu gyda’n brodyr a’n chwiorydd. Os ydyn ni’n glynu wrth y gwir, byddwn ni’n aros yn unedig. Mae unrhyw un sy’n lledaenu gwybodaeth sy’n mynd yn erbyn y gwir yn achosi rhaniadau yn y gynulleidfa, felly mae Duw yn ein rhybuddio ni i gadw draw oddi wrthyn nhw. Y peryg yw, gallwn ni ddechrau credu’r celwyddau, ac o ganlyniad bod yn anffyddlon i Jehofa.—Darllen Rhufeiniaid 16:17, 18.
17. Pa fendithion sy’n dod o wybod y gwir a dal ein gafael ynddo?
17 Pan ydyn ni’n gwybod beth ydy’r gwir yn y Beibl ac yn glynu wrtho, byddwn ni’n aros yn agos at Jehofa ac yn cadw ein ffydd yn gryf. (Eff. 4:15, 16) Fyddwn ni ddim yn cael ein twyllo gan ddysgeidiaethau ffals Satan a’i bropaganda, a byddwn ni’n saff o dan ofal Jehofa yn ystod y trychineb mawr. Dal ati i lynu wrth y gwir ‘a bydd y Duw sy’n rhoi heddwch gyda ti.’—Phil. 4:8, 9.
CÂN 122 Safwch yn Gadarn!
a DISGRIFIAD O’R LLUN: Llun yn portreadu’r brodyr ddegawdau yn ôl yn yr Undeb Sofietaidd gynt pan dderbynion nhw lythyr a oedd yn edrych fel ei fod yn dod o’r pencadlys, ond mewn gwirionedd a ddaeth oddi wrth ein gelynion. Yn yr oes fodern, mae ein gelynion wedi defnyddio’r rhyngrwyd i ledaenu gwybodaeth gamarweiniol am gyfundrefn Jehofa.