ERTHYGL ASTUDIO 33
CÂN 130 Byddwch Faddeugar
Sut Mae Jehofa Eisiau i’r Gynulleidfa Drin Pechaduriaid
“Os oes rhywun yn pechu, mae gynnon ni helpwr.” —1 IOAN 2:1.
PWRPAS
Gwersi pwysig gallwn ni eu dysgu o beth ddigwyddodd yn y gynulleidfa yng Nghorinth ar ôl i frawd bechu’n ddifrifol.
1. Beth yw dymuniad Jehofa ar gyfer pawb?
GWNAETH Jehofa greu pobl gydag ewyllys rhydd. Rwyt ti’n defnyddio’r rhodd hon wrth wneud penderfyniadau o ddydd i ddydd. Y penderfyniad pwysicaf gall person ei wneud yw ei gysegru ei hun i Jehofa ac i ymuno â’i deulu o addolwyr. Mae Jehofa’n dymuno i bawb wneud hyn. Pam? Oherwydd ei fod yn caru pobl ac eisiau’r gorau iddyn nhw. Mae ef eisiau iddyn nhw fwynhau perthynas agos ag ef ac i fyw am byth.—Deut. 30:19, 20; Gal. 6:7, 8.
2. Sut mae Jehofa’n teimlo am bechaduriaid diedifar? (1 Ioan 2:1)
2 Ond, dydy Jehofa ddim yn gorfodi unrhyw un i’w wasanaethu. Mae’n gadael i bob unigolyn ddewis beth i’w wneud. Beth os ydy Cristion yn pechu’n ddifrifol ar ôl cael ei fedyddio? Os dydy ef ddim yn edifarhau, bydd angen iddo gael ei roi allan o’r gynulleidfa. (1 Cor. 5:13) Er hynny, mae Jehofa’n gobeithio bydd y person yn troi’n ôl ato. Mewn gwirionedd, dyna reswm pwysig pam gwnaeth Ef dalu’r pris er mwyn gwneud maddeuant yn bosib ar gyfer pechaduriaid edifar. (Darllen 1 Ioan 2:1.) Mae Jehofa’n Dduw cariadus iawn, sy’n annog y rhai sydd wedi pechu’n ddifrifol i edifarhau.—Sech. 1:3; Rhuf. 2:4; Iago 4:8.
3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
3 Mae Jehofa eisiau inni efelychu ei agwedd tuag at bechod ac at y rhai sy’n pechu’n ddifrifol. Bydd yr erthygl hon yn trafod y ffordd gallwn ni wneud hynny. Wrth iti ddarllen yr erthygl, edrycha am (1) beth ddigwyddodd yn y gynulleidfa yng Nghorinth pan wnaeth brawd bechu’n ddifrifol, (2) yr arweiniad roddodd yr apostol Paul pan wnaeth y brawd edifarhau, a (3) beth mae’r hanes hwn yn dangos inni am agwedd Jehofa tuag at Gristnogion sydd wedi pechu’n ddifrifol.
BETH DDIGWYDDODD PAN WNAETH BRAWD YN Y GANRIF GYNTAF BECHU’N DDIFRIFOL?
4. Beth oedd wedi datblygu yng Nghynulleidfa Corinth yn y ganrif gyntaf? (1 Corinthiaid 5:1, 2)
4 Darllen 1 Corinthiaid 5:1, 2. Yn ystod ei drydedd daith genhadol, clywodd yr apostol Paul newyddion drwg am y gynulleidfa yng Nghorinth. Roedd brawd yn y gynulleidfa yn cael perthynas rywiol â’i lysfam. Roedd ymddygiad o’r fath yn ofnadwy a doedd “ddim hyd yn oed i’w gael ymhlith y cenhedloedd”! Roedd y gynulleidfa’n caniatáu hyn ac efallai’n teimlo’n falch o’r peth. Efallai yn eu meddyliau nhw roedden nhw’n efelychu trugaredd Duw tuag at bobl amherffaith. Ond, dydy ymddygiad o’r fath ymysg ei bobl ddim yn dderbyniol i Jehofa. Mae’n rhaid bod enw da’r gynulleidfa wedi cael ei effeithio gan ymddygiad mor ddigywilydd. Efallai byddai hyn wedi cael effaith ar Gristnogion a oedd yn cymdeithasu â’r dyn a gwneud iddyn nhw ei efelychu. Felly, beth wnaeth Paul arwain y gynulleidfa i’w wneud?
5. Beth roedd Paul yn gofyn i’r gynulleidfa yng Nghorinth ei wneud? (1 Corinthiaid 5:13) (Gweler hefyd y llun.)
5 Darllen 1 Corinthiaid 5:13. Cafodd Paul ei ysbrydoli i ysgrifennu llythyr yn cyfarwyddo’r gynulleidfa i roi’r pechadur diedifar allan o’u mysg. Sut roedd y Cristnogion ffyddlon i fod i’w drin? Dywedodd Paul am iddyn nhw “stopio cadw cwmni” ag ef. Beth roedd hynny’n ei olygu? Esboniodd Paul fod hyn yn cynnwys peidio “hyd yn oed â bwyta gyda dyn o’r fath.” (1 Cor. 5:11) Gall cael pryd o fwyd gyda rhywun arwain at dreulio mwy o amser gyda’r person. Yn amlwg felly, roedd Paul yn golygu na ddylai’r gynulleidfa gymdeithasu â’r dyn er mwyn amddiffyn y gynulleidfa o’i ddylanwad drwg. (1 Cor. 5:5-7) Yn ogystal, byddai peidio â chymdeithasu â’r dyn efallai’n gwneud iddo sylweddoli pa mor bell roedd wedi crwydro oddi wrth Jehofa, gwneud iddo deimlo cywilydd, a’i gymell i edifarhau.
Cafodd Paul ei ysbrydoli i ysgrifennu llythyr yn cyfarwyddo’r gynulleidfa i roi’r pechadur diedifar allan o’r gynulleidfa (Gweler paragraff 5)
6. Pa effaith a gafodd llythyr Paul ar y gynulleidfa ac ar y dyn a oedd wedi pechu?
6 Ar ôl anfon ei lythyr at y Cristnogion yng Nghorinth, roedd Paul yn poeni am sut byddai’r gynulleidfa’n ymateb. Yn y pen draw, daeth Titus â newyddion da i godi ei galon. Roedd y gynulleidfa wedi ymateb yn dda i lythyr Paul. (2 Cor. 7:6, 7) Roedden nhw wedi dilyn ei gyfarwyddiadau. Ar ben hynny, yn ystod y misoedd a oedd wedi mynd heibio ers i Paul anfon y llythyr, roedd y pechadur wedi edifarhau! Roedd wedi newid ei ymddygiad a’i agwedd a dechrau dilyn safonau cyfiawn Jehofa. (2 Cor. 7:8-11) Pa arweiniad byddai Paul yn rhoi i’r gynulleidfa nawr?
SUT ROEDD Y GYNULLEIDFA I FOD I DRIN Y PECHADUR
7. Ar ôl i’r dyn gael ei roi allan o’r gynulleidfa, beth oedd y canlyniad? (2 Corinthiaid 2:5-8)
7 Darllen 2 Corinthiaid 2:5-8. Dywedodd Paul fod y “cerydd hwn a roddwyd gan y mwyafrif yn ddigon i ddyn o’r fath.” Mewn geiriau eraill, roedd y ddisgyblaeth wedi gweithio. Beth oedd y nod? I helpu’r dyn i edifarhau.—Heb. 12:11.
8. Beth ddywedodd Paul wrth y gynulleidfa am iddyn nhw ei wneud nesaf?
8 Felly, rhoddodd Paul arweiniad i’r gynulleidfa i faddau i’r brawd yn “garedig a’i gysuro” ac “i gadarnhau [eu] cariad tuag ato.” Sylwa fod Paul eisiau i’r gynulleidfa wneud mwy na chaniatáu i’r dyn ddod yn ôl i’r gynulleidfa. Roedd eisiau iddyn nhw ddangos mewn gair a gweithred eu bod nhw’n wir wedi maddau iddo ac yn ei garu ef. Drwy wneud hyn, bydden nhw’n dangos eu bod nhw’n hapus i’w groesawu yn ôl.
9. Pam, efallai, roedd hi’n anodd i rai yn y gynulleidfa faddau i’r pechadur edifar?
9 A oedd rhai yn y gynulleidfa yn dal yn ôl rhag croesawu’r pechadur edifar yn ôl i’r gynulleidfa? Dydy’r Beibl ddim yn dweud, ond mae’n bosib. Wedi’r cwbl, roedd wedi creu helynt yn y gynulleidfa ac efallai fod rhai yn dal i frifo oherwydd ei ymddygiad tuag atyn nhw’n bersonol. Gan fod rhai wedi gweithio mor galed i aros yn foesol lân, efallai bydden nhw’n teimlo nad oedd yn deg i’r brawd gael croeso cynnes. (Cymhara Luc 15:28-30.) Ond pam roedd hi’n bwysig i’r gynulleidfa ddangos eu bod nhw’n wir yn ei garu?
10-11. Beth fyddai wedi gallu digwydd petasai’r henuriaid wedi gwrthod maddau i’r brawd edifar?
10 Dychmyga deimladau’r dyn edifar petasai’r henuriaid wedi gwrthod gadael iddo ddod yn ôl i’r gynulleidfa, neu petasai’r gynulleidfa wedi gwrthod dangos cariad ato ar ôl iddo ddod yn ôl. Gallai ef “gael ei lethu gan ormod o dristwch.” Efallai fe fyddai’n teimlo fel bod ei ymdrechion yn ofer neu hyd yn oed fel rhoi’r gorau i geisio adfer ei berthynas â Duw.
11 Yn waeth na hynny, petasai’r brodyr a’r chwiorydd yn y gynulleidfa yn gwrthod maddau i’r dyn edifar, bydden nhw’n peryglu eu perthynas nhw eu hunain â Jehofa. Pam? Oherwydd fydden nhw ddim yn adlewyrchu agwedd faddeugar Jehofa tuag at bechadur edifar. Yn lle hynny, bydden nhw’n efelychu agwedd greulon Satan, sydd ddim yn dangos trugaredd. Yna, byddai’r Diafol yn gallu eu defnyddio nhw i rwystro’r dyn rhag addoli Jehofa.—2 Cor. 2:10, 11; Eff. 4:27.
12. Sut gallai’r gynulleidfa yng Nghorinth fod wedi efelychu Jehofa?
12 Sut, felly, gallai’r gynulleidfa yng Nghorinth efelychu Jehofa yn lle Satan? Gan drin pechaduriaid edifar fel y mae Jehofa. Sylwa ar beth ddywedodd rhai ysgrifenwyr y Beibl am Jehofa. Mae’n “dda ac yn maddau,” meddai Dafydd. (Salm 86:5) Ysgrifennodd Micha: “Oes duw tebyg i ti?—Na! Ti’n maddau pechod ac yn anghofio gwrthryfel.” (Mich. 7:18) Hefyd, dywedodd Eseia: “Rhaid i’r euog droi cefn ar eu ffyrdd drwg, a’r rhai sy’n creu helynt ar eu bwriadau—troi’n ôl at yr ARGLWYDD, iddo ddangos trugaredd; troi at ein Duw ni, achos mae e mor barod i faddau.”—Esei. 55:7.
13. Pam roedd hi’n addas i’r dyn edifar gael ei adfer i’r gynulleidfa? (Gweler y blwch “Pryd Cafodd y Dyn yng Nghorinth Ei Adfer i’r Gynulleidfa?”)
13 Er mwyn efelychu Jehofa, roedd rhaid i’r gynulleidfa yng Nghorinth groesawu’r dyn edifar yn ôl a chadarnhau eu cariad tuag ato. Drwy ddilyn arweiniad Paul roedd y gynulleidfa’n dangos eu bod nhw’n “ufudd ym mhob peth.” (2 Cor. 2:9) Dim ond ychydig o fisoedd oedd wedi mynd heibio ers iddo gael ei roi allan o’r gynulleidfa, ond roedd y ddisgyblaeth wedi achosi iddo edifarhau. Felly, doedd ’na ddim rheswm dros oedi cyn ei adfer i’r gynulleidfa.
EFELYCHU CYFIAWNDER A THRUGAREDD JEHOFA
14-15. Beth rydyn ni wedi ei ddysgu o hanes y gynulleidfa yng Nghorinth? (2 Pedr 3:9) (Gweler hefyd y llun.)
14 Mae hanes y gynulleidfa yng Nghorinth wedi cael ei gynnwys yn y Beibl “i’n dysgu ni.” (Rhuf. 15:4) Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r hanes hwn? Er bod Jehofa’n drugarog, dydy ef ddim yn caniatáu i bechaduriaid diedifar aros yn y gynulleidfa. Nid pob math o ymddygiad sy’n dderbyniol iddo. Dydy ei safonau o dda a drwg byth yn newid. (Jwd. 4) Petasai Jehofa’n caniatáu i bechadur diedifar aros yn y gynulleidfa, fyddai Ef ddim yn dangos trugaredd oherwydd byddai’n peryglu’r gynulleidfa gyfan.—Diar. 13:20; 1 Cor. 15:33.
15 Eto, rydyn i’n dysgu nad ydy Jehofa’n dymuno i unrhyw un gael ei ddinistrio. Mae’n edrych am bob cyfle i achub pobl. Mae’n dangos trugaredd at y rhai sy’n newid eu meddyliau ac sydd eisiau adfer eu perthynas ag ef. (Esec. 33:11; darllen 2 Pedr 3:9.) Felly, pan wnaeth y dyn yng Nghorinth edifarhau a chefnu ar ei ymddygiad drwg, gorchmynnodd Jehofa y dylai’r gynulleidfa faddau i’r dyn a’i groesawu’n ôl.
Yn efelychu cariad a thrugaredd Jehofa, mae’r gynulleidfa yn estyn croeso cynnes i’r rhai sy’n cael eu hadfer i’r gynulleidfa (Gweler paragraffau 14-15)
16. Sut rwyt ti’n teimlo am y ffordd gwnaeth y gynulleidfa yng Nghorinth ddelio â’r sefyllfa?
16 Mae adolygu ymateb y gynulleidfa i beth ddigwyddodd yng Nghorinth yn ein helpu ni i weld cariad a chyfiawnder Jehofa ar waith. (Salm 33:5) Mae hyn yn rhoi mwy o resymau inni glodfori Jehofa. Wedi’r cwbl, mae angen i bob un ohonon ni gael maddeuant oherwydd ein bod ni i gyd yn pechu. Mae gynnon ni resymau da dros ddiolch i Jehofa am dalu’r pris sy’n gwneud maddeuant yn bosib. Mae gwybod bod Jehofa’n caru ei bobl ac eisiau’r gorau iddyn nhw yn wir yn ein calonogi ac yn ein cysuro ni!
17. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?
17 Os ydy rhywun yn pechu’n ddifrifol heddiw, sut gall henuriaid y gynulleidfa efelychu cariad Jehofa a helpu’r person i edifarhau? Sut dylai’r gynulleidfa ymateb pan mae’r henuriaid yn penderfynu rhoi rhywun allan o’r gynulleidfa, neu ei adfer? Bydd y cwestiynau hyn yn cael eu trafod yn yr erthyglau nesaf.
CÂN 109 Carwch o Ddyfnder Calon