LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w24 Awst tt. 26-31
  • Help i’r Rhai Sy’n Cael Eu Rhoi Allan o’r Gynulleidfa

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Help i’r Rhai Sy’n Cael Eu Rhoi Allan o’r Gynulleidfa
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • “RHOWCH Y PERSON DRWG ALLAN”
  • SUT MAE’R HENURIAID YN HELPU’R RHAI SY’N CAEL EU RHOI ALLAN
  • BETH DYLAI’R GYNULLEIDFA EI WNEUD?
  • EFELYCHU TRUGAREDD A THOSTURI JEHOFA
  • Ymateb i Bechod Gyda Chariad a Thrugaredd
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Sut Mae Jehofa Eisiau i’r Gynulleidfa Drin Pechaduriaid
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Sut Mae Tystion Jehofa yn Trin Pobl a Oedd yn Arfer Perthyn i’w Crefydd?
    Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
  • Galwa’r Henuriaid
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
w24 Awst tt. 26-31

ERTHYGL ASTUDIO 35

CÂN 123 Ymostwng yn Ffyddlon i’r Drefn Theocrataidd

Help i’r Rhai Sy’n Cael Eu Rhoi Allan o’r Gynulleidfa

“Bydd ’na fwy o lawenydd yn y nef oherwydd un pechadur sy’n edifarhau nag oherwydd 99 o rai cyfiawn sydd ddim angen edifarhau.”—LUC 15:7.

PWRPAS

Pam mae’n rhaid i rai gael eu rhoi allan o’r gynulleidfa a sut gall yr henuriaid helpu’r rhai hyn i edifarhau ac i nesáu at Jehofa unwaith eto.

1-2. (a) Sut mae Jehofa’n teimlo am bobl sy’n pechu’n fwriadol? (b) Beth mae Jehofa’n dymuno ar gyfer pechaduriaid?

NID pob math o ymddygiad sy’n dderbyniol i Dduw; mae’n casáu pechod. (Salm 5:​4-6) Mae’n disgwyl inni barchu’r safonau cyfiawn sydd yn ei Air, ond dydy ef ddim yn disgwyl perffeithrwydd gan bobl amherffaith. (Salm 130:​3, 4) Ar yr un pryd, dydy ef ddim yn derbyn ‘dynion annuwiol sydd wedi troi ei garedigrwydd rhyfeddol yn esgus dros ymddwyn heb gywilydd.’ (Jwd. 4) Yn wir, mae’r Beibl yn sôn am ‘ddinistr y bobl annuwiol’ yn rhyfel Armagedon.—2 Pedr 3:7; Dat. 16:16.

2 Ond, dydy Jehofa ddim yn dymuno i unrhyw un gael ei ddinistrio. Fel mae’r cylchgrawn hwn wedi trafod yn barod, mae’r Beibl yn dweud bod Duw yn “dymuno i bawb gael cyfle i edifarhau.” (2 Pedr 3:9) Mae henuriaid yn efelychu amynedd Jehofa drwy geisio helpu’r rhai sydd wedi pechu i newid eu ffyrdd ac i nesáu ato unwaith eto. Ond, nid pawb sy’n ymateb yn dda. (Esei. 6:9) Mae rhai yn parhau i bechu er gwaethaf ymdrechion parhaol yr henuriaid i’w helpu nhw i edifarhau. Beth dylai’r henuriaid ei wneud mewn sefyllfa o’r fath?

“RHOWCH Y PERSON DRWG ALLAN”

3. (a) Yn ôl y Beibl, beth ddylai ddigwydd i bechadur diedifar? (b) Pam gallwn ni ddweud bod y pechadur, mewn ffordd, wedi dewis cael ei roi allan o’r gynulleidfa?

3 Pan nad ydy person sydd wedi pechu’n edifarhau, mae’n rhaid i’r henuriaid ddilyn yr arweiniad yn 1 Corinthiaid 5:13: “Rhowch y person drwg allan o’ch mysg.” Mewn ffordd, mae’r pechadur wedi dewis y canlyniad; mae’n medi beth mae efa wedi ei hau. (Gal. 6:7) Pam gallwn ni ddweud hynny? Oherwydd ei fod wedi gwrthod ymateb i ymdrechion parhaol yr henuriaid i’w helpu i edifarhau. (2 Bren. 17:​12-15) Mae ei weithredoedd yn dangos ei fod wedi dewis peidio â byw yn unol â safonau Jehofa.—Deut. 30:​19, 20.

4. Pam mae cyhoeddiad yn cael ei wneud pan fydd pechadur diedifar yn cael ei roi allan o’r gynulleidfa?

4 Pan fydd pechadur diedifar yn cael ei roi allan o’r gynulleidfa, mae cyhoeddiad yn cael ei wneud i ddweud wrth y gynulleidfa nad ydy’r person yn un o Dystion Jehofa bellach.b Dydy hynny ddim yn cael ei wneud i fychanu’r person. Yn hytrach, mae’r cyhoeddiad yn cael ei wneud er mwyn i’r gynulleidfa ddilyn cyfarwyddyd y Beibl i “stopio cadw cwmni” y person ac i ‘beidio hyd yn oed â bwyta’ gydag ef. (1 Cor. 5:​9-11) Mae ’na reswm da am yr arweiniad hwn. Ysgrifennodd yr apostol Paul fod “ychydig o lefain yn lledu drwy’r holl does.” (1 Cor. 5:6) Gall pechaduriaid diedifar wneud i eraill fod yn llai penderfynol o fyw yn ôl safonau Jehofa.—Diar. 13:20; 1 Cor. 15:33.

5. Sut dylen ni ystyried cyd-grediniwr sy’n cael ei roi allan o’r gynulleidfa, a pham?

5 Felly, sut dylen ni ystyried cyd-grediniwr sy’n cael ei roi allan o’r gynulleidfa? Er nad ydyn ni’n cymdeithasu ag ef, dylen ni ei ystyried fel dafad goll, nid achos coll. Pan mae dafad wedi crwydro oddi wrth y praidd, fe allai ddod yn ôl. Cofia fod y person wedi ei gysegru ei hun i Jehofa. Yn drist iawn, dydy ef ddim yn byw yn unol â’i ymgysegriad ar hyn o bryd, ac mae hynny’n beryglus iawn. (Esec. 18:31) Er hynny, tra bod trugaredd Jehofa ar gael, mae ’na obaith y bydd y person yn dod yn ôl. Sut gall yr henuriaid weithio’n unol â’r gobaith hwnnw yn y ffordd maen nhw’n trin pechadur sydd wedi cael ei roi allan o’r gynulleidfa?

SUT MAE’R HENURIAID YN HELPU’R RHAI SY’N CAEL EU RHOI ALLAN

6. Sut bydd yr henuriaid yn ceisio helpu rhywun sydd wedi cael ei roi allan o’r gynulleidfa?

6 Os ydy rhywun wedi cael ei roi allan o’r gynulleidfa, a ydy hynny’n golygu bod yr henuriaid wedi cefnu arno neu wedi ei adael ar ei ben ei hun i ddod yn ôl at Jehofa? Ddim o gwbl! Pan mae’r pwyllgor o henuriaid yn dweud wrth bechadur diedifar y bydd rhaid iddo gael ei roi allan o’r gynulleidfa, byddan nhw hefyd yn esbonio iddo’r camau y gall ef eu cymryd i ddod yn ôl. Ond bydd yr henuriaid yn gwneud mwy ’na hynny. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddan nhw’n dweud wrth y person sydd wedi pechu y byddan nhw’n hoffi cael cyfarfod ag ef ar ôl rhai misoedd i weld a ydy ef wedi newid ei agwedd. Os ydy’r person yn fodlon cwrdd â nhw eto, yn y cyfarfod hwnnw bydd yr henuriaid yn ei annog i edifarhau a dod yn ôl. Hyd yn oed os nad ydy ef wedi newid ei agwedd, bydd yr henuriaid yn ymdrechu i gysylltu ag ef o bryd i’w gilydd yn y dyfodol.

7. Sut mae’r henuriaid yn efelychu tosturi Jehofa wrth ddelio â rhywun sydd wedi cael ei roi allan o’r gynulleidfa? (Jeremeia 3:12)

7 Mae’r henuriaid yn ceisio efelychu tosturi Jehofa wrth ddelio â rhywun sydd wedi cael ei roi allan o’r gynulleidfa. Er enghraifft, yn lle aros am yr Israeliaid anffyddlon i gymryd y cam cyntaf, anfonodd Jehofa ei broffwydi atyn nhw cyn iddyn nhw edifarhau. Fel y gwelon ni yn ail erthygl y cylchgrawn hwn, eglurodd Jehofa ei dosturi drwy ddweud wrth y proffwyd Hosea am faddau i’w wraig a’i chymryd hi’n ôl er ei bod hi’n dal i bechu. (Hos. 3:1; Mal. 3:7) Gan efelychu Jehofa, mae henuriaid yn wir eisiau i’r pechadur ddod yn ôl ac maen nhw’n agor y ffordd iddo i wneud hynny.—Darllen Jeremeia 3:12.

8. Sut mae dameg Iesu am y mab colledig yn ein helpu ni i ddeall tosturi a thrugaredd Jehofa? (Luc 15:7)

8 Cofia ymateb y tad yn nameg Iesu am y mab colledig. Pan welodd ei fab yn dod yn ôl, dyma’r tad yn “rhedeg ato ac yn ei gofleidio ac yn ei gusanu’n dyner.” (Luc 15:20) Ni wnaeth y tad aros i’r mab erfyn am faddeuant. Yn hytrach, fe gymerodd y cam cyntaf, fel byddai unrhyw dad cariadus yn gwneud. Mae’r henuriaid yn ceisio dangos yr un agwedd tuag at rai sydd wedi crwydro. Maen nhw eisiau i’r defaid colledig ddod adref, fel petai. (Luc 15:​22-24, 32) Mae ’na lawenydd mawr yn y nef pan fydd pechadur yn dod yn ôl, ac mae ’na lawenydd ar y ddaear hefyd!—Darllen Luc 15:7.

9. Pa anogaeth mae Jehofa’n ei rhoi i bechaduriaid?

9 O beth rydyn ni wedi ei ystyried hyd yn hyn, mae’n glir nad ydy Jehofa’n caniatáu i bechaduriaid diedifar aros yn y gynulleidfa. Ond dydy hynny ddim yn golygu ei fod yn cefnu arnyn nhw. Mae Jehofa eisiau iddyn nhw droi’n ôl. Mae llyfr Hosea yn mynegi teimladau Jehofa tuag at bechaduriaid edifar: “Bydda i’n iacháu eu hanffyddlondeb. Bydda i’n eu caru nhw o wirfodd fy nghalon, oherwydd bod fy nicter wedi troi oddi wrtho.” (Hosea 14:​4, NWT) Mae gwybod hyn yn sbarduno henuriaid i edrych am unrhyw newid yn y person sy’n dangos ei fod yn edifarhau. Ac mae’n rhoi cymhelliad cryf i’r rhai sydd wedi gadael Jehofa i ddod yn ôl heb oedi.

10-11. Sut bydd yr henuriaid yn ceisio helpu unigolion a gafodd eu rhoi allan o’r gynulleidfa flynyddoedd yn ôl?

10 Beth am unigolion a gafodd eu rhoi allan o’r gynulleidfa flynyddoedd yn ôl? Efallai na fydd yr unigolion hyn yn dal i gyflawni’r pechod a wnaeth achosi iddyn nhw gael eu rhoi allan. Mewn rhai achosion, efallai na fyddan nhw’n cofio pam cawson nhw eu rhoi allan. Beth bynnag yw’r achos, bydd yr henuriaid yn ceisio dod o hyd i’r unigolion hyn a mynd i’w gweld nhw. Yn ystod ymweliadau fel hyn, bydd yr henuriaid yn cynnig gweddïo â nhw a’u hannog yn garedig i ddod yn ôl i’r gynulleidfa. Wrth gwrs, os ydy’r person wedi bod i ffwrdd o’r gynulleidfa am lawer o flynyddoedd, fe fydd yn wan yn ysbrydol. Felly, os ydy’r unigolyn yn dweud ei fod eisiau dod yn ôl i’r gynulleidfa, gallai’r henuriaid drefnu i rywun astudio’r Beibl ag ef, er nad ydy ef wedi cael ei adfer i’r gynulleidfa eto. Ym mhob achos, yr henuriaid sy’n gyfrifol am drefnu’r astudiaeth.

11 Mae henuriaid yn efelychu tosturi Jehofa drwy geisio helpu cymaint â phosib i wybod bod ’na groeso cynnes iddyn nhw ddod yn ôl. Pan mae pechadur yn dangos ei fod yn edifar ac wedi newid ei agwedd a’i ymddygiad, mae’n gallu cael ei adfer heb oedi.—2 Cor. 2:​6-8.

12. (a) Ym mha sefyllfaoedd dylai henuriaid fod yn hynod o ofalus? (b) Pam dylen ni beidio â dweud na all rhai pechaduriaid dderbyn trugaredd Jehofa? (Gweler hefyd y troednodyn.)

12 Mewn rhai sefyllfaoedd bydd angen i’r henuriaid fod yn hynod o ofalus cyn adfer rhywun i’r gynulleidfa. Er enghraifft, os ydy rhywun wedi cam-drin plant, wedi bod yn wrthgiliol, neu wedi cynllwynio i dorri priodas, bydd angen i’r henuriaid wneud yn siŵr ei fod yn wir wedi edifarhau. (Mal. 2:14; 2 Tim. 3:6) Mae’n hanfodol eu bod nhw’n amddiffyn y praidd. Ar yr un pryd, mae angen inni ddeall y bydd Jehofa’n derbyn yn ôl unrhyw un sy’n wir wedi edifarhau ac wedi stopio gwneud y peth drwg. Er bod yr henuriaid yn cymryd pwyll wrth ddelio â rhai sydd wedi trin eraill yn fradwrus, ni ddylen nhw fynd mor bell â dweud na all rhai pechaduriaid dderbyn trugaredd Jehofa.c—1 Pedr 2:10.

BETH DYLAI’R GYNULLEIDFA EI WNEUD?

13. Beth ydy’r gwahaniaeth rhwng y ffordd rydyn ni’n trin rhywun sydd wedi cael ei geryddu gan yr henuriaid a’r ffordd rydyn ni’n trin rhywun sydd wedi cael ei roi allan o’r gynulleidfa?

13 Fel dywedodd yr erthygl flaenorol, weithiau mae cyhoeddiad yn cael ei wneud i’r gynulleidfa fod person wedi cael ei geryddu. Mewn achos felly, gallwn ni barhau i gymdeithasu ag ef gan wybod ei fod wedi newid ei ffordd o feddwl a’i ymddygiad ac wedi edifarhau. (1 Tim. 5:20) Mae ef yn dal yn rhan o’r gynulleidfa ac mae angen iddo gael yr anogaeth sy’n dod o gymdeithasu â chyd-gredinwyr. (Heb. 10:​24, 25) Ond, mae’r sefyllfa yn wahanol gyda rhywun sydd wedi cael ei roi allan o’r gynulleidfa. Rydyn ni’n “stopio cadw cwmni” ag ef, ac yn ‘peidio hyd yn oed â bwyta gyda dyn o’r fath.’—1 Cor. 5:11.

14. Sut gall Cristion ddefnyddio ei gydwybod yn y mater o gyfarch rhywun sydd wedi cael ei roi allan o’r gynulleidfa? (Gweler hefyd y llun.)

14 A ydy hynny’n golygu byddwn ni’n anwybyddu yn llwyr rywun sydd wedi cael ei roi allan o’r gynulleidfa? Ddim o reidrwydd. Yn bendant, fyddwn ni ddim yn cymdeithasu ag ef. Ond, os oedd yn ffrind agos inni cyn iddo gael ei roi allan o’r gynulleidfa neu mae’n un o’n perthnasau, gallwn ni ddewis ei wahodd i’r cyfarfodydd. Beth os ydy ef yn dod? Yn y gorffennol, doedden ni ddim hyd yn oed yn cyfarch y person. Ond nawr, mae angen i bob Cristion ddefnyddio ei gydwybod sydd wedi ei hyfforddi gan y Beibl i wneud penderfyniad. Efallai bydd rhai yn teimlo’n gyfforddus yn cyfarch y person neu yn ei groesawu i’r cyfarfod. Ond, fyddwn ni ddim yn cael sgwrs hir na chymdeithasu ag ef.

Collage: 1. Chwaer yn ffonio dynes sydd wedi cael ei rhoi allan o’r gynulleidfa i’w gwahodd hi i’r cyfarfod. 2. Mae’r chwaer a’i gŵr yn estyn croeso cynnes i’r ddynes cyn y cyfarfod.

Gall Cristnogion ddefnyddio eu cydwybod i benderfynu a ydyn nhw’n mynd i wahodd rhywun sydd wedi ei roi allan o’r gynulleidfa i’r cyfarfod, neu a ydyn nhw’n mynd i’w gyfarch (Gweler paragraff 14)


15. At ba fath o bechaduriaid y mae 2 Ioan 9-11 yn cyfeirio? (Gweler hefyd y blwch “A Oedd Ioan a Paul yn Cyfeirio at yr Un Math o Bechod?”)

15 Efallai bydd rhai yn gofyn, ‘Onid ydy’r Beibl yn dweud y bydd Cristion sy’n cyfarch person o’r fath yn rhannu yn ei weithredoedd drwg?’ (Darllen 2 Ioan 9-11.) Mae cyd-destun yr adnodau hyn yn dangos bod yr arweiniad yn cyfeirio at wrthgilwyr ac eraill sy’n hyrwyddo ymddygiad drwg. (Dat. 2:20) Felly, os ydy person yn hyrwyddo dysgeidiaethau gwrthgiliol neu ymddygiad drwg, fydd yr henuriaid ddim yn trefnu cyfarfod ag ef. Wrth gwrs, mae’n dal yn bosib i’r person edifarhau. Ond nes i hynny ddigwydd, fyddwn ni ddim yn cyfarch y person na’i wahodd i ddod i un o gyfarfodydd y gynulleidfa.

A Oedd Ioan a Paul yn Cyfeirio at yr Un Math o Bechod?

Yn ei ail lythyr ysbrydoledig, ysgrifennodd yr apostol Ioan: “Os yw rhywun yn dod atoch chi ac nid yw’n dysgu yn unol â’r hyn a ddysgodd Crist, peidiwch â’i wahodd i mewn i’ch cartrefi na’i gyfarch. Oherwydd bod yr un sy’n ei gyfarch yn rhannu yn ei weithredoedd drwg.”—2 Ioan 10, 11.

Dywedodd yr apostol Paul yn 1 Corinthiaid 5:11 wrth y Cristnogion i “stopio cadw cwmni” unrhyw un a oedd wedi cael ei roi allan o’r gynulleidfa. A oedd Ioan yn ychwanegu at hyn drwy ddweud na ddylen ni eu ‘cyfarch’? A oedden nhw’n cyfeirio at yr un math o bechod? Nac oedden.

Ystyria’r amgylchiadau gwahanol roedden nhw’n sôn amdanyn nhw. Ysgrifennodd Paul am ddyn a oedd yn cyflawni anfoesoldeb rhywiol. Tua 43 blynedd ar ôl hynny, ysgrifennodd Ioan am wrthgilwyr a oedd yn hyrwyddo gau-ddysgeidiaethau ac ymddygiad drwg. Er enghraifft, roedd rhai’n dysgu nad Iesu oedd y Crist.—1 Ioan 2:22; 4:​2, 3.

Pan ysgrifennodd Ioan ei lythyrau, roedd ’na lawer o wrthgilwyr yn y gynulleidfa yn barod. Er ei fod yn gwybod na allai ef stopio’r gwrthgiliad yn gyfan gwbl, fe gyflawnodd ei gyfrifoldeb fel apostol drwy “ei ddal yn ôl” mor hir â phosib.—2 Thes. 2:7.

Fe wnaeth Ioan rybuddio ei gyd-gredinwyr am beidio â gadael i’r gau-athrawon eu twyllo nhw. Fe ddywedodd wrth y Cristnogion am beidio byth â gadael i bobl o’r fath ddod i mewn i’w cartrefi na hyd yn oed eu cyfarch nhw. Petasen nhw wedi gwneud hynny, bydden nhw wedi agor y ffordd i’r gwrthgilwyr i wthio eu syniadau arnyn nhw. Gallai rhywbeth tebyg ddigwydd petasai rhywun yn rhoi sylwad ar wefannau neu gyfryngau cymdeithasol gwrthgiliol. Byddai unrhyw un sy’n cyfathrebu â gwrthgiliwr yn “rhannu yn ei weithredoedd drwg.”

Yn wahanol i hynny, gallwn ni weld yn 1 Corinthiaid pennod 5 fod Paul wedi ysgrifennu am ddyn a oedd wedi cael ei roi allan o’r gynulleidfa oherwydd anfoesoldeb rhywiol. Ond doedd y dyn hwn ddim yn wrthgiliwr nac yn dweud wrth eraill am fynd yn erbyn safonau Jehofa. (Cymhara Datguddiad 2:20.) Felly er bod Paul wedi dweud wrth y gynulleidfa am stopio cadw cwmni’r dyn—ddim hyd yn oed yn bwyta ag ef—ni ddywedodd unrhyw beth am beidio â’i gyfarch.

EFELYCHU TRUGAREDD A THOSTURI JEHOFA

16-17. (a) Beth mae Jehofa eisiau i bechaduriaid ei wneud? (Eseciel 18:32) (b) Sut gall henuriaid gyd-weithio â Jehofa wrth geisio helpu pechaduriaid?

16 Beth rydyn ni wedi ei ddysgu o’r cylchgrawn hwn? Dydy Jehofa ddim yn dymuno i unrhyw un gael ei ddinistrio! (Darllen Eseciel 18:32.) Mae ef eisiau i bobl sydd wedi pechu nesáu ato unwaith eto. (2 Cor. 5:20) Dyna pam drwy gydol hanes, mae Jehofa yn wastad wedi annog unrhyw un sydd wedi bod yn anffyddlon iddo i edifarhau a throi’n ôl ato. Mae gan henuriaid y fraint o fod yn gyd-weithwyr â Jehofa wrth iddyn nhw geisio helpu pechaduriaid i edifarhau.—Rhuf. 2:4; 1 Cor. 3:9.

17 Dychmyga’r llawenydd yn y nef pan mae pechaduriaid yn edifarhau! Mae ein Tad cariadus, Jehofa ei hun, yn teimlo’r llawenydd hwnnw bob tro mae un o’i ddefaid colledig yn dod yn ôl i’r gynulleidfa. Mae ein cariad tuag at Jehofa yn parhau i dyfu wrth inni fyfyrio ar ei dosturi, ei drugaredd, a’i garedigrwydd rhyfeddol.—Luc 1:78.

SUT BYDDET TI’N ATEB?

  • Pam mae’n rhaid i rai gael eu rhoi allan o’r gynulleidfa?

  • Sut gall henuriaid efelychu tosturi Jehofa?

  • Pa benderfyniadau personol gall Cristion eu gwneud wrth ddelio â rhai sydd wedi cael eu rhoi allan o’r gynulleidfa?

CÂN 111 Rhesymau Dros Ein Llawenydd

a Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n cyfeirio at y person sydd wedi pechu fel dyn. Ond, mae’r wybodaeth yr un mor berthnasol i ferched.

b Fyddwn ni ddim bellach yn cyfeirio at bobl yn cael eu diarddel. Yn unol â geiriau Paul yn 1 Corinthiaid 5:​13, byddwn ni’n cyfeirio atyn nhw fel rhai sydd wedi cael eu rhoi allan o’r gynulleidfa.

c Mae’r Beibl yn sôn am rai pobl sydd ddim yn gallu cael maddeuant. Nid y math o bechod sy’n achosi hyn, ond eu hagwedd oherwydd eu bod nhw wedi penderfynu gwrthwynebu Duw yn barhaol. Dim ond Jehofa ac Iesu sy’n gallu barnu a ydy rhywun wedi cyflawni pechod fel hyn.—Marc 3:29; Heb. 10:​26, 27.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu