Creulondeb Rhyfel
Rhyfel yw un o’r pethau gwaethaf a all ddigwydd i rywun. Mae milwyr a sifiliaid ledled y byd sydd wedi profi creulondeb rhyfel yn gwybod yn iawn am ei effeithiau.
MILWYR
“Mae pethau ofnadwy—anafiadau erchyll a marwolaethau—yn digwydd ar bob ochr. Dwyt ti byth yn teimlo’n saff.”—Gary, Prydain.
“Ces i fwledi yn fy nghefn ac yn fy wyneb, a gwelais lawer yn cael eu lladd, gan gynnwys plant a hen bobl. Mae rhyfel yn caledu’r galon.”—Wilmar, Colombia
“Pan gaiff rhywun ei saethu o flaen dy lygaid, dydy’r olygfa ddim yn diflannu. Rwyt ti’n dal i weld y sgrechian a’r griddfan. Dwyt ti byth yn anghofio.”—Zafirah, Unol Daleithiau.
SIFILIAID
“Ro’n i’n teimlo na fyddwn i byth eto’n hapus. Rwyt ti’n pryderu am dy fywyd, ond yn fwy na hynny, rwyt ti’n pryderu am fywydau dy deulu a dy ffrindiau.”—Oleksandra, Wcráin.
“Peth dychrynllyd ydy gorfod sefyll mewn ciw ar gyfer bwyd o 2:00 y bore tan 11:00 y nos, heb wybod a fyddi di’n cael dy daro gan fwled o’r ymladd gerllaw.”—Daler, Tajicistan.
“Cafodd fy rhieni eu lladd mewn rhyfel. Doedd gen i neb i roi cysur imi nac i ofalu amdana i.”—Marie, Rwanda.
Er bod y bobl hyn wedi dioddef oherwydd rhyfeloedd, maen nhw i gyd wedi dod o hyd i heddwch. Ar ben hynny, maen nhw’n hyderus y bydd rhyfel a gwrthdaro yn dod i ben yn fuan. Bydd y rhifyn hwn o’r Tŵr Gwylio yn defnyddio’r Beibl i esbonio sut bydd hynny yn digwydd.