Sut Mae Rhyfel a Gwrthdaro Arfog yn Effeithio Arnon Ni i Gyd
“Mae’r byd yn wynebu mwy o wrthdaro arfog nag ar unrhyw adeg ers yr Ail Ryfel Byd. Mae chwarter poblogaeth y byd yn byw mewn gwledydd lle mae gwrthdaro.”
Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Amina Mohammed, 26 Ionawr, 2023.
Gall rhyfel a gwrthdaro arfog gychwyn yn sydyn mewn llefydd sydd wedi bod yn heddychlon. Gan fod y byd yn fwy cysylltiedig nag erioed o’r blaen, mae hyd yn oed pobl sy’n byw yn bell o’r rhyfel yn gallu dioddef. Ac mae’r niwed yn para ymhell ar ôl i’r ymladd ddod i ben. Ystyriwch rai enghreifftiau.
Prinder bwyd. Yn ôl Rhaglen Fwyd y Byd, “rhyfel yw prif achos newyn, gyda 70 y cant o’r bobl sy’n dioddef newyn yn byw mewn ardaloedd sydd wedi eu heffeithio gan ryfel a thrais.”
Problemau iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Mae bygythiad rhyfel a’r ansicrwydd y mae’n ei greu’n achosi straen a phryder. Mewn ardaloedd lle mae gwrthdaro, mae pobl yn fwy tebygol o ddioddef niwed corfforol a phroblemau iechyd meddwl. Ac yn aml, mae’n anodd iddyn nhw gael help meddygol.
Gorfod ffoi. Erbyn Medi 2023, roedd mwy na 114 miliwn o bobl drwy’r byd wedi gorfod ffoi o’u cartrefi, yn ôl Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid. Rhyfel a gwrthdaro arfog yw un o’r prif resymau am yr argyfwng hwn.
Caledi economaidd. Yn aml, bydd rhyfel yn gwneud i brisiau godi ac mae hynny yn achosi problemau economaidd. Mae pobl yn dioddef pan fydd arian a fyddai fel arfer yn cael ei wario ar ofal iechyd ac addysg yn cael ei wario ar ymgyrchoedd milwrol. Ac mae’r gost o ailadeiladu ar ôl rhyfeloedd yn aruthrol.
Niwed i’r amgylchedd. Mae pobl yn dioddef pan fydd yr adnoddau naturiol y maen nhw’n dibynnu arnyn nhw yn cael eu dinistrio. Gall dŵr, aer, a phridd llygredig achosi problemau iechyd hirdymor, ac mae peryg ffrwydron tir yn para ymhell ar ôl i’r ymladd ddod i ben.
Heb os, mae rhyfeloedd yn ddinistriol ac yn gostus